Thursday, September 23, 2004

Ysgrifen Newydd yn Saesneg

Dw i wedi methu rhoi unrhywbeth am fy wefan Suite101 fan 'ma am amser hir, ond dw i'n dal i ysgrifennu erthyglau. Mae'r erthygl ddiweddaraf yn cynnwys dychweliad Dafydd y Dysgwr a'i anturiaethau gyda gofyn cwestiynau yn y presennol. Dim enghraifft o fy ngwaith gorau yw hi, ond ta beth, dw i'n ceisio gwneud rhywbeth dymunol (a tipyn bach yn ddoniol) i helpu pobl sy'n dechrau dysgu Cymraeg.

Tuesday, September 14, 2004

Beth Wnes i ar fy Ngwyliau Haf

Diawl, ond dw i'n anobeithiol gyda'r peth 'ma. Chwarae teg, dw i wedi bod yn postio o bryd i'w gilydd ar fy mlog yn Saesneg, ond dydy hynny ddim yn esgus da am fethu postio yma.

Ta beth. Dyma rhywbeth ddiddorol a wnes i dros yr haf--rhywbeth a wnes i yn ystod Cwrs Cymraeg Cymdeithas Madog yn Ottawa. Peidiwch â dweud fy mod i ddim yn ysgrifennu yn Gymraeg yn ddiweddar! :)

Thursday, September 02, 2004

Hwyl Groes-Diwylliannol

Postiais i hyn ar fy mlog Saesneg yn barod. Ond ar ôl i fi ddarllen y drafodaeth ar rhestr e-bost Clwb Malu Cachu penderfynais i rhoi'r post yma hefyd. Ro'n nhw'n siarad am bethau yn Gymraeg sy'n swnio fel pethau eraill yn Saesneg. Dw i'n credu bod "mae'n dibynnu" fy hoff un--fel "mind the bunny."

Ond mae cerddi cyflawn yn Ffrangeg fel hyn: Ewch i ffeil PDF "Mots d'Heures: Gousses, Rames" i weld. (Os dych chi'n siarad Ffrangeg, dwedwch hynny yn uchel...) A diolch i Google (oes unrhywbeth dyn nhw ddim yn gallu gwneud??) dyma fersiwn wedi cael ei HTML-io.

Monday, August 30, 2004

Ymmm...

Fi sy 'ma. Wrth gwrs. Hir amser na welaf. Does dim byd yn arbennig yma, ar wahan i ymweliad ffrind i fi, Dulais Rhys, a'i wraig--a olygodd dau lyfr oedd yn arbennig o ddefnyddiol i fi gyda ysgrifennu fy nofel. Dyna cyd-ddigwyddiad, o'nd oes? Cwrddais i â Dulais blwyddyn yn ôl ar Gwrs Cymraeg Cymdeithas Madog yn Kenosha, WI, ond cyn hynny, prynais i lyfrau ei wraig, Leigh Verrill-Rhys, tra o'n i'n ymchwilio profiadau menywod a phlant yng Nghymru a Phrydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Pan darganfyddais i fod Leigh yn wraig Dulais, ces i fy synnu! Cyd-ddigwyddiad hapus, a maen nhw'n dod i Modesto i ymweld â ni yfory. Dyna neis!

Tuesday, August 17, 2004

Gweflog Newydd Arall!

Croeso i Lwlw i'r byd blogi yn Gymraeg! Mae'r aelod Clwb Malu Cachu yma wedi dechrau blog o'r enw Lol Lwlw, a dw i wedi bod yn chwerthin yn barod ar ôl darllen y postiau sy 'ma. A dw i'n genfigennig hefyd--mae hi wedi bod yn llawer well na fi gyda'r postio. A, ro'n i'n drist darllen mod i'n colli gweld Bjork yn ystod seremoni agor yr Olympics. Gwelais i bron bob blydi eiliad o'r parade hanesyddol, ond ble o'n i pan oedd Bjork yn canu? Wel, a dweud y gwir ro'n i mewn bwthyn ar y traeth gyda hen ffrindiau, felly roedd llawer o distractions, but still...

Saturday, August 07, 2004

Ych-A-Fi.

Peidiwch â gofyn sut oedd fy nydd i heddiw. Digon i ddweud, mae'n hen bryd i fi fynd i'r gwely. [ochenaid...]

