Wednesday, June 30, 2004

'Nôl o Mexico

Ie, bues i ym Mexico am gyfnod, a dyma fi yn ôl heb salwch neu glefyd. A dweud y gwir, mae'n od iawn ond ers i ni ddod yn ôl, mae fy stumog wed bod yn teimlo'n ych-a-fi. Ond doedd dim byd yn bod arni dros y daith. Dyma beth da, dwi'n dyfalu.

Fe aethon ni i briodas ein ffrind David, a oedd yn priodi menyw o Celaya, Mexico--taith dair awr a hanner gyda'r bws o Mexico City. Ond cawson ni antur ar ôl i ni gyrraedd ym Mexico City achos bod David yn trefnu ein gwesty, ond mewn gwirionedd, dim gwesty oedd e, ond gwely-a-brecwast mewn fflats y brifysgol Mexico, a doedd dim stafell gadw gyda'n enwau ni. Hefyd, doedd neb gartre yno i adael ni i mewn, a wnaeth y ceidwaid ddim eisiau gadael ni i mewn heb fod rhywun yno. Doedd y ceidwaid ddim yn gwybod enw David, a do'n ni ddim yn gwybod enw y fenyw oedd biau'r gwely-a-brecwast. Addawodd David e-bostio ni gyda'r manylion i gyd, ond gwaetha'r modd, roedd e'n mynd yn ffôl gyda trefnu'r priodas, felly dim e-bost. A fi heb lawer o Sbaeneg. Yn ffodus, daeth perchennog y gwely-a-brecwast yn ôl ar ôl awr...ac aeth gweddill y daith yn dda iawn, gydag ymweliad i'r pyramids yn Teotihuacán. Roedd y priodas yn hyfryd a'r parti yn dymunol gyda llawer o tequila, wrth gwrs.

Gwaetha'r modd, dw i ddim yn hoff iawn o tequila.

Tuesday, June 22, 2004

Teithio i Mecsico!

Bydda i'n mynd i Mecsico rhwng Dydd Mercher a Dydd Sul, i fynychu priodas ffrind i ni, felly dim postio nes i fi ddod yn ôl! Mae'n ddrwg 'da fi. Dw i ddim yn siwr os bydda i'n gallu ffeindio caffi rhyngrwyd, ond efallai bydd post "o'r cae"...

Thursday, June 17, 2004

Cymru ar y We, Newydd a Wedi'i Gwella!

Yr wythnos yma, fe ges i neges oddi wrth yr LlGC--mae Cymru ar y We wedi'i ail-gynllunio. Dw i wedi bod yn defnyddio CAYW o bryd i'w gilydd i ymchwilio erthyglau neu ffeindio rhyw wybodaeth hanesyddol/daearyddiaethol ar gyfer fy nofel i bobl ifanc. Mae CAYW'n wych--tsecwch hi allan! (Oedd hynny'n Americanism ofnadwy?)

Yn siarad am fy nofel, ym...dw i'n dal i'w ysgrifennu...jyst wedi gorffen Pennod 18 dydd Llun. Rhyw ddyrnaid o bennodau ar ôl! Hoffwn i ei gorffen cyn diwedd yr haf. Dw i wedi ymuno â grwp awduron sy'n sgrifennu nofelau i bobl ifanc er mwyn para i ysgrifennu dros dyddiau poeth yr haf.

Hei, oes côd nodau am w^?

Tuesday, June 15, 2004

Llawysgrifau Cynnar yn Gymraeg

Rhyw bythefnos yn ôl, rhoiais i erthygl newydd i fyny ar fy ngwefan Suite101.com, am Lawysgrifau Cynnar yn Gymraeg. Mae'r erthygl hon yn sôn am Lyfr Du Caerfyrddin; bydd erthyglau dyfodol yn sôn am Lyfr Coch Hergest, Llyfr Taliesin, a Llyfr Aneurin. Mae cysylltiadau diddorol (wel, dw i'n credu) dan yr erthygl, hefyd--cyfieithiadau'r llyfrau, gwybodaeth am y llên Gymraeg, ac yn y blaen.

Sunday, June 13, 2004

Enwogrwydd, Dyma Fi

Wel, dyma 'mhost cyntaf ar fy ngweflog Cymraeg. Dw i'n gobeithio postio rhywbeth oddiar y blog o leiaf tairgwaith y wythnos--er mwyn i fi ymarfer fy Ngymraeg, a hefyd tynnu sylw at ddigwyddiadau neu gwefannau Cymraeg. Gobeithio eich bod chi'n mwynhau fy maldordd gorfwyll! (Cliciwch yma os dych chi angen geiriadur... Roedd rhaid i fi ddefnyddio geiriadur, siwr o fod.)