dweud y gwir, er mod i'n hoff iawn o'r Cwrs Cymraeg a dw i'n dysgu llawer yn trefnu pethau eleni, dw i'n gobeithio fydd dim rhaid i fi wneud rhywbeth fel hyn eto. Mae'n teimlo'n hollol amhosib cadw fy llygaid ar bopeth--y trefnyddion arall, yr amserlen, neilltuadau'r stafelloedd, a phob newid bach sy'n dod ymlaen ar y ffordd i fis Gorffennaf. I fod yn onest, yn y dyfodol dw i'n gobeithio cael cynlleied o gyfrifoldeb ag sy'n bosib!
A llywydd! Doedd dim bwriad 'da fi fod yn llywydd eleni, chwaith, ond beth i wneud amdani? Dim ond gweithio'n galed.
Esgusodwch fi. Dw i mewn tymer heddiw. Mae gormod i'w wneud, a dw i'n grac achos bydd rhaid i ni dalu trethi eleni yn lle cael ad-daliad, a dw i'n grac hefyd achos ceisias i gael ffurflen 505 (Estimated Tax) o'r swyddfa IRS heddiw ond doedd dim un gyda nhw ac roedd ciw ofnadwy. A dw i'n dal i fod yn eitha blinedig ar ôl wedi bod yn sâl gyda annwyd yr wythnos ddiwetha.
Nawr te, 'nol i weithio ar ein blog llenyddiaeth i bobl ifanc--gwnewch yn sicr edrych ar y categoriau, ein bod ni wedi rhoi ar y chwith, diolch i Furl.net. Dw i'n falch iawn. Dyn ni ddim wedi gorffen rhoi categoriau i bob post, eto, ond mae'n wych ta beth.
7 comments:
Fe ddarllenais i dy flog di heddiw. Oedd Rhys yn awgrymu fy mod i'n edrych arna e. Dw i'n dysgwr Gymraeg chwaith a dechrais i dysgu ers dwy flwyddyn. Mae Rhaid i fi yn darllen blogiau arall i dysgu a fydd i'n darllen dy flog eto. Efallai rydych chi'n edrych ar fy mlog i rhywbryd.
James
http://james-morgan-baker.blogspot.com
Wyt ti'n geisio gwneud swydd llawn amser ar yr un pryd, hefyd? Dw i ddim yn meddwl y gallwn i ddal yn gall, yn geisio trefnu popeth a gweithio 40 awr wythnos (neu mwy -- pwy sydd yn gweithio dim ond 40 awr o hyd?).
Na, dw i'n gweithio fel freelancer (a weithiau temp), felly rhyw wythnosau dw i'n cael mwy na 40 awr, ond weithio dw i'n gweithio dim ond rhan amser. Mae'n dibynnu ar y gwaith. Ond, achos dw i'n sgrifennu nofel mae rhaid i fi ysgrifennu cymaint a phosib pan does dim 40 awr o waith arall.
Ac mae rhan fwyaf o'r gwaith arall yn pethau fel golygu neu ymchwil, a tipyn bach o gynllunio (wefannau, brochures, a.y.y.b.).
Dw i wedi angen i symud fy mlog i ac fy ngwefan newydd ydy http://yn-dod-o-dexas.blogspot.com. Plis yn adfywio dy linc di.
diolch.
Diolch i ti am ymweld a fy mlog i heyfd. Mae'n dda gyda fi ddarllen dy sylwadau di am y flog. Dw i'n hoffi iawn y drychfeddwl o'r grws Gymraeg eleni mewn California y mis Gorffennaf ma. Ond dw i meddwl fy mod i'n aros i flwyddyn nesaf pan fydd i'n cerdded tros cropion gyda fy nghymraeg. Wyt ti'n meddwl mynd i'r cwrs?
hwyl
Rwyt ti'n gallu bod yn ddechreuwr llwyr ar y Cwrs Cymraeg--mae dosbarthiadau i bawb. Ydw, dw i'n dod yn bendant, achos dw i'n rhan o'r grwp sy'n trefnu'r cwrs eleni. Bydd hi'n agos iawn at fy ngartre, dim ond 30 milltir i ffwrdd. Gobeithio dy fod di'n dod rhyw flwyddyn! Mae'n llawer o hwyl.
Post a Comment