Sunday, January 09, 2005

Chwilio am Gariad?

Dyma rhywbeth ffeindiais i yn fy mlwch e-bost--BBC e-lythyr o hen ddyddiau 2002 gyda'r catchphrases 'ma:

Rwyt ti'n dipyn o bishyn.
- You're a bit of a hunk/babe!

Ti moyn peint?
- How about a pint?

Beth wyt ti'n gwneud am weddill dy fywyd?
- What are you doing for the rest of your life?

Pa ochr o'r gwely sydd orau gennyt ti?
- Which side of the bed do you like to sleep?

Beth wyt ti eisiau i frecwast?
- What would you like for breakfast?

Dim yn ddefnyddiol i fi, a dweud y gwir, dwi ddim eisiau gwr anhapus!

Saturday, January 08, 2005

Erthyglau Eraill

Cafodd fy sylw ei dynnu (gan fy mam) at ddwy erthyglau (nid gan fi) yn y Los Angeles Times--un yn sôn am Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd a'r llall am gorau meibion. Yn anffodus mae rhaid i chi dalu i'u ddarllen nhw yn eu cyfanrwydd.

Friday, January 07, 2005

Erthygl Newydd

Dim byd o bwysigrwydd mawr heddiw, jyst diweddaraf fy ngwefan Suite101--dw i wedi postio erthygl newydd, sef ail ran y gyfres yn trafod blogiau Cymraeg. Y tro 'ma mae'r erthygl yn sôn am flogiau lleol a blogiau cylchoedd neu grwpiau, sydd yn helpu pobl gyda diddordeb mewn Cymraeg i'w gysylltu â'u gilydd.

Monday, January 03, 2005

Mae Popeth Ar Ben...

Oce, tipyn o melodrama yna. Ond dw i'n gwybod pryd dw i wedi cael fy nghuro. Os dw i'n siarad lol, mae'n ddrwg 'da fi--mae annwyd arna i. Mae'r gwres yn siarad. Wedi cymryd gormod o foddion. Neu ddim digon.

Dim lwc gyda dod o hyd i flogiau Cymraeg lleol, yr oeddwn i'n bwriadu sgwennu amdanynt ar gyfer fy erthygl nesaf ar Suite101.com. Wrth gwrs, mae Dysgwyr De-Ddwyrain yn ardderchog, ond ffeindiais i ddim byd arall o'r un fath. Efallai dylai pobl yn gwneud mwy o flogiau lleol, ond dw i ddim yn siwr os maen nhw'n bodoli'n barod.

Wel, fel awdur mae rhaid i fi fod yn hyblyg, on'd oes? Rhaid i fi edrych dros y blogiau sy 'na, a meddwl am thema newydd. Ych-a-fi, dw i'n teimlo fel pentwr o snot.

Tuesday, December 28, 2004

Wedi Gorffen!! Wedi Gorffen!! Wedi Gorffen!!

Mae drafft cyntaf fy nofel wedi dod i ben. I fenthyg ymadroddiad o'r Saesneg, sut dych chi'n hoffi'r afalau 'na?? Prin mod i'n gallu ei chredu. Nawr, mae'n amser i olygu ac ail-olygu...a wedyn, ffeindio gartre i'r peth. Efallai Bloomsbury USA. Ydy hynny'n freuddwyd pibell?

Saturday, December 25, 2004

Amser i Ymlacio....Reit....

Nadolig llawen (neu gwyliau hapus) a blwyddyn newydd dda i chi i gyd! Byddwn ni'n rhoi anrhegion ar ôl ychydig o amser--fi, Rob, fy mam, a fy llystad--ac wedyn byddwn ni'n coginio swper arbennig gyda cig oen, llysiau, tatws wedi'i pwno (?), bara, a pastai. Ac efallai egg nog.

Y gorau o'r tymor i chi. Mae'r tywydd yn neis yma, llwyd a ffres a dim rhy wlyb. Perffaith, yn fy marn i.

Monday, December 13, 2004

Gwneud Rhestr, a'i Tseco Fe'n Ddwywaith..

