Wednesday, July 17, 2013

Y Nofel Gymreig

Dw i'n gweithio unwaith eto ar fy "nofel Gymreig," hynny yw, fy nofel sy'n cymryd lle yng Nghymru. Rhan o'r nofel, ta beth. Dw i'n ail-ysgrifennu a golygu fel person ffol, yn ddiweddar, achos mae rhaid i fi anfon y peth i'r cyhoeddwr (i fy ngolygydd) cyn diwedd yr wythnos nesaf.

A dw i'n eitha trist mod i ddim ar y Cwrs Cymraeg yr wythnos yma. Ond dw i'n mynd i India penwythnos nesaf, i ymuno a fy ngwr, sy wedi bod yno ers dechrau'r mis. Byddwn ni yno dros 2 wythnos a hanner, yn teithio o gwmpas. Dechrau yn New Delhi, wedyn i Khajuraho i weld y "sexy temples," wedyn i Bhopal i weld Sanchi, wedyn i Mwmbai. Mae ffrindiau 'da fi yn Mwmbai a bydd yn hyfryd eu gweld nhw ar ol blynyddoedd.

Wel, dyna fe. Tan y tro nesaf.

Friday, September 07, 2012

Erthygl am y Cwrs

Des i o hyd i erthygl da iawn (diolch i Maegan) am y Cwrs Cymraeg eleni mewn newyddion Prifysgol Abertawe--dywedon nhw hon am y Cwrs:

Cafodd sawl darlithydd o Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe haf i’w gofio eleni, a hynny wrth ddysgu Cymraeg i oedolion ym Mhrifysgol Utah yn Unol Daleithiau America.

Hefyd siaradodd yr erthygl am Steve, Mark, a Chris, y tiwtoriad ardderchog sydd i gyd yn ffrindiau da erbyn hyn, felly ro'n i'n falch eu gweld nhw'n cael ychydig o hysbyseb!

Friday, August 03, 2012

Cyfarchion, Dilynwyr Newydd!

Mae'n ymddangos bod nifer o bobl newydd sy'n dilyn y blog 'ma, felly mae'n amlwg y dylwn i bostio rhywbeth o bryd i'w gilydd. Wel, des i'n ôl o'r Cwrs Cymraeg yn Salt Lake City--Cwrs Halen y Ddaear--gyda sgiliau newydd yn yr iaith a cofion cynnes o ffrindiau hen a newydd. Dyma rhyw ffotos o'r wythnos. Wrth gwrs, ro'n i'n falch iawn gweld y tiwtoriaid sydd wedi dyfod yn annwyl i fi, yn enwedig y tiwtoriaid o Gymru--does dim llawer o gyfle i'u gweld nhw, wrth gwrs, heblaw am y Cwrs. Y llynedd, ro'n i'n wael gyda'r e-bostio, hefyd, felly addawais i fod yn well eleni gyda chadw mewn cyswllt.

Dyna fe am y tro. Dw i'n bwriadu hefyd ysgrifennu yn fwy aml ar y blog, hefyd. Cawn ni weld...

Thursday, May 17, 2012

Paratoi...

Mae rhaid i fy fynd yn ôl at ymarfer...bydd y Cwrs Cymraeg yn dod cyn bo hir, ond ydw i wedi agor un unig llyfr? Nag ydw. Dw i'n dal i siarad am fynd i'r wefan "Say Something in Welsh" i adolygu, ond dw i ddim wedi gwneud hynny chwaith. A dweud y gwir, y rheiny ydy'r unig frawddegau yn Gymraeg sgrifennais i ers...wel, dim yn siwr. Ers y tro olaf postiais i yma, mae'n debyg.

Wel, mae'n well na dim byd, on'd ydy?!?

Tuesday, February 28, 2012

Er Gwaetha Pawb a Phopeth...

Dw i wedi bod yn dawel iawn yn ddiweddar, dw i'n gwybod. Mae'n flin 'da fi. Dw i yma, ta beth. Ond mae pethau wedi mynd dros ben llestri! Gormod o bethau i'w wneud, i fod yn fyr amdano.

