Friday, June 10, 2005

Mynd Ymlaen...

Wel, dw i'n dal i astudio, wrth gwrs. Mewn ychwanegiad (?) i'r taflenni Get Fluent a'r Celtiaid Cythryblus (gwelwch yn isod), nawr dw i'n adolygu fy llawlyfr Catchphrase hefyd. Llyfr o'r hen gyfres ydy e, dw i'n credu, ond mae'r sgyrsiau a'r ymarferion yn ddefnyddiol iawn. Ac mae tâp sy'n dod gyda'r llyfr, bod fy mam wedi ei droi yn grynoddisg. Felly dw i'n gallu ymarfer fy sgiliau gwrando a deall. Mae hynny'n bwysig i fi achos dw i eisiau gallu sgwrsio'n well, a mwynhau ffilmiau Cymreig heb rhaid edrych ar yr is-teitlau drwy'r amser!

Tuesday, May 31, 2005

Hwre am Astudio!

Ie, dw i'n geek enfawr. Ond dw i'n hapus fy mod i'n gallu ffeindio amser i ddysgu Cymraeg. Dw i 'di bod mor brysur y dyddiau yma; doedd dim lot o gyfle i fi fwyta neu cysgu, heb son am astudio Cymraeg.

Yn y wythnosau diweddar, dw i wedi bod yn adolygu rhai o'r taflenni Get Fluent. Daliais i'n llwyr y geirfa am aelodau'r teulu a phethau eich bod chi'n gwneud ar eich gwyliau. Dw i ar fin adolygu'r geiriau am fwydydd--pwysig iawn, gan mod i'n hoff iawn o'r bwyd. A dw i wedi dechrau darllen llyfr bach o'r enw Hanesion Hyll: Y Celtiaid Cythryblus, a brynais i mewn pabell Cyngor Llyfrau Cymraeg yn ystod Eisteddfod Cenedlaethol 2000 yn Llanelli. Hwre! Dw i'n ei ddarllen e o'r diwedd! Ar ôl hynny, mae 'da fi lyfr i bobl ifanc gan Terry Pratchett, yn Gymraeg, a brynais i yn yr un lle. Ond hefyd, dw i'n chwennych mwy o lyfrau "Cam at y Cewri" (Gomer Press)--nofelau enwog wedi cael eu haddasu i ddysgwyr. Mae 'da fi O Law i Law gan T. Rowland Hughes ac roedd e'n wych.

Monday, May 23, 2005

Os i ddechrau, dych chi ddim yn llwyddo...

...fel eu bod nhw'n dweud.

Mae'n swyddogol--clywais i oddi wrth yr asient heddiw, a dywedodd hi bod hi ddim yn ddigon brwdfrydig am lawysgrif fy nofel i bobl ifanc. Ochenaid mawr. Dau wrthodiad hyd yn hyn--druan ag Olwen.

Wednesday, May 18, 2005

Ych.

Ie, dw i'n flogwr drwg. Dw i 'di bod yn brysur dros ben, fel arfer, yn gweithio, a gweithio, a gweithio...A nawr, mae'n hen bryd i fi fynd yn ôl i'r laptop er mwyn dal i ysgrifennu fy nofel. Mae hi'n nofel newydd--fy ail nofel. Dw i'n dal i aros am yr asiant llenyddol am fy nofel cyntaf, The Other Olwen. *Ochenaid*... Dw i'n addo dysgrifio fy nofel newydd rhywbryd, ond am nawr, mae rhaid i fi weithio ar y peth.

Tuesday, May 03, 2005

'Nôl o'r Farwolaeth

Dw i'n gwybod, dw i ddim wedi bod yn blogio ers lawer dydd. Beth dw i 'di bod yn wneud? Wel. Yn gyntaf, ro'n i'n dost. Am wythnos. Ces i'r ffliw yn enedigol, ond wedyn troiodd hi i'r peswch. Bendigedig. Collais i bedwar diwrnod o waith, ac roedd gwres arnaf i dros y penwythnos. Dw i'n dal i gymryd yr antibiotics.

Y penwythnos yma, ro'n ni'n brysur dros ben. Treulion ni'r Nos Wener gyda rhieni Rob, yn gwylio gêm pêl-fasged ar y teledu. Yn y bore, fe aeth Rob a'i dad yn pysgota ar y môr i gael eogiaid. Yn y cyfamser, fe es i gyda mam Rob yn siopa am lyfrau yn Berkeley. Fe aethon ni i Barnes & Noble, Pegasus, Cody's, Moe's, a Shakespeare & Co. Roedd hi'n wych--fe brynais i bentwr llyfrau newydd, y cyfan ohonyn nhw llyfrau i bobl ifainc. Felly dw i'n "gwneud ymchwil ar gyfer fy ysgrifennu."