Saturday, July 31, 2004

Cysylltiadau'r Dydd

Mae casgliad bach o gysylltiadau 'da fi ar hyn o bryd, oherwydd pentwr negeseuon a dderbynais i tra o'n i i ffwrdd.

Yn gyntaf, oddiwrth rhestr Clwb Malu Cachu--nawr dych chi'n gallu cael OpenOffice, fersiwn open-source y Microsoft Office, yn Gymraeg. Gwych! Ond rhy gymhleth i fi. Prin mod i'n gallu defnyddio GIMP, rhaglen open-source fel Photoshop, heb teimlo fel twpsyn.

Yn sôn am CMC, mae Suw wedi dechrau (ers ambell ddiwrnod nawr) blogio yn Gymraeg ar ei blog, Chocolate and Vodka. Mae 'na bethau diddorol iawn fan'na, yn enwedig y stori am bentre bach arall gyda enw (newydd) hir.

Oddiwrth rhestr BBC LearnWelsh--mae rhestr ar wefan Gwales gyda llyfrau Cymraeg eu bod nhw'n argymell i oedolion.

Mae darn o feddalwedd o'r enw To Bach, ar gael yn rhad ac am ddim, sy'n eich galluogi chi i ddefnyddio llythrennau cyffredin yn Gymraeg gyda'r allweddell.

Ac yn olaf, dyma blog newydd dw i wedi dod o hyd iddo, sef Tesla's blog yn Gymraeg. Darllenwch am ei hanturion yn y dosbarth Cymraeg.

Friday, July 30, 2004

Post Bach Iawn

Wel, dyma fi jyst yn ysgrifennu pennod diweddaraf fy nofel, ac yn gwrando ar Radio Cymru dros y rhyngrwyd, a roedd tipyn o euogrwydd arnaf am ddim wedi postio ers lawer dydd. A dweud y gwir, ro'n i ar Gwrs Cymraeg Cymdeithas Madog yn Ottawa yn ystod yr wythnos ddiwetha, felly dim lot o gyfle i fi rhoi unrhywbeth ar y blog, yn anffodus.

Iawn, dw i'n addo rhoi ar-lein post mwy substantial cyn bo hir. Ond am nawr, mae fy rhieni (mam a llystad) yn ymweld â fi ac aros gyda fi tra bod Rob yn pysgota yn Alaska gyda'i dad. Dim gorwedd i'r bobl ddrwg, neu rhywbeth!

Friday, July 09, 2004

Dw i'n Ddiog, yn Amlwg...

♠ ...achos dw i ddim wedi bod yn dda iawn am bostio ar fy mlog yn ddiweddar. A dweud y gwir, ro'n i allan o'r dre unwaith eto yn ymweld â'r teulu yn Ne California. Wnes i ddim byd yn gyffrous iawn yn ystod y daith, hyd yn oed ar bedwerydd Gorffenaf. Wel, heblaw y ddamwain y ro'n i bron iawn yn rhan ohoni...Fe ddaeth rhywun, oedd yn gyrru yn y lôn gyferbyn, i mewn i'r lôn y ro'n i'n gyrru ynddi--o gwmpas car oedd wedi stopio ar y golau traffig--a wedyn yn ôl i'r ochr cywir. Diolch byth fy mod i'n ddigon pell i ffwrdd o'r car ffôl 'na. Wff!

♠ Wythnosau yn ôl, anghofiais i bostio cysylltiad i erthygl newydd ar fy ngwefan Suite101: Llawysgrifau Cynnar yn Gymraeg, Rhan Dau, am Lyfr Coch Hergest a'r Mabinogi.

♠ Dw i'n edrych ymlaen at Cwrs Cymraeg y Ddeilen Goch, mewn wythnos a hanner, yn Ottawa, Ontario. Dw i wedi bod yn astudio...dim llawn cymaint â hoffwn i astudio, yn sicr, ond gobeithio yn ddigon i aros mewn lefel 6 gyda'r grown-ups.

Wednesday, June 30, 2004

'Nôl o Mexico

Ie, bues i ym Mexico am gyfnod, a dyma fi yn ôl heb salwch neu glefyd. A dweud y gwir, mae'n od iawn ond ers i ni ddod yn ôl, mae fy stumog wed bod yn teimlo'n ych-a-fi. Ond doedd dim byd yn bod arni dros y daith. Dyma beth da, dwi'n dyfalu.