Dw i'n dal i fwriadu mynd i'r Cwrs Cymraeg eleni yn Salt Lake City (Dinas Llyn Halen!). Ro'n i'n meddwl am yrru yno--taith o tua 11 awr yn y car--a wedyn, ar ôl y Cwrs, roedd Rob yn mynd i ymuno â fi. Wedyn ro'n ni'n meddwl am gael ychydig o "road trip" o gwmpas y parciau cenedlaethol yn yr ardal cyn dychwelyd adre. OND, mae hi'n amlwg yn barod bod Rob yn rhy prysur ym mis Gorffennaf yn dysgu dosbarthiadau, felly, does dim angen i fi fynd gyda'r car ar fy mhen fy hun. Drueni.

Saturday, August 27, 2011

Helo, O'r Diwedd!

Ie, dw i'n dal i fod yma, a dw i'n dal i fwriadu blogio yn y Gymraeg bob hyn a hyn. Gobeithio yn fwy aml nawr. (Ond, wrth gwrs, fel maen nhw'n dweud am y ffordd i'r uffern...) Ta beth, dyma fi ar ôl gohiriad hir iawn, yn wir. Eleni fe es i i'r Cwrs Cymraeg am y tro cyntaf ers 2008, a roedd e'n ardderchog fel arfer. Roedd dosbarth lefel 7 yn arbennig o dda, yn fy marn i, a roedd popeth ein bod ni'n ei ddysgu yn ddefnyddiol iawn i fi, felly mae hi'n ymddangos ro'n i yn y lefel addas. Dyma lun o'r grwp eleni--dw i yn y blaen.

Ar bwnc gwahanol i'r iaith, mae newyddion da 'da fi, os dych chi ddim wedi ei chlywed hi eto--mae fy llyfr i wedi cael ei ail-gyhoeddi gan Scholastic ar gyfer y Clwb Llyfrau yn yr ysgolion! Mae hynny mor gyffrous, achos bydd mwy o bobl ifanc yn cael cyfle i ddarllen fy nofel. Ond ar hyn o bryd, dw i'n aros yn ddi-amynedd i glywed oddiwrth fy ngolygydd (yn y cwmni cyhoeddi) os mae diddordeb 'da fe yn fy nofel newydd. Anfonais i'r llawysgrif ato fe rhyw fis a hanner yn ôl, a dw i'n gobeithio gobeithio gobeithio ei fod e'n ei hoffi hi.

Os na...wel, yn ôl at y "bwrdd lluniadu." Fel maen nhw'n dweud.

Monday, March 28, 2011

Camau Baban

Cam ar ôl cam, dw i'n mynd yn ôl at astudio Cymraeg. Achos, pawb, mae'n swyddogol: dw i'n bwriadu mynd i'r Cwrs Cymraeg eleni. Dw i heb ymarfer am fisoedd, heblaw am ambell neges e-bost, ond dw i'n gobeithio dal ati nes y Cwrs, er mwyn i fi aros mewn Lefel 7 (y lefel uchaf). Wrth gwrs, mae rhaid i fi adolygu popeth. POPETH. Yr iaith y fwyaf ddiweddar y ceisiais i ddysgu oedd Sbaeneg, ac mae nifer o ieithoedd yn rolio o gwmpas fy mhen i, pob un heb ei ymarfer ers misoedd neu blynyddoedd.

Dymunwch lwc i fi....

Saturday, November 06, 2010

Dyma Fi, Byd!

Ie, dw i yma. Na, dw i ddim wedi bod yn astudio neu ymarfer Cymraeg. Beth dw i wedi bod yn gwneud 'te? Ar wahân i weithio, a gweithio, a gweithio, nes i adeiladu gwefan newydd. Hefyd, gwnes i wefan ar gyfer fy nofel ei hun. Bydd y nofel yn cael ei chyhoeddi ar ddechrau mis Ionawr. Cyffrous iawn!! Fy nofel cyntaf ydy hi, nofel i bobl ifanc. (Dydy hi ddim yn Gymraeg, yn anffodus--nid fel Chris Cope!)

