Mae hynny'n ddiddorol--erthygl am bobl sy'n creu eu hieithoedd eu hunain. Mae'n ddiddorol bod Klingon yn defnyddio'r gystrawen "object-verb-subject" a nid llawer o ieithoedd eraill--meddyliais i am Gymraeg a brawddegau fel "Meddyg ydw i." Ond mae llawer mwy o ddiddordeb 'da fi mewn ieithodd sy'n bodoli yn wirioneddol.
2 comments:
Wi'n credu bod y Gymraeg yn VSO (berf, goddrych, gwrthrych) - gwelodd Sian gastell er y gall fod yn OVS er mwyn pwyslais(gwrthrych, berf, goddrych) castell (a) welodd Sian.
Bydd raid im i feddwl amdano pan wi heb gael ambell i lasaid o win.
Pwnc difyr ta p'un i
Ti'n gywir - dylwn i wedi bod yn fwy penodol. A fi heb gael glasaid o win eto! :)
Post a Comment