Wel, er gwaethaf ymdrechion mawr y tîm Cymreig, mae Lloegr wedi ennill y gêm pêl-droed i parhau yn y qualifiers Cwpan y Byd. Chwaraeodd Cymru yn dda iawn, ac ymosodon nhw'n ddewr, ond sgoriodd Joe Cole beth bynnag. Mae'r dyn yn beryglus, does dim amau hynny.
A dweud y gwir, dyn ni'n hoffi gwylio tîm Lloegr hefyd, a dyn ni'n hoff iawn o Shaun Wright-Phillips yn arbenigol. Roedd y gêm yn gyffrous iawn. Ond y gêm yr oedden ni'n fwy pryderus amdani oedd y qualifier rhwng yr UDA a Mexico. Yn ffodus, roedd y canlyniad yn foddhaol...boddhaol iawn...
6 comments:
Llongyfarchiadau i'r UDA am gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd.
Roedd hi'n neis i ennill lle yn y Cwpan y Byd trwy buddugoliaeth erbyn Mexico.
Rhag ofn nad wedi ei ddarllen, stori ar fy mlog am ddysgwraig o Galiffornia:
http://de-ddwyrain.blogspot.com/2005/09/cyn-ddysgwraig-de-ddwyrain.html
Diolch Rhys! Oedd, roedd hi'n neis iawn, iawn ennill yn erbyn Mexico, a gweld y cefnogwyr i gyd llawn cyffro y y stadiwm.
Dw i a'r gwr yn edrych ymlaen at gwylio Cwpan y Byd y flwyddyn nesaf!
Ydych chi am deithi i'r Almaen neu gwylio ar y teledu (ganol nos?)?
Gwylio ar y teledu. Caren ni fynd i'r Almaen, ond dyn ni'n trefnu taith i Tsiena yn barod...dim digon o arian i'r ddau, yn anffodus. Ond mae 'da ni deledu neis gyda HD, felly...bron fel bod fan 'na...
Post a Comment