Dw i'n cynllunio nofel newydd hefyd--nofel steampunk efallai, neu nofel ffantasi/ffuglen gwyddonol. Dw i wedi bod yn meddwl am y lleoliad, y cymeriadau ac ati, a heddiw ces i syniad da am y plot, felly bydda i "mewn busnes" yn fuan, dw i'n credu...os dw i'n gallu ffeindio digon o amser i ddechrau...

Monday, June 21, 2010

Dim Esgus

Beth dw i'n gallu dweud? Dw i ddim wedi bod yn ymarfer, astudio--dim byd, ar wahan i ddarllen ambell wefan yn Gymraeg. Ond dyma fi, o leiaf yn ceisio ysgrifennu rhywbeth byr. Pathetig iawn! Dw i'n addo gwneud yn well yn y dyfodol. ...Gobeithio.

Wednesday, April 07, 2010

Wedi Gorffen!!

Dw i'n hapus dweud fy mod i wedi gorffen edrych dros fy nofel a golygu pethau!!...y tro 'ma. Yr unig peth sydd ar ol yw edrych drosti hi unwaith eto, yn gyflym, cyn anfon y llawysgrif 'nol i'r cyhoeddwr.

Dw i ddim yn siwr pryd yn hollol bydd y nofel yn cael ei chyhoeddi, ond dw i'n credu mis Tachwedd neu Rhagfyr, efallai. Yn y cyfamser, dw i'n gwneud pethau fel cael tynnu ffoto ohono i ar gyfer cyhoeddusrwydd (a ffoto awdur!!), ffeindio pobl (awduron eraill) yn fodlon ysgrifennu "testimonials" am fy nofel, ac adeiladu gwefan newydd (gweler yma).

A dw i'n brysur dros ben ysgrifennu erthyglau ar ben erthyglau...peth da iawn achos dw i angen yr arian!

Hwyl am y tro.

Tuesday, February 02, 2010

Cyfle i Ysgrifennu yn Gymraeg

Dw i newydd dderbyn gwybodaeth am "Eisteddfod by Mail" yn cael ei chynnal gan Ninnau & Y Drych, papur newyddion Cymreig yn America. Mae hynny'n swnio'n ddiddorol iawn--cyfle da i adfywio fy sgiliau yn Gymraeg. Dw i angen yr ymarfer!

Mewn newyddion arall....does dim newyddion arall. Wel, dim byd o ddiddordeb. Wedi bod yn ygrifennu erthyglau, ac yn aros am fy nghyhoeddwyr cysylltu â fi ynglyn a fy nofel. Dim byd eto ar wahân i ffurflenni trethi...

Un peth arall--dw i wedi ail-gynllunio fy mlog yn Saesneg. Dw i'n falch iawn ohono fe! Ond dim digon o amser i flogio yno yn ddiweddar. Dw i'n "golygydd blog" ar gyfer y gwobrau Cybils eleni, felly dw i'n postio fan'na yn fwy aml.

Saturday, January 16, 2010

Dim Byd yn Arbennig

Beth dw i wedi bod yn gwneud? Ymm...wel, gad i ni weld:

Ysgrifennu erthyglau fel yr hyn. Gweithio ar nofel arall. Aros am fy nghwmni cyhoeddi cysylltu â fi am fy nofel sy'n cael ei chyhoeddi eleni...medden nhw. Peidio ag astudio Cymraeg. (Mae'n amlwg, on'd ydy?) Ychydig o chwarae gemau fideo. Coginio yn y ty yn aml--ar ôl ein taith fawr dyn ni heb llawer o arian sbâr. Coginio llawer o bara. Gwella ar ôl gormod o ymweliadau i'r teulu dros y gwyliau. Llwytho i fyny pentwr o ffotos o'r daith i'r Eidal a Sbaen.

Beth amdanoch chi? Beth dych chi wedi bod yn gwneud dros yr Ionawr yma?

Monday, January 04, 2010

Blwyddyn Newydd Arall...

