Sunday, October 14, 2007

Viva Cwrw

Wedi gwneud llawer o bethau heddiw, ond yn dechrau'r dydd gyda sgwrs yn Gymraeg--jyst ychydig o sgwrs gyda ffrind i fi, Brenda. Dyn ni wedi bod yn ceisio cael sgwrs yn Gymraeg dros y ffôn bron bob wythnos. Fe helpodd hynny'n fawr iawn--i fi, ta beth--y llynedd, cyn i fi fynd i'r Cwrs Cymraeg.

Ar hyn o bryd dw i newydd dychwelyd o barti ar ôl yfed tipyn bach gormod efallai. Roedd hi'n "cast party" ar gyfer y theatr 'mod i'n cynllunio'r posteri a'r rhaglenni iddi. Ffrind i fi sy'n rhedeg y theatr, a roedd y parti yn ei thy hi. Do'n i ddim yn nabod llawer o bobl, felly yfais i fwy--dw i'n eitha swil ond ar ôl tipyn bach o gwrw neu rhywbeth, dw i'n llai ofnus.

Yfory dyn ni'n mynd i'r "Renaissance Faire" gyda ffrindiau sy'n hoffi pethau fel 'na. Mae Jay, y gwraig, sy'n gallu gwnio'n dda iawn, wedi gwnio gwisgoedd i ni. (Dyma ni y llynedd; dydy hynny ddim yn llun da iawn ond dych chi'n gallu cael y syniad.) Mae digon o gwrw (neu "ale", neu "mead") yn y Renaissance Faire felly bydd hi'n iawn, dw i'n meddwl... ;)

4 comments:

Anonymous said...

Mae'n dweud "You do not have permission to see the photo"

Renaissance Fair? O'n i'n nabod hogyn o Galiffornia oedd yn siarad amdano yn ol yn y 90au. Phoenix oedd ei enw fo, ac roedd o'n credu ei fod yn shaman anfarwol a petha fel na.

Sarah Stevenson said...

Ymm...ceisia nawr--dw i wedi dy ychwanegu di fel "cyswllt."

Anonymous said...

Na, mae'r ffoto yn dal yn "preifat"

Sarah Stevenson said...

Rhyfedd! Wyt ti'n gallu gweld y ffotos eraill yn y set "Renaissance Faire" o eleni? Dwi wedi dy setio fel ffrind yn y cysylltiadau.

Oh wel. Dydy'r ffoto ddim mor gyffrous a hynny ta beth! Yr un gwisg a eleni, a dim byd yn "racy." :)