Fe aethon ni i briodas ein ffrind David, a oedd yn priodi menyw o Celaya, Mexico--taith dair awr a hanner gyda'r bws o Mexico City. Ond cawson ni antur ar ôl i ni gyrraedd ym Mexico City achos bod David yn trefnu ein gwesty, ond mewn gwirionedd, dim gwesty oedd e, ond gwely-a-brecwast mewn fflats y brifysgol Mexico, a doedd dim stafell gadw gyda'n enwau ni. Hefyd, doedd neb gartre yno i adael ni i mewn, a wnaeth y ceidwaid ddim eisiau gadael ni i mewn heb fod rhywun yno. Doedd y ceidwaid ddim yn gwybod enw David, a do'n ni ddim yn gwybod enw y fenyw oedd biau'r gwely-a-brecwast. Addawodd David e-bostio ni gyda'r manylion i gyd, ond gwaetha'r modd, roedd e'n mynd yn ffôl gyda trefnu'r priodas, felly dim e-bost. A fi heb lawer o Sbaeneg. Yn ffodus, daeth perchennog y gwely-a-brecwast yn ôl ar ôl awr...ac aeth gweddill y daith yn dda iawn, gydag ymweliad i'r pyramids yn Teotihuacán. Roedd y priodas yn hyfryd a'r parti yn dymunol gyda llawer o tequila, wrth gwrs.

Gwaetha'r modd, dw i ddim yn hoff iawn o tequila.

Tuesday, June 22, 2004

Teithio i Mecsico!

Bydda i'n mynd i Mecsico rhwng Dydd Mercher a Dydd Sul, i fynychu priodas ffrind i ni, felly dim postio nes i fi ddod yn ôl! Mae'n ddrwg 'da fi. Dw i ddim yn siwr os bydda i'n gallu ffeindio caffi rhyngrwyd, ond efallai bydd post "o'r cae"...

Thursday, June 17, 2004

Cymru ar y We, Newydd a Wedi'i Gwella!

Yr wythnos yma, fe ges i neges oddi wrth yr LlGC--mae Cymru ar y We wedi'i ail-gynllunio. Dw i wedi bod yn defnyddio CAYW o bryd i'w gilydd i ymchwilio erthyglau neu ffeindio rhyw wybodaeth hanesyddol/daearyddiaethol ar gyfer fy nofel i bobl ifanc. Mae CAYW'n wych--tsecwch hi allan! (Oedd hynny'n Americanism ofnadwy?)

Yn siarad am fy nofel, ym...dw i'n dal i'w ysgrifennu...jyst wedi gorffen Pennod 18 dydd Llun. Rhyw ddyrnaid o bennodau ar ôl! Hoffwn i ei gorffen cyn diwedd yr haf. Dw i wedi ymuno â grwp awduron sy'n sgrifennu nofelau i bobl ifanc er mwyn para i ysgrifennu dros dyddiau poeth yr haf.

Hei, oes côd nodau am w^?

Tuesday, June 15, 2004

Llawysgrifau Cynnar yn Gymraeg

Rhyw bythefnos yn ôl, rhoiais i erthygl newydd i fyny ar fy ngwefan Suite101.com, am Lawysgrifau Cynnar yn Gymraeg. Mae'r erthygl hon yn sôn am Lyfr Du Caerfyrddin; bydd erthyglau dyfodol yn sôn am Lyfr Coch Hergest, Llyfr Taliesin, a Llyfr Aneurin. Mae cysylltiadau diddorol (wel, dw i'n credu) dan yr erthygl, hefyd--cyfieithiadau'r llyfrau, gwybodaeth am y llên Gymraeg, ac yn y blaen.

Sunday, June 13, 2004

Enwogrwydd, Dyma Fi

Wel, dyma 'mhost cyntaf ar fy ngweflog Cymraeg. Dw i'n gobeithio postio rhywbeth oddiar y blog o leiaf tairgwaith y wythnos--er mwyn i fi ymarfer fy Ngymraeg, a hefyd tynnu sylw at ddigwyddiadau neu gwefannau Cymraeg. Gobeithio eich bod chi'n mwynhau fy maldordd gorfwyll! (Cliciwch yma os dych chi angen geiriadur... Roedd rhaid i fi ddefnyddio geiriadur, siwr o fod.)