Thursday, July 24, 2008

Cofion y Cwrs, Rhan 2

Dw i wedi bod yn mwynhau postiau blog Emma Reese am ei phrofiadau hi ar y Cwrs Cymraeg yn Iowa. Mae llun eitha neis ohonon ni o'r ail ddiwrnod. Mae nifer o luniau 'da fi hefyd ar fy ngwefan Flickr--os wyt ti wedi cael dy farcio fel "ffrind," byddi di'n gallu gweld yr holl gasgliad. (Dw i ddim yn hoffi marcio lluniau gyda phobl ynddynt "cyhoeddus" heb caniatad.)

Ta beth, roedd yr wythnos yn llawn dop o brofiadau cofiadwy. Un o fy hoff rannau o'r Cwrs ydy'r cyfle i sgwrsio gyda myfyrwyr eraill--a thiwtoriaid--allan o'r dosbarth, yn ystod gweithgareddau'r noswaith (fel y twmpath dawns neu'r noson gwis) neu yn y dafarn dros peint neu ddau (neu tri...neu pedwar...). Â dweud y gwir, mae rhai o'r Cyrsiau fel "week-long bender" gyda dosbarthiadau drwy'r dydd a digon o gwrw gyda'r nos.

Mae'n ddiddorol gwylio pobl yn gwylio ni yn canu nerth ein pennau yn y Gymraeg. Er na fod hynny'n digwydd bob amser, bob hyn a hyn dyw hi ddim yn anarferol i'n grwp ni ganu caneuon Cymreig traddodiadol fel "Yma o Hyd" neu "Calon Lân" ynghanol rhyw dafarn ddi-feddwl-ddrwg yn Nghanol America.

Dw i'n cofio y tro cyntaf y roeddwn i ar y Cwrs, ym 1999 yn Nhoronto, Canada. Bron bob nos, roedd grwp eitha mawr yn y dafarn ar y campws yn yfed cwrw ac yn canu tipyn bach. Roedd cyfle i fi ymlacio digon i ddefnyddio fy Nghymraeg! Ond hefyd, y tro 'na des i i nabod y tiwtoriad hefyd--Heini Gruffudd oedd fy athro y flwyddyn 'na, a hefyd roedd Mark Stonelake, Steve Morris, ac Emyr Davies yno. Erbyn diwedd yr wythnos, teimlais i fel bod pob un ohonynt, ond yn enwedig Mark a Steve, yn ffrindiau go iawn. Dyna pam mae'r Cwrs yn ddigwyddiad mor arbennig bob blwyddyn--y ffrindiau dw i'n eu gweld dim ond unwaith y flwyddyn neu bob yn ail flwyddyn. Wrth gwrs, petaswn i'n cael y cyfle i'w gweld nhw'n fwy aml, baswn i'n hapus hefyd...efallai bydd taith i Gymru yn y dyfodol os dw i'n gallu ei fforddio hi.

Tuesday, July 22, 2008

Yn ôl o'r Cwrs Cymraeg

Me with the tutors from Wales

Des i'n ôl o'r Cwrs Cymraeg yn Iowa nos Sul (yn hwyr iawn, yn anffodus) ar ôl dysgu cymaint a gwella fy Nghymraeg mewn dosbarth arbennig o dda gyda Geraint Wilson-Price (ar y dde yn y ffoto). Hefyd, cwrddais i â Emma Reese, blogwraig arall oedd yn fy nosbarth i hefyd.

Ces i lawer o hwyl dros yr wythnos, fel arfer. Fel arfer eto, roedd treulio amser gyda ffrindiau, yn enwedig y tiwtoriaid mod i'n ffrindiau gyda nhw fel Mark a Chris, yn brofiad arbennig. Roedd digon o gyfle i fi ymarfer siarad, a ceisias i'n galed siarad Cymraeg cymaint â phosib. Mae un problem mawr yr ydw i wedi darganfod, sef mae hi'n bron amhosib i fi ddweud beth dw i eisiau ei ddweud A siarad gyda acen ddigon da ar yr un pryd. Ydy hwn yn broblem cyffredin gyda dysgwyr tybed?