Ydych chi eisiau rhywbeth arbennig i Nadolig, ond does dim syniad o gwbl 'da chi? Oes rhywun yn eich teulu chi sy'n wirioneddol anodd i brynu anrhegion iddynt? Beth am gymryd cipolwg ar fy erthygl diweddaraf i, arweinlyfr ar gyfer siopa'r gwyliau (oedd hynny'n Gymraeg ofnadwy? mae'n ddrwg 'da fi). Dw i wedi casglu bob math o gysylltiadau defnyddiol i bobl sy'n hoffi siopa ar-lein. Fel fi. Dw i'n anarferol am ferch--dw i ddim yn hoff iawn o siopa. Dydy fy ngwr i ddim yn hoffi siopa chwaith. Ar wahan i CDs, llyfrau, a bwyd--dyn ni'n gallu dioddef siopa am y rheina.

Saturday, December 11, 2004

Merch Ddrwg...

Dw i wedi bod yn ddrwg, dw i'n gwybod. Dim postio drwy'r wythnos. Ond dw i wedi bod yn brysur dros ben. Y mwyaf cyffrous yw, dw i bron â gorffen fy nofel i--dim ond pennod ar ôl.

Dw i'n addo ysgrifennu mwy cyn bo hir. Ond am nawr, ymlaen gyda'r nofel! Byddaf i'n llawen iawn pan ddaw y peth i ben, er bod hynny ddim ond drafft cyntaf.

Tuesday, November 30, 2004

Tipyn Bach Amdana I

Fel dw i'n sownd fan 'ma gyda cath ar fy nglin, a fel gofynnodd rhywun a ydw i'n wir yn byw yn California, dyma rhywbeth bach amdana i, yn Gymraeg wrth gwrs. Ond bydd hi'n swnio fel paragraff ar gyfer dosbarth.

Sarah ydw i, a dw i'n 27 oed. Dw i'n dod o Dde California yn wreiddiol, ond dw i'n byw yng Ngogledd California bellach. Dw i'n awdur ac artist. Dw i'n ysgrifennu nofel dirgelwch i bobl ifanc (yn eu harddegau), ac mae rhannau o'r nofel wedi'i lleoli yn Ne Cymru. Fel artist, dw i'n hoffi gwneud cerfiadau (etchings) a pheintio. Dw i'n briod. Mae fy ngwr i, Rob, yn athro celfyddyd yn y coleg lleol, ac hefyd mae e'n hoffi canu'r bass. Does dim plant 'da ni, ond mae 'da ni gath hyfryd o'r enw Roxie. Dyn ni'n mwynhau teithio, bwyta, loncian, a gemau fideo.

Dw i ddim yn siwr os mae gwreiddiau Cymreig 'da fi, ond dw i'n hoff iawn o ieithoedd, a dw i'n hoff iawn o Gymru (ar ôl sawl ymweliad i Brydain), felly penderfynais i ddysgu Cymraeg yn 1996. Dw i'n ysgrifenyddes Cymdeithas Madog, cymdeithas sy'n hybu diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg yn yr U.D.A. A dyma fi mewn cragen cneuen (?). Wrth gwrs mae llawer mwy, ond dyna ddigon am heddiw. Hen bryd i fi ddechrau swper. Cawl minestrone--iym!

Wednesday, November 17, 2004

Pethau yn Saesneg - Dim Iaith y Nefoedd Yma

Dw i wedi cyhoeddi erthygl newydd ar fy ngwefan Suite101.com--mae'r erthygl ddiweddaraf yn sôn am flogiau Cymraeg.

Os dych chi'n tybed beth sy'n digwydd ar Gwrs Cymraeg Cymdeithas Madog bob haf, dyma erthygl i chi am y Cwrs Haf 2004 yn Ottawa, prifddinas Canada. Hefyd, mae 'na lluniau a copi'r Papur y Cwrs sy'n cael ei gynhyrchu bob tro.

Beth am ieithoedd eraill? Mae'r arwyddion i gyd yng ngorsaf trên Newcastle wedi cael eu cyfieithu i'r Lladin gan artist Michael Pinsky.

Mae'r iaith Inuktitut, yn cael ei siarad gan bobl Inuit yng Ngogledd Canada, wedi dod o hyd i gartre ar y we, yn ôl y BBC. Mae gwefan Attavik yn creu ffyrdd i bobl Inuit ddefnyddio eu hiaith nhw ar y cyfrifiadur. Hefyd dych chi'n gallu gweld gwyddor yr iaith Inuktitut ar y wefan hon.

Hir Amser Heb Postio!

