Dyn ni wedi dod yn ôl o Tseina, ac roedd hi'n daith arbennig o dda. Dim cyfle i ymweld a'r Lama Temple, yn anffodus--dywedodd llawer o bobl wrthon ni fod y Lama Temple yn un o'r golygfeydd mwyaf ysblennydd yn Beijing. Ond roedden ni ar daith dan arweiniad, felly roedd eisoes gormod o bethau ar yr amserlen. Dw i'n meddwl taw Guilin oedd fy hoff ran o'r daith--yn mynd i lawr yr afon mewn cwch mordaith a gweld y tirlun hyfryd iawn gyda mynyddoedd o garreg, coed bamboo, a niwl, fel y lluniau Tseiniaidd o'r hen oesoedd. Anhygoel.
1 comment:
Neis i glywed eich bod chi wedi mwynhau eich gwyliau! Pan o'n i'n byw yn Beijing, mi aeth tri ffrind a fi i Guilin ar wyliau Nadolig. Mi aethon ni ar y tour afon Li. Gwych oedd hi, tydy? Nest ti gweld pysgotwyr yn defynyddio cormorants?
Post a Comment