Ar ddydd Sul fe aeth Rob a fi gyda'i fam i weld y ffilm Hitchhiker's Guide, a oedd yn wych hefyd, a fe welon ni gefnder Rob yn actio mewn drama miwsig "A Funny Thing Happened on the Way to the Forum" gyda myfyrwyr eraill yn ei ysgol uwchradd. A nawr, dyn ni'n peintio tu allan ein tŷ ni. Mae llawer o bethau'n digwydd. Ond dw i wedi bod yn dysgu tipyn bach o Gymraeg hefyd!

Tuesday, April 12, 2005

Beiblau Sanctaidd, Batman!

Heddiw gwnes i rhywbeth ddiddorol--rhywbeth Cymreig, hefyd: gwnes i dâp i rhywun a ofynodd i fi ddarllen fersys Beibl iddo fe, er mwyn iddo fe eu dysgu nhw cyn gwasanaeth yn ei eglwys. Felly, darllenais i Ioan I: 1-5 ar y tâp--mewn cyflymder normal yn gyntaf, ac wedyn yn arafach. Roedd y dyn yn defnyddio hen Beibl ei hen-daid a'i hen-nain, felly roedd hi'n fersiwn traddodiadol. Gwych!

Wednesday, March 30, 2005

Ysgrifennu Mwy na Llai

Weithiau mae rhaid rhoi'r gorau i rhyw bethau er mwyn canolbwyntio mwy o egni ar bethau eraill. A dyna beth wnes i. Yn effeithiol dydd Gwener nesaf, dw i'n ymddiswyddo fel golygydd ar bwnc yr Iaith Gymraeg ar Suite101.com.

Dw i wedi bod yn gwneud hyn ers 2001, ac yn ddiweddar dw i wedi mynd yn rhy brysur i ddal at y prosiect. Mae rhaid i fi dreulio mwy o amser ar waith ar gyfer fy musnes freelance ysgrifennu a chelf--sef gwaith sy'n talu, â dweud y gwir. Ond wrth gwrs, bydd mwy o amser 'da fi i flogio ar y dudalen hon! Bydda i ddim yn rhoi'r gorau i ysgrifennu am bethau Cymreig, chwaith. Felly peidiwch â phoeni!

Saturday, March 19, 2005

Baban Newydd

Cafodd fy nai ei eni ar ddydd Sadwrn, y 12fed o Fawrth! Miles yw ei enw e, a roedd e'n 7lb. 3oz. a 20 modfedd. Daeth y fam a'r babi adre ddydd Sul, ond dydd Llun roedd gwres ar fy chwaer-yng-nghyfraith. Roedd rhaid iddi hi fynd yn ôl i'r ysbyty ac aros yno tan iddyn nhw ddweud ei bod hi'n iach. Roedden ni'n ofni y gallai bod haint arni hi, ond mae'n ymddangos yr oedd e ddim ond ffliw. Daeth hi adre unwaith eto ddydd Mercher, ac wedyn cafodd y babi jaundice a roedd rhaid iddo fe fynd yn ôl i'r ysbyty i gael mwy o brofion. Ond mae e'n dda iawn nawr, ac mae'r fam a'r babi gartre a hapus iawn.

Fe ges i gyfle i'w ddal e heddiw. Gwnaeth e bisio yn ei ddiaper a wedyn dechreuodd e grio. Yn ffodus, dw i'n gallu ei rhoi e 'n ôl!

Saturday, March 12, 2005

Amser i Blant

Mae nai ar ei ffordd, yn cael i eni yn Stockton, California! Mwy o newyddion nes ymlaen!

Saturday, March 05, 2005

Gweithio...a Gweithio...a Gweithio...

Mae'n ddrwg 'da fi adrodd, dw i wedi bod mor brysur yr wythnos 'ma, mod i ddim yn gwneud unrhywbeth i wella fy ngymraeg. Dw i'n anobeithiol.

Ond, yfory bydda i'n mynd i "Noson Gymraeg" yn Stockton--swper a cyngerdd telyn. Pan siaradais i gyda'r fenyw a drefnodd y digwyddiad, roedd diddordeb 'da hi mewn dod â'r Cwrs Cymraeg i Ganol California undydd yn y dyfodol. Bydd hynny'n wych! Basai rhywun 'ma i helpu gyda'r trefnu, ar wahân i fi. Campus!