Blwyddyn newydd dda...i bob un o'r tri person sy'n darllen hynny ar ôl fy absenoldeb hir. Prin mod i'n gallu credu y methais i bostio ers mis Tachwedd! Dw i wedi bod yn flinedig iawn ar ôl teithio--ac yn sôn am hynny, dyna ein lluniau ni o'r Eidal. Dw i'n dal i sortio drwy'r lluniau o Sbaen.

Eleni, dw i'n gobeithio blogio mwy yn y Gymraeg unwaith eto--dw i ddim eisiau anghofio pethau, yn arbennig os fydda i ddim yn gallu mynd i'r Cwrs eto. Ar ôl teithio dros mis (ac yn gwario Euros!) dyn ni ychydig yn dlawd, a dw i ddim yn siwr os bydd digon o arian 'da ni i fynd i Gymru yn yr haf. Dw i'n gallu gobeithio, ond, â dweud y gwir...dyw hi ddim yn debyg. OCHENAID.

Monday, November 09, 2009

Ceisio Peidio ag Anghofio'r Gymraeg...

Real Alcazar, SevilleMae hi'n ychydig yn drist dweud mod i ddim wedi bod yn ymarfer llawer o Gymraeg y dyddiau yma, gan ein bod ni yn Sbaen, ond dyw fy Sbaeneg ddim yn gwella yn gyflym iawn chwaith. Gobeithio y byddaf yn gallu cofio Saesneg o leiaf pan dyn ni yn ôl yn yr Unol Daleithiau!

Ta beth, dyma un o fy ffotos o Sevilla--mae mwy o ffotos ar fy safle Flickr a hanesydd diddorol ar fy mlog yn Saesneg a blog fy ngwr i. Dw i'n gobeithio mynd yn ôl i flogio yn y Gymraeg yn gyson cyn bo hir. Dyn ni'n dychwelyd adre ddydd Mercher, felly ar ôl hynny efallai...

Thursday, October 29, 2009

Y Glaw yn Sbaen...

A dweud y gwir, dyw hi ddim wedi bod yn bwrw glaw. Ond mae Sbaen yn wych hyd yn hyn, a cawson ni amser da yn Barcelona. Yfory dyn ni'n gadael ar y tren nos i Seville am nifer o ddyddiau. I weld lluniau, cliciwch yma!

Sunday, October 18, 2009

Salve--ym, Cyfarchion.

Dw i yn yr Eidal! Dim ond pasio hyd i ddweud helo, dyma fi, a ciao am y tro, ond gweler blog fy ngwr am fwy o'r diweddaraf a lluniau o'r Rhufain.

Tuesday, August 11, 2009

Y Diweddaraf

Ie, dyma fi ar ôl mwy na dau fis. Uffern. Wel, gwell hwyr na hwyrach, yntefe? Wrth gwrs. Dw i wedi bod yn eitha prysur gyda'r gwaith a'r ysgrifennu--gorffennais i ail-olygu fy nofel i bobl ifanc, ac anfonais i'r peth i gyd yn ôl i'r golygydd. Mae e wedi derbyn y llawysgrif, a dywedodd e ei fod yn gallu ei darllen yr wythnos nesaf mae'n debyg. Felly, dw i'n aros yn awyddus.

Hefyd, dyn ni wedi bod yn paratoi ar gyfer ein taith fawr ni yn yr hydref. Mae fy ngwr i'n cael sabbatical y flwyddyn yma (hydref 2009 a gwanwyn 2010), a peth da yw sabbatical i athro celf. Rhan o'r cynllun yw mynd i'r Eidal a Sbaen, am fis. Yn gyntaf, byddwn ni yn yr Eidal: Rome (gyda teithiau bach i Naples, Pompeii, a Herculaneum), wedyn Venice (gyda taith fach i Padua). Yr ail hanner o'r daith, byddwn ni yn Sbaen: Barcelona, wedyn Sevilla/Cordova/Granada, ac i orffen, Madrid. Dw i'n ceisio astudio mwy o Sbaeneg cyn hynny. Mae'r podcasts "Notes in Spanish" yn dda iawn (diolch i Zoe), a dw i'n edrych dros fy neunyddiau o'r dosbarth Sbaeneg a cymerais i flwyddyn yn ôl. Hefyd, mae meddalwedd Rosetta Stone 'da fi, a mae nifer o ymarferion defnyddiol ynddi.