Beth bynnag, roedd y dosbarth yn ardderchog. Roedd gyda Geraint ddawn am wybod pa bwyntiau basai'n achosi trafferth i ddysgwyr eitha uchel, a roedd llawer o amser i ymarfer sgwrsio yn y dosbarth. Uchafbwynt arall - ces i CDs gan Sibrydion, Big Leaves, a Clwb Cymru oddiwrth ffrind i fi. Gwych!

Ysgrifenna i fwy nes ymlaen...

Tuesday, July 01, 2008

Gweithio, gweithio, gweithio...

Mae popeth yn brysur fel arfer. Dim amser i flogio. A pan dw i'n ymlacio dw i'n bant drwy'r dydd hefyd, mae'n ymddangos--dydd Sul fe aethon ni gyda cwpwl o ffrindiau i rafftio i lawr yr afon Americanaidd yn Sacramento (rhyw awr a hanner i ffwrdd). Dim white water rafting oedd hi, jyst arnofio i lawr yr afon mewn rafft gyda llawer o gwrw. Gwelon ni lawer o adar a cwpwl o dwrgwn hefyd, yn chwarae yn y dwr ar lan yr afon. Yfais i tipyn gormod; roedd y tywydd yn braf ond eitha twym.

Mae un o'r ffrindiau oedd gyda ni, dyn o'r enw Mike, ynghanol tipyn o "argyfwng canol oed" os mae hynny'n gwneud synnwyr. Mae e'n ffansio ffrind arall ni oedd yn y rafft, merch o'r enw Jay sy'n priodi a ffrind ohono fe. Mae Mike yn priodi hefyd, ond mae e a'i wraig yn meddwl o'i hunain fel swingers. Y problem yw, does neb yn ein grwp ni'n cael unrhyw diddordeb mewn gwneud hynny gyda nhw.

Ta beth, tan bellach doedd e ddim yn dangos unrhyw diddordeb mewn fi (diolch byth), ond dydd Sul ar y rafft penderfynodd e fy slapio i ar y pen ol. Do'n i ddim yn hollol cyfforddus gyda hynny...

Wednesday, June 04, 2008

Pen-blwydd Priodas Hapus i Fi!

Ein seithfed pen-blwydd priodas ydy heddiw. Yn ffodus, does dim "seven-year itch" oherwydd ein bod ni gyda'n gilydd bron 12 mlynedd (!!). Mae Rob wedi cynllunio rhyw fath o waithgaredd sy'n syndod am y noson. Gwraig ofnadwy ydw i--cynlluniais i dim byd.

Mae angen mawr arnaf astudio yn galed iawn cyn y Cwrs Cymraeg--dw i ddim wedi bod yn astudio o gwbl ar wahân i ddarllen blog neu ddwy. Wel, dw i wedi bod yn gwylio'r gyfres deledu "Torchwood," sy'n cael digon o bobl Gymreig...y nifer mwyaf o acennau Cymraeg dw i erioed wedi gweld ar sianel deledu Americanaidd.

Friday, May 09, 2008

Pigion y Ddysgwraig Ddiog

Dw i newydd orffen gwrando ar y rhaglen BBC Pigion am y tro cyntaf a mwynheuais i hi yn fawr iawn. Yn arbennig, hoffais yr oedd amrywiaeth o acennau o ledled Cymru. Ymarfer da i fi--dw i ddim wedi cael cyfle i wrando ar Radio Cymru neu unrhywbeth yn ddiweddar, felly mae'n ychydig o her i fi ddeall.

Ond, mae rhaid i fi ddechrau ymarfer fy Nghymraeg, gan mod i ddim mewn dosbarth Sbaeneg ar hyn o bryd. Daw y Cwrs Cymraeg Cymdeithas Madog mewn dwy fis byr. Fel arfer, y tair blynedd diwetha, ro'n i yn y dosbarth uchaf, ond bob blwyddyn dw i'n siwr mod i wedi anghofio popeth a bydd rhaid i fi mynd i lawr i'r lefel nesaf is (next lowest level - ydy hynny'n gywir?). Ond efallai, os dw i'n gwneud yr ymarferion ar-lein ac ati, teimla i'n ddigon cyffyrddus i aros yn lefel saith...

