Er bod rhaid i fi ymarfer fy Ngymraeg eto, heddiw (p'nawn 'ma) bydd Rob a fi'n dechrau dosbarth Sbaeneg yn y coleg lleol. Mae'n ddefnyddiol iawn siarad Sbaeneg yma yn California. Dw i'n gallu ei siarad tipyn bach--mae fy llysdad yn dod o Costa Rica yn wreiddiol--ond chymerais i erioed rhan o ddosbarth ffurfiol.
Bydd sawl ffrindiau yn gwneud y dosbarth hefyd, felly gobeithio bydd e'n dipyn o hywl. Dosbarth "hybrid" ydy e--mae rhan o'r dosbarth yn cymryd lle ar-lein. Dw i ddim yn siwr sut yn union caiff y rhan ar-lein ei drefnu, ond dw i'n edrych ymlaen ato fe.
1 comment:
Pob lwc a hwyl i ti ar y dosbarthiadau Sbaeneg, Sarah. Mi gafais i lyfr Spanish for Dummies fel anrheg Nadolig , ac wedi cychwyn arno'n barod.
Trio ei ymarfer yn reolaidd ydi'r gamp, felly yn edrych allan am ddosbarthiadau lleol sydd ar gael.
Post a Comment