Dim ond stopio i mewn i ddweud bod pethau yn brysur dros ben--wrth gwrs, yr hen esgus!--ond dw i'n bwriadu dal ati gyda'r blogio yn y Gymraeg. Dw i'n addo! Dw i wedi bod yn: dysgu Sbaeneg, plannu Cwrs Cymraeg yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf, ysgrifennu erthyglau, amcanu logos, a--heddiw--siarad wrth golygydd mewn ty cyhoeddi.
Ie, mae'n wir--mae diddordeb gyda rhywun yn fy nofel i bobl ifanc! Dw i'n llawn cyffro, wrth gwrs, ond mae digon o lafur i ddod. Mae'r golygydd eisiau i fi wneud nifer o newidiadau, ond dw i'n teimlo'n lwcws, achos dyw'r newidiadau ddim yn swnio yn od neu yn rhy anodd.
Ta beth, bydda i yn ôl cyn bo hir.
O.N. Does dim contract eto. Ond, efallai, ar ôl gwneud y newidiadau...
8 comments:
na gynllun - mynd â chriw i ddysgu yng nghymru! wyt ti'n gwybod eto sut lety ac adnoddau a fydd 'da chi? ife aros mewn coleg yw'r bwriad? rhywle sy'n wag dros yr haf?
Diolch yn fawr am eich sgwrs am Cwrs Cymraeg. Byddwn ni'n colli chi eleni yn Alberta, Canada.
Dyn ni'n edrych ymlaen i 2010 yng Nghaerdydd hefyd!
Shirley
Ein Blog Newydd Sbon : www.madog.org/blog2009/
Diolch, Shirley!
Helo, Asuka! Dyn ni'n bwriadu aros ym Mhrifysgol Caerdydd, a dyn ni'n gweithio gyda phobl yn yr ardal sy'n gallu ein helpu ni gyda adnoddau...wrth gwrs os mae awgrymiadau 'da ti dyn ni'n croesawu unrhyw help!
wythnos yng nghaerdydd yn yr haf. beth a allai fod yn well? wi'n gwybod bod modd trefnu teithiau o gwmpas yr amgueddfa/oriel a chanolfan y mileniwm i ddysgwyr gydag arweinydd o siaradwr cymraeg. (sa i'n gwybod faint mae'n ei gostio.)
syniad da aros yn llety prifysgol caerdydd, ond mae rhai o'u neuaddau nhw'n dipyn o hike o ganol y dref, cofia. dylet ti ffeindio mas o flaen llaw ble maen nhw'n bwriadu eich dodi chi (cofia hefyd fod 'na ddigon o hosteli i backpakers yng nghaerdydd a all fod yn rhatach nag unrhyw neuadd breswyl y brifysgol. tro diwetha i fi wneud cwrs haf ym mhrifysgol caerdydd, mewn hostel y bues i'n aros am y ddau fis o achos hyn.)
Ti ddim yn mynd i Alberta felly? Ti wedi trefnu'r cwrs yn Iowa'n ardderchog. Does 'na ddim dwywaith y bydd y cwrs yng Nghaerdydd (a'r un yn Alberta) yn llwyddiannus hefyd.
Pob lwc hefo'r nofel!
Diolch, Margaret.
Emma--na, dw i ddim yn gallu fforddio mynd eleni achos dyn ni'n teithio yn Ewrop yn yr hydref. Hefyd dw i'n gobeithio mynd i'r cwrs yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf!!
Post a Comment