Saturday, April 19, 2008

Prysur Dros Ben

Ydw, dw i yma o hyd, heh heh. Dw i'n siwr mod i wedi dweud yr hyn o'r blaen, ond dw i wedi bod yn anobeithiol o brysur. Am rhyw rheswm, mae rhyw saith prosiect bod angen i fi eu gwneud cyn dydd Mawrth. Sut yn y byd ddigwyddodd hynny?? Pam mae'r 22 o Ebrill yn "D-Day" i fi? Traethodau i'w marcio, rhaglen i'r ddrama nesaf i'w cynllunio, prawf terfynol yn nosbarth Sbaeneg...a'r wythnos 'ma dw i wedi bod yn sâl gyda annwyd, felly do'n i ddim yn gynhyrchiol iawn cyn hyn.

Mae'n flin 'da fi bod yr hyn ddim yn ddiddorol iawn--rhestr o pethau i'w wneud ydy e, 'tefe. Mwy o ddiddordeb yn y dyfodol agos, dw i'n addo.

Friday, March 28, 2008

Cysylltiad Cyflym

Dw i jyst yn rhedeg heibio'r blog gyda cysylltiad o'r cylchlythyr BBC--maen nhw wedi lawnsio safle o'r enw Pigion. Mae Pigion yn postio podlediadau wythnosol gyda uchafbwyntiau Radio Cymru o'r wythnos ddiwetha, wedi'i chyflwyno yn syml ar gyfer ddysgwyr, yn arbennig.

Dw i'n edrych ymlaen at gwrando â nhw--pan fydd amser rhydd 'da fi. Ar hyn o bryd dw i'n dal i ddysgu Sbaeneg--a dw i ddim yn gwneud hynny yn dda iawn chwaith!

Monday, March 10, 2008

Ochenaid...

Does dim byd yn ddiddorol yn digwydd fan' ma, yn anffodus. Dw i'n cwympo'n ôl gyda'r gwaith cartref Sbaeneg--er bod dim byd yn ddiddorol yn digwydd, mae llawer yn digwydd. Pethau bychain, blin, fel gwneud ein trethi (dyn ni'n cael arian yn ôl o'r llwyodraeth ffederal--hwre!--ond mae dyled 9 doler arnon ni i'r dalaith--bww!). Mae'r gwaith yn poeni Rob ar hyn o bryd. Â dweud y gwir, mae fy ngwaith i yn boenus hefyd: derbynais i "lythyr gwrthodiad" oddiwrth asient arall heddiw. Felly mae'n flin 'da fi; dydy hynny ddim yn bost siriol...ond mae angen ymarfer arnaf cyn y cwrs yn yr haf, rhag ofn i fi fynd i lefel is.

Sunday, February 17, 2008

Dyfal Donc a Dyrr y Garreg

Dw i wedi dechrau unwaith eto gyda'r sgyrsiau dros y ffôn gyda fy ffrind, Brenda, sy'n dysgwraig hefyd a sy'n dod o Gastell-Nedd yn wreiddiol. Bron yn wythnosol, dyn ni'n dewis pwnc o flaen llaw, a mae un ohonon ni'n gofyn cwestiynau a'r llall yn ymateb. Mae'r pynciau yn eitha cyffredinol; er enghraifft, y pwnc ddydd Sadwrn diwetha oedd "ein taith ni nesaf." (Bydd hi'n teithio i Dde California yr wythnos nesaf.)

Ar wahân i hynny, dw i wedi bod yn canolbwyntio ar ein dosbarth Sbaeneg y dyddiau yma, â dweud y gwir. Mae'r dosbarth yn mynd ymlaen; perfformiais i'n dda ar y dau brofion cyntaf. Ond does dim digon o amser i astudio. Am ryw rheswm dyn ni'n arbennig o brysur ar hyn o bryd gyda pethau fel gwaith, wrth gwrs, a hefyd ail-gynllunio fy ngwefan bersonol.

Heddiw aethon ni i gael swper Calan Tsieniaidd gyda teulu Rob, mewn ty^ bwyta neis iawn. Roedd gormod o fwyd: cyw iâr wedi'i pobi, hwyaden Peking, psygod wedi'i stemio, cranc gyda sinsir ac "wniwns gwyrdd", corgymychiaid, llysiau gyda tofu a madarch... Fe fwyton ni tua 3 o'r gloch a dw i ddim eisiau bwyd eto, am 9 o'r gloch. Ond dw i'n yfed potel o gwrw...bob amser mae lle i gwrw!

