Dw i newydd orffen gwrando ar y rhaglen BBC Pigion am y tro cyntaf a mwynheuais i hi yn fawr iawn. Yn arbennig, hoffais yr oedd amrywiaeth o acennau o ledled Cymru. Ymarfer da i fi--dw i ddim wedi cael cyfle i wrando ar Radio Cymru neu unrhywbeth yn ddiweddar, felly mae'n ychydig o her i fi ddeall.
Ond, mae rhaid i fi ddechrau ymarfer fy Nghymraeg, gan mod i ddim mewn dosbarth Sbaeneg ar hyn o bryd. Daw y Cwrs Cymraeg Cymdeithas Madog mewn dwy fis byr. Fel arfer, y tair blynedd diwetha, ro'n i yn y dosbarth uchaf, ond bob blwyddyn dw i'n siwr mod i wedi anghofio popeth a bydd rhaid i fi mynd i lawr i'r lefel nesaf is (next lowest level - ydy hynny'n gywir?). Ond efallai, os dw i'n gwneud yr ymarferion ar-lein ac ati, teimla i'n ddigon cyffyrddus i aros yn lefel saith...
3 comments:
Sut wyt ti'n ymarfer siarad? Skype?
Hylo Emma! Mae ffrind i fi--dysgwraig arall--sy'n byw ger San Francisco (dim yn bell ohono i) a dyn ni'n siarad dros y ffon o bryd i'w gilydd. (Yn anffodus, mae hi wedi mynd i Gymru am fis!)
Dw i'n cael sgwrs Cymraeg efo fy ddwy ffrind ar Skype bob wythnos hefyd.
Mi gewch chi ffonio drwy Skype'n rhad iawn hefyd. Dw i'n siarad â fy mam yn Japan am hanner awr a dim ond 80 sent bydd hi'n costio.
Post a Comment