Wednesday, March 30, 2005

Ysgrifennu Mwy na Llai

Weithiau mae rhaid rhoi'r gorau i rhyw bethau er mwyn canolbwyntio mwy o egni ar bethau eraill. A dyna beth wnes i. Yn effeithiol dydd Gwener nesaf, dw i'n ymddiswyddo fel golygydd ar bwnc yr Iaith Gymraeg ar Suite101.com.

Dw i wedi bod yn gwneud hyn ers 2001, ac yn ddiweddar dw i wedi mynd yn rhy brysur i ddal at y prosiect. Mae rhaid i fi dreulio mwy o amser ar waith ar gyfer fy musnes freelance ysgrifennu a chelf--sef gwaith sy'n talu, â dweud y gwir. Ond wrth gwrs, bydd mwy o amser 'da fi i flogio ar y dudalen hon! Bydda i ddim yn rhoi'r gorau i ysgrifennu am bethau Cymreig, chwaith. Felly peidiwch â phoeni!

Saturday, March 19, 2005

Baban Newydd

Cafodd fy nai ei eni ar ddydd Sadwrn, y 12fed o Fawrth! Miles yw ei enw e, a roedd e'n 7lb. 3oz. a 20 modfedd. Daeth y fam a'r babi adre ddydd Sul, ond dydd Llun roedd gwres ar fy chwaer-yng-nghyfraith. Roedd rhaid iddi hi fynd yn ôl i'r ysbyty ac aros yno tan iddyn nhw ddweud ei bod hi'n iach. Roedden ni'n ofni y gallai bod haint arni hi, ond mae'n ymddangos yr oedd e ddim ond ffliw. Daeth hi adre unwaith eto ddydd Mercher, ac wedyn cafodd y babi jaundice a roedd rhaid iddo fe fynd yn ôl i'r ysbyty i gael mwy o brofion. Ond mae e'n dda iawn nawr, ac mae'r fam a'r babi gartre a hapus iawn.

Fe ges i gyfle i'w ddal e heddiw. Gwnaeth e bisio yn ei ddiaper a wedyn dechreuodd e grio. Yn ffodus, dw i'n gallu ei rhoi e 'n ôl!

Saturday, March 12, 2005

Amser i Blant

Mae nai ar ei ffordd, yn cael i eni yn Stockton, California! Mwy o newyddion nes ymlaen!

Saturday, March 05, 2005

Gweithio...a Gweithio...a Gweithio...

Mae'n ddrwg 'da fi adrodd, dw i wedi bod mor brysur yr wythnos 'ma, mod i ddim yn gwneud unrhywbeth i wella fy ngymraeg. Dw i'n anobeithiol.

Ond, yfory bydda i'n mynd i "Noson Gymraeg" yn Stockton--swper a cyngerdd telyn. Pan siaradais i gyda'r fenyw a drefnodd y digwyddiad, roedd diddordeb 'da hi mewn dod â'r Cwrs Cymraeg i Ganol California undydd yn y dyfodol. Bydd hynny'n wych! Basai rhywun 'ma i helpu gyda'r trefnu, ar wahân i fi. Campus!