Os dych chi'n clicio yma, fe allwch chi weld casgliad eitha mawr o luniau o Tseina. Cafodd y rhan fwyaf ohonyn nhw eu tynnu gan fy ngwr, achos fy mod i'n ffilmio pethau gyda camera fideo. Dw i ddim wedi gweld y ffilm eto, ond mae ofn arna i fod y peth yn jiggly.
Dw i'n pryderu tipyn bach oherwydd y cwrs sy'n dod cyn bo hir, ym mis Gorffennaf. Fe ddylwn i astudio bob dydd, ond mae cymaint o bethau i'w wneud gyda trefnu'r cwrs, gweithio, ysgrifennu...dw i'n gallu dim ond gwneud pethau fesul un a gobeithio bydd digon o amser i bopeth.
2 comments:
Dwi wrth fy modd hefo dy luniau China di ac mi fuaswn wrth fy modd mynd ar daith yno, ond dwi'n meddwl mai aros yme yn edrych ar dy luniau di fydd fy hanes. Blogiwr Cymraeg newydd.
Diolch yn fawr! Taith arbennig oedd hi--os bydd cyfle i ti deithio yno unrhyw bryd, dw i'n ei awgrymu hi. (Fel mae'n digwydd, fe gwrddon ni a Chymro ar ein gwibdaith cwch afon pan ro'n ni yno!)
Post a Comment