Mae sawl cysylltiadau i'w postio heddiw, ar ôl dim wedi postio dim byd ers lawer dydd. Dw i'n anobeithiol, dwi'n gwybod. Weithiau dw i'n teimlo fel tasai'r blog 'ma yn achos ar goll. Ond, mae postiau anaml yn well na dim postio o gwbl, os byddai hynny'n ddoeth.

Ta beth, mae llawer o bethau i'w ddarllen, yn Saesneg ac yn Gymraeg. Yn gyntaf, y Gymraeg--y pwysicach ar y dudalen hon, wrth gwrs!

Aeth ysgrifenyddes Cymdeithas Cymraeg Arizona yn grac ar ôl erthygl yn y Wall Street Journal lle dwedodd yr awdur bod rhai o gyfieithiadau Harri Potter yn ieithoedd eraill yn wirioneddol rhyfedd--fel y Gymraeg.

Mae cwpwl o fotos doniol iawn ar wefan Telsa, gyda camgymeriadau ar arwyddion lleol yng Nghymru.

Dyma wefan draw fan 'ma ar Flogspot (ha!)--gwefan o'r enw Dysgwyr De-Ddwyrain gyda digwyddiadau a gwefannau o ddiddordeb i ddysgwyr yn yr ardal 'na.

 dweud y gwir, mae'r wefan 'ma yn addas i siaradwyr Cymraeg *neu* Saesneg--mae "Dudley" yn casglu termau coginio mewn geiriadur bach ar y We. Cyfleus iawn achos mae ryseitiau rhywle arall ar y wefan. Mae'r cyfan yn dod o sioe coginio ar S4C.

Friday, November 05, 2004

Ymarfer, Ymarfer...

Reit, defnyddio "Idiom y Dydd" oddiwrth cylchlythyr BBC--"fel iâr yn y glaw" :

Ar ôl yr etholiad hynny, dw i fel iâr yn y glaw i wynebu pedair blynedd mwy yn yr un sefyllfa ddiflas.

Sunday, October 31, 2004

Gormod o Siwgwr

Nos Calan Gaeaf hapus i chi!

Fe ddaeth nifer o blant i'n drws ni i gael losins y noswaith 'ma. Y mwyaf ciwt ohonoyn nhw oedd ferch fechan iawn gyda gwisg Dorothy (o'r Wizard of Oz), ninja bach, a dwy ser pop 1980s gyda gwallt pinc. Y mwyaf ffiaidd oedd mab ein cymydog Richard, gyda sgriwdreifer gwaedlyd drwy ei ben. Gwych! Dw i'n hoff iawn o Nos Calan Gaeaf.

Wednesday, October 27, 2004

Dyrnaid o Bethau

Mae rhywun wedi fy e-bostio gyda gwybodaeth am ein arlywydd nesaf (gobeithio!), John Kerry--Cymro! Wel, ta beth, mae wreiddiau Cymreig ganddo fe: daeth rhyw hynafiaid Kerry o Tenby, Sir Benfro, yn y 17fed ganrif. (Os dych chi eisiau darllen yr erthygl yn Saesneg, cliciwch yma! Diolch i Joel am hynny.)

Hefyd, ro'n i'n crwydro Morfablog a des i o hyd i'r Rhegiadur Cymraeg (peidiwch ag ymweld os dych chi'n hawdd i ddigio!). Mae'n atodiad da i'r taflen twyllo rhegi gan Clwb Malu Cachu. Pob hwyl gyda'r rhegi!

Monday, October 18, 2004

Diweddariad am Fy Nofel

Dw i wedi bod yn meddwl am ysgrifennu rhyw llythyrau a chofnodion (?) dyddiadur gan mam-gu Wendy i'w cynnwys yn fy nofel i bobl ifainc. Mae rhaid i fi ysgrifennu rhai ohonyn nhw ta beth, er mwyn i fi ddatgelu nhw ar ddiwedd y stori (pan mae'r dirgelwch yn cael ei ddatrys). Ond hefyd dw i'n meddwl am gynnwys cofnodion ac ati ar ddechrau bob pennod, neu rhwng penodau, neu ar ddechrau bob rhan (bydd dau neu tri rhan).

