Ro'n i'n chwilio am enwau i fathau o gathod yn Gymraeg (llew, teigr, a.y.y.b.) ar ôl i'r gwr fy ngofyn (mae e'n meddwl am enw i gymeriad RPG) a des i o hyd i gwpwl o enwau anifeiliad diddorol 'mod i'n hoffi:
- cath fôr. Dyma'r gair am "ray" (fel stingray, dw i'n credu). Yn Saesneg mae buwch fôr, ond dim cath fôr.
- neidr filtroed a neidr gantroed. Gyda llaw, mae nifer o nadredd gantroed yn ein gardd gefn ni, yn ogystal â llawer o bryfed eraill, oherwydd y twll mawr yn y pridd lle byddwn ni'n adeiladu stafelloedd ychwanegol.
Dw i ddim yn gallu aros nes i'r ychwanegiad yn cael ei adeiladu. Dyn ni o hyd yn aros nes i'r Swyddfa Hawlen yn rhoi caniatad i ni ac yn cymeradwyo ein cynlluniau. O hyd!! Fe dechreuon ni'r broses yn yr haf. Ych-a-fi. Biwrocratiaeth!
3 comments:
Dylet creu dy ychwanegiad allan o babell.
Dolig Llawen a Blwyddyn Newydd Hyfryd!
Sôn am enwau od ar anifieliaid y môr, edrycha yn y geiriadur i weld be ydi "Jellyfish" yn Gymraeg...ok, dydi o ddim ar eiriadur y BBC ond mae o yng Ngeiriadur yr Academi.
Jellyfish = sglefren fôr, cont y môr, cont coch
Y problem yw, does dim pabell 'da ni chwaith...
Diolch, Rhodri--diddorol yn wir. Cont y môr...delwedd lachar iawn...
Post a Comment