Wednesday, February 06, 2008

Sbaeneg yn mynd ymlaen...

Dw i'n mwynhau'r dosbarth Sbaeneg. Ond dw i wedi sylwi ar rywbeth. Bob tro dw i ddim yn gwybod gair, dw i'n troi i'r Gymraeg (yn fy mhen, ta beth). Wel, Cymraeg neu'r Ffrangeg.

Erbyn hyn, dyn ni wedi dysgu geirfa ynglyn â'r dosbarth a'r prifysgol, ac hefyd rhifau. Wrth gwrs, dyw'r geirfa brifysgol ddim mor ddefnyddiol i fi ar hyn o bryd, gan mod i ddim yn fyfyrwraig bellach. (Yo estudio administracion de empresas!) Ond efallai bydd hynny yn ddefnyddiol i'r gwr, os caiff e fyfyrwyr sy'n siarad Sbaeneg.

Beth arall...ym, wedi ffeindio "oriel lluniau" perffaith ar gyfer fy ngwefan bersonol. Wel, mae'n gyffrous i fi ta beth. Dw i wedi bod yn chwilio am oriel da, a dyma oriel arbennig o dda a digon hawdd i fi.

Saturday, January 26, 2008

Dw i'n dysgu...Sbaeneg?!

Ie, yn lle astudio Cymraeg fel merch fach dda, dw i'n dysgu Sbaeneg. Dw i'n cymryd dosbarth gyda fy ngwr a chwpwl o ffrindiau. Dw i'n gallu siarad tipyn bach o Sbaeneg yn barod--mae fy llys-dad yn dod o Costa Rica, a mae modryb 'da fi sy'n dod o Mecsico yn wreiddiol. Dw i'n gallu deall yn eitha da, ond dw i ddim yn gallu ateb yn dda iawn, a does dim llawer o eirfa 'da fi o gwbl. Ond mae'n bwysig iawn a defnyddiol iawn gwybod Sbaeneg yn California, felly...

O leiaf, yfory bydda i'n sgwrsio yn Gymraeg gyda ffrind i fi, Brenda--dyn ni'n ail-ddechrau ein sgyrsiau ffôn. Dw i i fod i siarad am fy nhaith i'r Eidal ym mis Tachwedd. Pob lwc i fi!!

Mewn newyddion eraill, nawr mae hi'n bosib cofrestru ar y Cwrs Cymraeg 2008 - Cwrs y Rhosyn Gwyllt yn Iowa. Ydw i wedi sôn yn ddiweddar, mod i mo'r llywydd bellach? Diolch byth! Does dim digon o amser 'da fi. Mae talent 'da fi--llenwi pob bwlch o amser gyda rhyw fath o waith...

Monday, January 14, 2008

Gwella Fy Ngeirfa

Diolch i Nic am ddysgu ymadrodd newydd i fi (newydd i fi yn Gymraeg, ta beth) - neidio'r siarc. Gwych!

Tuesday, January 08, 2008

Dydd Cyntaf yr Ysgol

Er bod rhaid i fi ymarfer fy Ngymraeg eto, heddiw (p'nawn 'ma) bydd Rob a fi'n dechrau dosbarth Sbaeneg yn y coleg lleol. Mae'n ddefnyddiol iawn siarad Sbaeneg yma yn California. Dw i'n gallu ei siarad tipyn bach--mae fy llysdad yn dod o Costa Rica yn wreiddiol--ond chymerais i erioed rhan o ddosbarth ffurfiol.

Bydd sawl ffrindiau yn gwneud y dosbarth hefyd, felly gobeithio bydd e'n dipyn o hywl. Dosbarth "hybrid" ydy e--mae rhan o'r dosbarth yn cymryd lle ar-lein. Dw i ddim yn siwr sut yn union caiff y rhan ar-lein ei drefnu, ond dw i'n edrych ymlaen ato fe.

Thursday, December 27, 2007

Blwyddyn Newydd Dda--2008 Hapus!

