Ro'n i'n gwrando ar C2 ar Radio Cymru dros y rhyngrwyd, yn ystod i fi marcio paragraffau ar gyfer dosbarthiadau ar-lein Rob, a ro'n i'n falch clywed cân newydd Lily Allen. Dw i'n hoffi ei CD "Alright, Still" a ro'n i'n siomedig o glywed bod hi ddim yn gorffen ei taith Americaniadd. O leiaf nawr dw i'n edrych ymlaen at clywed cerddoriaeth newydd oddiwrthi hi.
Yn sôn am gerddoriaeth, mae CD newydd da 'da ni gan grwp o'r enw Army of Anyone, sy'n cynnwys canwr o'r band Filter, gitarydd a basydd (?) o'r Stone Temple Pilots, a drymiwr "sesiwn" o rywle sy'n atgoffa ni o drwymiwr Tool. Dw i'n cofio cael y CD Filter (adegau yn ôl) ac yn meddwl ei fod e'n dda, ond roedd y caneuon i gyd yn swnio yn debyg, a ddim yn rhy gyffrous. Ond dw i'n hoffi llais y canwr, ac mae'r caneuon Army of Anyone yn llawer well gyda ysgrifen y bois o STP.
Dw i'n pryderu am y Cwrs Cymraeg eleni--dim y cynllunio yn unig, ond dw i'n pryderu am fy Nghymraeg, yn enwedig fy ngeirfa. Dw i wedi lawrlwytho rhaglen "flash cards" (jMemorize) ond wrth gwrs mae angen ychydig o amser rhoi geiriau i mewn ac ati. Ond dw i'n edrych ymlaen at gweld priftiwtor y cwrs unwaith eto, sef Steve Morris sy'n dysgu ym Mhrifysgol Abertawe. Cwrddais i â fe ar fy Nghwrs Cymraeg cyntaf yn Toronto, rhyw wyth mlynedd yn ôl(!).
1 comment:
Wyt ti'n bron yn barod i'r cwrs Gymraeg wythnos nesaf? Mi faswn i’n hoffi ei fynychu e blwyddyn nesaf ond dwi i eisiau fynd i Gymru hefyd a mae'r pryd gorau i fynd acw yn Gorffennaf. Ydy'r cwrs ar yr un pryd blynyddol? Ydy'r lleoliad crws yn gwybyddus i '08?
Pob lwc a hwyl fawr ar dy bleserdaith.
Post a Comment