Tuesday, November 30, 2004

Tipyn Bach Amdana I

Fel dw i'n sownd fan 'ma gyda cath ar fy nglin, a fel gofynnodd rhywun a ydw i'n wir yn byw yn California, dyma rhywbeth bach amdana i, yn Gymraeg wrth gwrs. Ond bydd hi'n swnio fel paragraff ar gyfer dosbarth.

Sarah ydw i, a dw i'n 27 oed. Dw i'n dod o Dde California yn wreiddiol, ond dw i'n byw yng Ngogledd California bellach. Dw i'n awdur ac artist. Dw i'n ysgrifennu nofel dirgelwch i bobl ifanc (yn eu harddegau), ac mae rhannau o'r nofel wedi'i lleoli yn Ne Cymru. Fel artist, dw i'n hoffi gwneud cerfiadau (etchings) a pheintio. Dw i'n briod. Mae fy ngwr i, Rob, yn athro celfyddyd yn y coleg lleol, ac hefyd mae e'n hoffi canu'r bass. Does dim plant 'da ni, ond mae 'da ni gath hyfryd o'r enw Roxie. Dyn ni'n mwynhau teithio, bwyta, loncian, a gemau fideo.

Dw i ddim yn siwr os mae gwreiddiau Cymreig 'da fi, ond dw i'n hoff iawn o ieithoedd, a dw i'n hoff iawn o Gymru (ar ôl sawl ymweliad i Brydain), felly penderfynais i ddysgu Cymraeg yn 1996. Dw i'n ysgrifenyddes Cymdeithas Madog, cymdeithas sy'n hybu diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg yn yr U.D.A. A dyma fi mewn cragen cneuen (?). Wrth gwrs mae llawer mwy, ond dyna ddigon am heddiw. Hen bryd i fi ddechrau swper. Cawl minestrone--iym!

Wednesday, November 17, 2004

Pethau yn Saesneg - Dim Iaith y Nefoedd Yma

Dw i wedi cyhoeddi erthygl newydd ar fy ngwefan Suite101.com--mae'r erthygl ddiweddaraf yn sôn am flogiau Cymraeg.

Os dych chi'n tybed beth sy'n digwydd ar Gwrs Cymraeg Cymdeithas Madog bob haf, dyma erthygl i chi am y Cwrs Haf 2004 yn Ottawa, prifddinas Canada. Hefyd, mae 'na lluniau a copi'r Papur y Cwrs sy'n cael ei gynhyrchu bob tro.

Beth am ieithoedd eraill? Mae'r arwyddion i gyd yng ngorsaf trên Newcastle wedi cael eu cyfieithu i'r Lladin gan artist Michael Pinsky.

Mae'r iaith Inuktitut, yn cael ei siarad gan bobl Inuit yng Ngogledd Canada, wedi dod o hyd i gartre ar y we, yn ôl y BBC. Mae gwefan Attavik yn creu ffyrdd i bobl Inuit ddefnyddio eu hiaith nhw ar y cyfrifiadur. Hefyd dych chi'n gallu gweld gwyddor yr iaith Inuktitut ar y wefan hon.

Hir Amser Heb Postio!

Mae sawl cysylltiadau i'w postio heddiw, ar ôl dim wedi postio dim byd ers lawer dydd. Dw i'n anobeithiol, dwi'n gwybod. Weithiau dw i'n teimlo fel tasai'r blog 'ma yn achos ar goll. Ond, mae postiau anaml yn well na dim postio o gwbl, os byddai hynny'n ddoeth.

Ta beth, mae llawer o bethau i'w ddarllen, yn Saesneg ac yn Gymraeg. Yn gyntaf, y Gymraeg--y pwysicach ar y dudalen hon, wrth gwrs!

Aeth ysgrifenyddes Cymdeithas Cymraeg Arizona yn grac ar ôl erthygl yn y Wall Street Journal lle dwedodd yr awdur bod rhai o gyfieithiadau Harri Potter yn ieithoedd eraill yn wirioneddol rhyfedd--fel y Gymraeg.

Mae cwpwl o fotos doniol iawn ar wefan Telsa, gyda camgymeriadau ar arwyddion lleol yng Nghymru.

Dyma wefan draw fan 'ma ar Flogspot (ha!)--gwefan o'r enw Dysgwyr De-Ddwyrain gyda digwyddiadau a gwefannau o ddiddordeb i ddysgwyr yn yr ardal 'na.

 dweud y gwir, mae'r wefan 'ma yn addas i siaradwyr Cymraeg *neu* Saesneg--mae "Dudley" yn casglu termau coginio mewn geiriadur bach ar y We. Cyfleus iawn achos mae ryseitiau rhywle arall ar y wefan. Mae'r cyfan yn dod o sioe coginio ar S4C.

Friday, November 05, 2004

Ymarfer, Ymarfer...

Reit, defnyddio "Idiom y Dydd" oddiwrth cylchlythyr BBC--"fel iâr yn y glaw" :

Ar ôl yr etholiad hynny, dw i fel iâr yn y glaw i wynebu pedair blynedd mwy yn yr un sefyllfa ddiflas.