Dw i ddim wedi blogio ers talwm, ond wrth gwrs, mae pethau'n brysur dros y gwyliau fel arfer. Mae ffrindiau sy'n byw yn Hawaii (lwcus!) wedi dod i ymweld â ni a'i teulu nhw, felly dyn ni wedi bod yn mynd yma ac acw gyda nhw yn ymweld â ffrindiau eraill ac ati. Fe aethon ni i weld yr eira yn y mynyddoedd yn Pinecrest (rhyw 2 awr i ffwrdd) oherwydd mae bachgen bach 3 oed gyda nhw sy erioed wedi chwarae yn yr eira. (Does dim llawer o eira yn Hawaii sef ar gopa Mauna Kea.)

Hefyd aethon ni gyda nhw i wylio gêm pêl-droed Americanaidd rhwng y 49ers a'r Tampa Bay Buccaneers. Dim yn gyffrous iawn i fi ond joiais i'r black-and-tans. Noson Nadolig fe aethon ni i barti yn nhy ffrind i ni, ac ar ddydd Nadolig aethon ni i weld teulu Rob.

Dderbynoch chi unrhywbeth arbennig o dda fel anrheg Nadolig? Oddiwrth fy ngwr fe ges i DVD Sigur Ros a gêm fideo Nintendo DS--The Sims: Castaway. Fe gafodd e bocs mawr "booze chocolates" oddiwrth ei rhieni--siocledi mewn siap poteli bach gyda phob math o alcohol ynddynt. Ymmm!

Saturday, December 01, 2007

Stwff am Venice

Mae'n flin 'da fi mod i mor ddiog, ond dyna fe. Rwyt ti'n gallu darllen tipyn bach am ein taith i'r Eidal ar fy mlog Saesneg. A gobeithio pan fydd mwy o amser rhydd 'da fi (pryd? pryd??) postiaf i rhywbeth yn Gymraeg hefyd. Ar hyn o bryd mae pentwr o lyfrau ar fy llawr yn aros i fi eu darllen nhw ar gyfer y gwobrau Cybils, felly...dim llawer o amser i wneud unrhywbeth arall, fel, ym, ysgrifennu blogiau. A dweud y gwir dw i ddim wedi bod mewn tymer dda i ysgrifennu o gwbl, achos fe ges i bedwar rejections yn y tair wythnos gynt. Wel, dyna fywyd yr artist...

Wednesday, November 21, 2007

Yn ol o'r Eidal

Nodyn bach i ddweud bod tua hanner o fy lluniau o'r Eidal ar Flickr ar hyn o bryd. Byddaf yn rhoi y weddill ar-lein cyn bo hir, gobeithio heno neu yn y bore. Diolchgarwch hapus! (Rhaid i fi orffen tacluso'r ty cyn i'r Cinio Mawr yfory...)

Wednesday, November 07, 2007

Tan yr wythnos nesaf...

Wel, dyn ni bron yn barod i adael ar ein gwyliau. Byddwn ni bant nes dydd Gwener nesaf. Heno dyn ni'n gyrru i San Francisco (tua 2 awr) i aros mewn gwesty, cyn cymryd awyren am 8:40 yn y bore. Dw i'n teimlo fel bod pethau yn llanastr llwyr yma ar hyn o bryd, gyda'r holl adeiladu, a'r ffaith mod i ddim wedi cael cyfle i dacluso fy "swydd" neu unrhywbeth arall sef y gegin. (Mae rhaid glanhau'r gegin cyn mynd unrhywle oherwydd y morgrug...ac mae rhaid i fi olchi'r llestri eto...)

Byddwn ni'n cyrraedd Venice ychydig ar ôl 10 bore Gwener. Dw i'n credu bydd ein gwesty yn eitha neis (diolch Expedia). Dydd Gwener a dydd Sadwrn dyn ni'n cerdded o gwmpas Venice. Dydd Sul a dydd Llun dyn ni'n mynd i weld y Biennale; dydd Mawrth, i Milan; dydd Mercher, yn Venice unwaith eto; dydd Iau, i Ravenna i weld y mosaigs Bysantaidd; a dydd Gwener nesaf, dod yn ôl. Bydd hi'n daith gyflym iawn, ond gobeithio, yn ddymunol iawn hefyd.

