Post diddorol gan Chris yn sôn am flogwyr Cymraeg. Mae'n ymddangos ei bod hi'n normal i ni beidio blogio yn aml. I fod yn deg, dw i wedi bod yn postio ar fy mlogiau eraill, ond dim llawer arnyn nhw chwaith--gormod o waith...
Peth bach arall--dych chi'n gallu cofrestru ar-lein ar gyfer y Cwrs Cymraeg ym mis Gorffennaf, yn Albany, Efrog Newydd. Bydd hi'n hwyl dw i'n credu.
3 comments:
Ac os oes eisiau darlun llon o Albany, dylet ddarllen "Ironweed" gan William Kennedy. Laugh-a-minute yw'r llyfr hwnnw.
Dwi'n edrych ymlaen at y Cwrs yr Ymerodraeth!
Hwre! Dw i'n falch clywed dy fod ti'n dod i Albany.
Post a Comment