Ond dw i ddim yn siwr. Os ie, ddylwn i eu ysgrifennu nhw yn Gymraeg? A ddylen nhw gael eu cyfieithu yn Saesneg hefyd? Neu ddylwn i jyst ysgrifennu nhw yn Saesneg? Mae'r gohebiaeth yn bwysig iawn yn fy nofel, felly dw i'n credu bod y llythyrau a chofnodion 'ma yn ddiddorol i ddarllenwyr, yn enwedig achos basen nhw'n ddirgel.

Wednesday, October 13, 2004

Wedi Meddwi'n Llwyr...Am yr Ail Dro

Ych-a-fi! Teipiais i'r post 'ma i gyd y bore 'ma, a wedyn ces i rhyw broblem uffernol gyda'r modem. Mae'n gas 'da fi pan dw i'n cael problemau gyda'r cysylltiad (efallai achos bod rhaid i fi eu trwsio nhw).

Ta beth. Gwelais i bennod dda y gyfres "Futurama" ar y teledu neithiwr. Roedd 'na gymeriad o'r enw Welshy, oedd yn rhan o griw Star Trek. A pan ymddangosodd Welshy, siwr o fod, dwedodd e rhywbeth yn Gymraeg! Ond, pan es i ymchwilio ar y wê am sgript y sioe, er mwyn weld beth dywedodd Welshy, fe ddywedodd y rhan fwyaf ohonyn nhw "Welshy speaks gibberish." Do'n i ddim yn credu hynny o gwbl, wrth gwrs! Ac o'r diwedd, des i o hyd i wefan TVtome gyda disgrifiad y bennod "Where No Fan Has Gone Before". Gwych!

Dywedodd y wefan hon fod Welshy'n dweud "I am very drunk"--ac yn wir, ro'n i wedi clywed rhywbeth fel "meddwi" yn y llinell. Rhaid iddi hi wedi bod "Dw i wedi meddwi'n llwyr," dw i'n credu. Cymraeg ar y Cartwn Network! Pam? Wel, yn ôl y wefan, roedd Welshy yn cymryd lle Scotty achos pan ofynnon nhw'r actor pe basai fe'n fodlon cymryd rhan o'r sioe, dywedodd e "dim o gwbl!" Felly, wnaethon nhw Welshy yn ei le--a chafodd Welshy ei ladd ar ôl ei unig llinell.

Tuesday, October 12, 2004

Problemau Pêl-Droed

Dw i newydd gweld ail-ddarllediad y gêm pêl-droed rhwng Cymru a Lloegr. Drueni bod Cymru ddim yn ennill. Gwyliais i'r gêm gyda fy ngwr a chytunon ni, roedd problemau gyda'r amddiffyniad o'i gymharu â Lloegr. Sut i amddiffyn yn erbyn pobl fel Frank Lampard? A sut i fynd heibio i amddiffyniad Sol Campbell a Rio Ferdinand? Allwn i ddim ei gwneud hi. Wrth gwrs.

Ond dyma rhywbeth 'mod i eisiau gweld yn fawr--Lloegr yn chwarae yn erbyn yr U.D.A. Dyn ni Americanwyr yn gwella, a dyn ni wedi curo'r tîm Cymreig yn barod...

Monday, October 11, 2004

Dydd Llun Hapus (dim y band)

Hm. Ym mhennod diweddaraf fy nofel, dwedodd cymeriad (Cymro, ond dwedodd e hynny yn Saesneg) rhywbeth fel "Bobl ifanc ar eich gwyliau, bob tro yn meddwl bod hawl 'da chi cwtsio yn unrhywle!" Fy nhro cyntaf yn defnyddio y gair "cwtch" ond ro'n i eisiau ei ddefnyddio rhywbryd. A dyma fe yn Saesneg.

Ych-a-fi, mae popeth eisiau dod mas yn Ffrangeg heddiw. Dim digon o ymarfer yn Gymraeg, dw i'n credu.

Saturday, October 02, 2004

Cymry yn Canol California!

Dw i jyst wedi darllen post ar fy wefan Suite101 oddiwrth rhywun o'r Welsh American Society of Central California. Do'n i ddim yn gwybod bod grwp Cymreig yn fy ardal i. Fe drefnon nhw gyngerdd llynedd gyda Côr Meibion Pontypridd yn Stockton, CA, a roedd hynny'n wych. Eleni--hwyrach ym mis Hydref--byddan nhw'n croeso Cantorion Colin Jones.