Sunday, February 27, 2005

Mynci Haerllug

Dim byd yn gyffrous i adrodd heddiw. Dw i wedi rhoi erthygl newydd ar fy ngwefan Suite101, sef The Dysgwr's Diary, Part Five: Short Conversations. Mae sgwrs byr ynddi rhwng Dafydd y Dysgwr a merch ei fod e'n dwli arni, a mae Dafydd tipyn bach yn haerllug...

Ar y 6ed Mawrth byddaf i'n mynd gyda Rob a'i rhieni i Noson Gymraeg yn Stockton (tref sy'n rhyw 35 o filltiroedd i ffwrdd) ble byddwn ni'n clywed cerddoriaeth delynau a sgwrsio gyda phobl o gymdeithasau Cymreig, Albaneg, a Gwyddelig yn yr ardal. Bydd hynny o rhyw ddiddordeb, dw i'n credu. Dw i ddim yn siwr os bydd y fath o bobl sy'n hoffi miwsig y delyn neu pethau "Celtaidd" yn yr ardal yma yn rhyfedd, ond bydd yn gyfle i gwylio pobl, ta beth.

Thursday, February 17, 2005

G-Bost

Os gwelwch yn dda, os hoffech chi gael cyfeiriad e-bost gyda gmail (gwasanaeth e-bost google), gadewch i fi wybod. Mae 'da fi crapload o wahoddiadau--50 i fod yn fanwl. Dw i ddim yn siwr os ydw i'n nabod 50 o bobl.

Wednesday, February 16, 2005

Ymwelwr Pwysig

Mae rhywun diddorol wedi gadael sylwebaeth ar fy mlog, ar ôl y post am Tithau a Chithau. Nawr mae pwys arnaf i ysgrifennu'n gywir! ;-)

Yn sôn am tithau a chithau, dw i wedi llwyddo i'w ddefnyddio nhw yn fy erthygl newydd ar Suite101, y fydd yn cael ei phostio yfory ar y dudalen 'ma. Bydd hi'n rhan newydd Y Dysgwr's Diary. Eitha gwirion, ie...

Thursday, February 10, 2005

Sori, Mr. Plismon Syr, Dw i Wedi Colli Fy Nhrwydded Ysgrifennu

Wel, mae'n ymddangos mod i ddim wedi dweud wrthoch chi y newyddion da...Mae diddordeb 'da Bloomsbury Children's Books mewn fy nofel i bobl ifainc. Yr wythnos ddiwetha, fe ges i lythyr oddi wrth Editorial Assistant yno, yn dweud eu bod nhw'n hapus darllen yr holl llawysgrif. Fy ateb cyntaf sy ddim yn "Na diolch"...Dw i'n llawn cyffro!

Ond dyna pam dw i ddim wedi postio dim byd ers lawer dydd. Dw i wedi bod yn golygu ac ail-olygu fel person ffôl, achos meddyliais i y gawn i lawer mwy amser ar ôl wedi anfon fy llythyr i. Ond clywais i oddi wrthyn nhw dim ond dwy wythnos a hanner ar ôl anfon y llythyr. Syfrdanol! Mae hynny'n beth da, on'd ydy?

Yn y cyfamser cyn i fi ddod 'nol i bostio yn gyson, dyma erthygl am y trwyddedau teithio eich bod chi'n gallu cael yn Gymraeg neu Albaneg.

Monday, January 31, 2005

Ystrydebau

Tra o'n i'n chwilio am wybodaeth am ddysgu Cymraeg i fyfyrwraig yn Slovenia, ffeindiais i'r rhestr ystrydebau yma ar wefan British Council--scroliwch i lawr i weld y rhestr "stereotypes the Welsh hate."

Yn brwydro ystrydebau gyda cyffredinoliadau! Hefyd mae'r tôn jyst yn sarhaus yn fy marn i. Wrth gwrs mae rhaid brwydro yn erbyn ystrydebau, ond nad yw hi'n well i gael rhyw wybodaeth--dim ots pa mor gyffredin neu wedi dyddio--yn lle, e.e., galw pobl o Gymru "Saes"? Dw i ddim yn siwr, a dweud y gwir, achos dw i ddim yn Gymraes na dw i'n byw yng Nghymru chwaith. Dim ond barn.