Tuesday, October 30, 2007

Pethau Amrywiol

Yn gyntaf, diolch i fy mam, erthygl dda am ein arweinwyr rhagorol. Doniol iawn. Dw i'n dweud wrthoch, dylai California ymwahanu ei hunan oddiwrth gweddill yr wlad.

Dw i wedi bod yn meddwl am wneud audioblogs gyda'r gwasanaeth hon, yn Gymraeg. Oes gyda unrhywun brofiad gyda Gabcast? Mae hi'n edrych yn dda ac yn ddigon syml. Mae rhaid i fi ymarfer siarad. Dw i wedi bod yn cael ambell sgwrs gyda ffrind dros y ffôn yn y Gymraeg, ond basai "audioblogio" ychydig o hwyl. Roedd Chris yn gwneud hynny am sbel.

Ym...dim llawer arall heddiw. Dyn ni'n dal i baratoi am ein taith i Venice--yr wythnos nesaf yn barod!! Mae pentwr o waith i'w orffen cyn mynd. Poster newydd i gynllunio, cylchlythyr i olygu, a traethodau byr i'w marcio...hefyd mae NaNoWriMo yn dechrau ddydd Iau. (Dw i'n siwr mod i ddim yn gorffen yn 50K o eiriau, gyda'r gwyliau yn y canol, ond mae'n esgus da i ddechrau prosiect newydd.)

Friday, October 26, 2007

Parlo Gallese

Duw, does dim amser i flogio bellach. Dw i wedi bod yn gweithio unwaith eto ar brosiect freelance yn gwneud ymchwil cwricwlwm ar gyfer Riverside School for the Arts. Hefyd dw i wedi bod yn helpu gyda gwobrau llyfrau i bobl ifanc, yn trefnu categori nofelau graffig a hefyd ar banel enwebu yng nghategori SF/Ffantasi. Llawer o waith ydy hi, ond dw i'n cael sawl llyfrau yn rhad ac am ddim. Gwych! :)

Yup, he definitely likes meDyma ffoto ohono i yn y Ren Faire. (Rhaid i ti fod yn "cyswllt" ar Flickr i weld y weddill.) Roedd "reptile petting zoo" yno a dw i'n hoffi ymlusgiaid. Hefyd, roedd Molly, merch ffrindiau, eisiau mynd i weld yr ymlusgiaid ond doedd hi ddim eisiau mynd i mewn ar ei phen ei hunan. Felly es i i mewn gyda hi. Roedd y neidr yma yn fy hoffi fi, dw i'n credu. Neu yn meddwl fy mod i'n goeden. Un neu'r llall. Mae lluniau ohono i ar Flickr gyda neidr enfawr hefyd, 65 pwys. Roedd e'n drwm!

 dweud y gwir, mae'r Ren Faire yn gyfle i fi a'r gwr yfed cwrw drwy'r dydd. Dyn ni ddim yn hoff iawn o'r peth ond mae ffrindiau 'da ni sy'n dwlu arno fe. O, mae'n ychydig o hwyl, a dw i'n hoffi costymau, ond mae'n rhy ddrud, yn fy marn i, ac y llawn o bobl rhyfedd. (Diddorol os dych chi'n hoffi gwylio pobl!)

Ar bwnc yn hollol wahanol, ydw i wedi sôn am ein tîm pêl-droed lleol yn dod yn ôl? Mae'r San Jose Earthquakes yn dychwelyd y tymor nesaf. Hwre!!

Monday, October 15, 2007

Blogiadur

Fel wyt ti'n gallu gweld ar y dde 'na, dw i wedi postio cysylltiad i'r Blogiadur. Yn hwyr iawn. Dw i wedi bod yn aelod o'r Blogiadur. Dw i'n hoff iawn o'r safle. Ond fel 'mod i wedi dweud o'r blaen, dw i'n hollol anobeithiol.

Dw i newydd ddarllen rhywbeth am, efallai, ffilm Watchmen ar Rwdls Nwdls. Basai hynny'n ddiddorol. Does dim llawer o wybodaeth eto ar y wefan swyddogol ond mwynheuais i V for Vendetta (y nofel graffeg a'r ffilm). Gobeithio y byddan nhw ddim yn gwneud llanastr ohoni.