Dw i ddim wedi bod yn blogio llawer y dyddiau yma; dw i wedi bod yn sâl gyda rhyw annwyd neu haint yn y sinuses neu rhywbeth, a dw i wedi bod yn flinedig neu y brysur dros ben, yn dibynnu ar y dydd.
Newyddion gwych: cyhoeddwyd erthygl ardderchog am y Cwrs Cymraeg gan Emma Reese, ar y BBC. Llongyfarchiadau Emma! Roedd hi'n hyfryd cofio'r wythnos fendigedig 'na.
Mewn newyddion eraill: mae fy mam yn yr Eidal ar hyn o bryd, yn Florence yn dysgu (fel athrawes) tan ddiwedd mis Tachwedd. Basai hi'n hapus taswn i'n gallu ymweld â hi yno, ond mae tocynnau awyren yn ddrud iawn, iawn. Dyn ni'n arbed arian er mwyn teithio i Brydain yn 2009 ac efallai i Sbaen hefyd--mae Rob yn bwriadu cynnig am sabbatical. Cawn ni weld!!
2 comments:
Gobeithio cei di weld dy fam yno. Wyt ti'n siarad Eidaleg felly?
Dim ond cwpwl o frawddegau, yn anffodus! Ond basai'n ddymunol astudio Eidaleg rhywbryd.
Post a Comment