Dw i wedi bod yn bwriadu postio cwpwl o gysylltiadau newydd, a dyma fi yn ei wneud o'r diwedd. Yn gyntaf, mae wefan newydd gyda fy ffrind y bardd Shin Yu Pai. Mae'r wefan yn wych, gyda oriel ei ffotos a rhestr ei darlleniadau. Bydd hi'n darllen ei barddoniaeth mewn caffe o'r enw Tebot Bach Ddydd Gwener, yn Huntington Beach. Do'n i ddim yn gwybod bod Ty Te Cymreig yno. Dw i ddim yn gallu gyrru i lawr y penwythnos yma, yn anffodus, ond os mae rhywun yn darllen y blog 'ma sy'n byw yn De California, ewch! Te a barddoniaeth--ydy unrhywbeth yn fwy Cymreig?
Ydy rhai ohonoch chi'n dilyn opera sebon? Dych chi eisiau One Life to Live? Nid fi. Ond mae ffrind i fi, Jaime (aka MeiMei), sy'n gweithio fel golygydd sgriptiau gyda'r cyfres. Yn ddiweddar fe gafodd hi gyfle ysgrifennu blog ffug gan cymeriad gyda dwy bersonoliaeth. Dw i'n gwybod mwy am y sioe bellach. Efallai gormod.
1 comment:
Bydd hi'n darllen ei barddoniaeth mewn caffe o'r enw Tebot Bach Ddydd Gwener, yn Huntington Beach.
Gwych, byddai'n siwr o alw draw am baned tro nesaf fyddai yn y gymdogaeth ;-)
Post a Comment