Yn sôn am syniadiau pobl am Gymru, dw i'n hoffi llyfr David Greenslade Cambrian Country--darlleniad diddorol.

Thursday, January 27, 2005

Enwau Mawr mewn Llenyddiaeth

Dyma stori ddiddorol.

Rob yw enw fy ngwr: Robert Stevenson (ond dim Robert Louis Stevenson). Mae Rob yn athro celfyddyd yn y coleg. Yn ei ddosbarth "Lliw a Dylunio" (Color & Design?) y semester yma, mae myfyriwr o'r enw Dylan Thomas. Dim jocio.

Mae'n ymddangos bod cysylltiadau rhwng y bois 'ma a'r lleill: fel Rob (heddiw) a Robert Louis, dwedodd Dylan (heddiw) am Dylan (o'r blaen) yr oedd e'n berthynas bell yn unig. Doedd dim plant gyda Robert Louis Stevenson ei hun, yn ôl Rob.

Wednesday, January 26, 2005

Trafod y Tywydd

Mae hi'n bwrw hen wragedd a ffyn yma ar hyn o bryd. Roedd y daran yn codi ofn ar fy nghath. Diolch byth am ein ffenestri newydd!

Tuesday, January 25, 2005

Y Friendster Cymreig

Ych-a-fi, roedd problem gyda'r postio. Dw i'n casau hynny. Ie, dw i'n gohirio. Oes problem??

Wyt ti'n hoffi Friendster? Wyt ti moyn cwrdd â phobl Cymreig eraill? Beth am geisio Pishyn? Wyt ti wedi cael llond bol o gwestiynau eto?? Ta beth, mae'n edrych fel wefan neis iawn...hyd yn oed os dych chi'n "cwpwl yn chwilio am cwpwl." Diddorol iawn.

Tithau a Chithau

Ro'n i'n tacluso fy negeseuon e-bost heddiw a des i o hyd i'r gair "tithau" mewn neges oddiwrth Harry Campbell. Penderfynais i ddysgu am y gair once and for all. Felly, dyma esboniad ac enghraifft yn Gymraeg, er mwyn i fi actually gofio'r peth.

Yn ôl geiriadur poced Gareth King, defnyddiwyd "tithau" a "chithau" fel ymateb i rhyw ddatganiad gyda "ti" neu "chi," i'w bwysleisio'r ymateb. Felly, os mae rhywun wedi dweud "blwyddyn newydd dda i ti," gallet ti'n ateb "blwyddyn newydd dda i tithau hefyd." A hefyd mae'r enghraifft yma: "iawn--mi gei dithau ffonio nhw!" Ond dwedodd Gareth King bod y geiriau ddim yn gyffredin iawn; dw i'n credu y ddylen nhw fod yn mwy ffurfiol.

Wrth gwrs dych chi'n gwybod hynny'n barod. Ond roedd rhaid i fi ymarfer fy Ngymraeg yr wythnos yma. Dw i wedi bod yn gwneud gormod o chwilio am waith (gwaith ysgrifennu neu golygu, rhan-amser neu telecommuting--chi'n gwybod rhywun gydag angen awdur?? Os gwelwch yn dda?).

Monday, January 17, 2005

Dim Byd o Gwbl...Dim Byd o Gwbl...

Dydy'r teitl ddim yr un peth yn Gymraeg...sori, Ned Flanders.

Ond mae'n ddisgrifiad cywir petasech chi'n gofyn os dw i wedi gwneud unrhyw gweithgareddau Cymreig yn ddiweddar: dim byd o gwbl, mae'n ddrwg 'da fi ddweud, ar wahân i e-bostio ffrind. Ond, gwnes i anfon dau gynnig ar gyfer fy nofel at cyhoeddwyr--Bloomsbury USA a Boyds Mills Press. Nawr, yr arhosiad hir...

Dw i'n gwybod y ddylwn i astudio gyda'r gwersi CMC, darllen pethau yn Gymraeg ar y we, a gwrando ar Radio Cymru (dw i'n hoff o C2--a dyna beth sy ar y radio yn y dydd, yma yn California). Ond dw i ddim yn dda iawn gyda'r ymarfer y dyddiau yma. Dw i'n ceisio'n galed iawn gwneud rhywbeth gyda fy ysgrifennu, a cyhoeddi rhywbeth, ac mae hynny'n defnyddio llawer o amser (dim lwc eto, chwaith). Felly dyna pam dw i wedi bod yn ddrwg! Yn y cyfamser, dyma rhywbeth doniol ac eitha Cymreig.