Wel, mae hi bron unarddeg o'r gloch a dw i wedi blino ar ôl treulio gormod o amser ar y cyfrifiadur heddiw. Felly, nos da a hwyl am y tro.

Friday, May 29, 2009

Newyddion Da

Dim ond stopio i mewn i ddweud bod pethau yn brysur dros ben--wrth gwrs, yr hen esgus!--ond dw i'n bwriadu dal ati gyda'r blogio yn y Gymraeg. Dw i'n addo! Dw i wedi bod yn: dysgu Sbaeneg, plannu Cwrs Cymraeg yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf, ysgrifennu erthyglau, amcanu logos, a--heddiw--siarad wrth golygydd mewn ty cyhoeddi.

Ie, mae'n wir--mae diddordeb gyda rhywun yn fy nofel i bobl ifanc! Dw i'n llawn cyffro, wrth gwrs, ond mae digon o lafur i ddod. Mae'r golygydd eisiau i fi wneud nifer o newidiadau, ond dw i'n teimlo'n lwcws, achos dyw'r newidiadau ddim yn swnio yn od neu yn rhy anodd.

Ta beth, bydda i yn ôl cyn bo hir.

O.N. Does dim contract eto. Ond, efallai, ar ôl gwneud y newidiadau...

Tuesday, April 07, 2009

Yma o Hyd

Jyst pasio heibio i ddweud, fues i ddim farw! Jyst wedi bod yn brysur dros ben, fel arfer, gyda gwaith, bod yn drust (dw i'n drust bob hyn a hyn), astudio Sbaeneg, ac ati.

Ond dw i yma. Ysgrifenna i fwy yn fuan.

Saturday, March 07, 2009

Audioblogio; Ieithoedd

Wel, heddiw edrychais ar feddalwedd Windows Movie Maker, sydd ar fy ngliniadur newydd. Mae webcam a mic ar y gliniadur hefyd, a gwnes i arbrawf gyda phopeth. Dw i wedi bod yn meddwl am wneud postiau fideo fel a wnaeth Chris Cope yn y gorffennol. Basai'n ffordd dda, dw i'n credu, i fi ymarfer siarad heb yn rili siarad gyda phobl. Anghymdeithasol ydw i, wrth gwrs. :) Ond, ar ôl trio pethau, dw i'n sylweddoli pa mor anodd yw hi siarad o flaen y camera. Dw i ddim yn siwr ble i edrych--ar y webcam, wrth gwrs, ond mae'n fwy naturiol edrych ar fy hun ar y sgrin, achos mae'n naturiol edrych ar wynebau sy o'ch blaen chi pan dych chi'n siarad, on'd ydy? Hefyd dw i'n obsessed gyda'r posibilrwydd mod i'n gwneud golygon rhyfedd, neu swnio'n squeaky, ac yn y blaen. Felly caiff yr hyn ychydig o ymarfer ei hun...

Bydd yn bwysig i fi ymarfer fy Nghymraeg, beth bynnag, achos bydd rhaid i fi gwella fy Sbaeneg cyn yr hydref. Mae Rob wedi cael sabbatical dros y flwyddyn ysgol 2009-2010, a dyn ni'n bwriadu teithio am fis neu mwy yn yr Eidal a De Sbaen. Wrth gwrs bydd rhaid i fi adolygu y swm bach o Eidaleg a ddysgais i yn 2007, hefyd. Mae 'da fi feddalwedd Rosetta Stone yn rhad ac am ddim (peidiwch gofyn sut!! cyfrinach yw hi) a byddaf yn chwarae gyda hynny yn y misoedd dyfodol. A dw i'n credu bod gwersi Cymraeg ynddi hi hefyd, ond dw i ddim yn siwr os basen nhw'n rhy hawdd erbyn hyn...

NB (Nodyn Bach): Dych chi'n gallu cofrestru am y Cwrs Cymraeg bellach--a dych chi'n gallu talu eich deposit ar-lein!