Tuesday, February 02, 2010

Cyfle i Ysgrifennu yn Gymraeg

Dw i newydd dderbyn gwybodaeth am "Eisteddfod by Mail" yn cael ei chynnal gan Ninnau & Y Drych, papur newyddion Cymreig yn America. Mae hynny'n swnio'n ddiddorol iawn--cyfle da i adfywio fy sgiliau yn Gymraeg. Dw i angen yr ymarfer!

Mewn newyddion arall....does dim newyddion arall. Wel, dim byd o ddiddordeb. Wedi bod yn ygrifennu erthyglau, ac yn aros am fy nghyhoeddwyr cysylltu â fi ynglyn a fy nofel. Dim byd eto ar wahân i ffurflenni trethi...

Un peth arall--dw i wedi ail-gynllunio fy mlog yn Saesneg. Dw i'n falch iawn ohono fe! Ond dim digon o amser i flogio yno yn ddiweddar. Dw i'n "golygydd blog" ar gyfer y gwobrau Cybils eleni, felly dw i'n postio fan'na yn fwy aml.

Saturday, January 16, 2010

Dim Byd yn Arbennig

Beth dw i wedi bod yn gwneud? Ymm...wel, gad i ni weld:

Ysgrifennu erthyglau fel yr hyn. Gweithio ar nofel arall. Aros am fy nghwmni cyhoeddi cysylltu â fi am fy nofel sy'n cael ei chyhoeddi eleni...medden nhw. Peidio ag astudio Cymraeg. (Mae'n amlwg, on'd ydy?) Ychydig o chwarae gemau fideo. Coginio yn y ty yn aml--ar ôl ein taith fawr dyn ni heb llawer o arian sbâr. Coginio llawer o bara. Gwella ar ôl gormod o ymweliadau i'r teulu dros y gwyliau. Llwytho i fyny pentwr o ffotos o'r daith i'r Eidal a Sbaen.

Beth amdanoch chi? Beth dych chi wedi bod yn gwneud dros yr Ionawr yma?

Monday, January 04, 2010

Blwyddyn Newydd Arall...

Blwyddyn newydd dda...i bob un o'r tri person sy'n darllen hynny ar ôl fy absenoldeb hir. Prin mod i'n gallu credu y methais i bostio ers mis Tachwedd! Dw i wedi bod yn flinedig iawn ar ôl teithio--ac yn sôn am hynny, dyna ein lluniau ni o'r Eidal. Dw i'n dal i sortio drwy'r lluniau o Sbaen.

Eleni, dw i'n gobeithio blogio mwy yn y Gymraeg unwaith eto--dw i ddim eisiau anghofio pethau, yn arbennig os fydda i ddim yn gallu mynd i'r Cwrs eto. Ar ôl teithio dros mis (ac yn gwario Euros!) dyn ni ychydig yn dlawd, a dw i ddim yn siwr os bydd digon o arian 'da ni i fynd i Gymru yn yr haf. Dw i'n gallu gobeithio, ond, â dweud y gwir...dyw hi ddim yn debyg. OCHENAID.

Monday, November 09, 2009

Ceisio Peidio ag Anghofio'r Gymraeg...

Real Alcazar, SevilleMae hi'n ychydig yn drist dweud mod i ddim wedi bod yn ymarfer llawer o Gymraeg y dyddiau yma, gan ein bod ni yn Sbaen, ond dyw fy Sbaeneg ddim yn gwella yn gyflym iawn chwaith. Gobeithio y byddaf yn gallu cofio Saesneg o leiaf pan dyn ni yn ôl yn yr Unol Daleithiau!

Ta beth, dyma un o fy ffotos o Sevilla--mae mwy o ffotos ar fy safle Flickr a hanesydd diddorol ar fy mlog yn Saesneg a blog fy ngwr i. Dw i'n gobeithio mynd yn ôl i flogio yn y Gymraeg yn gyson cyn bo hir. Dyn ni'n dychwelyd adre ddydd Mercher, felly ar ôl hynny efallai...

Thursday, October 29, 2009

Y Glaw yn Sbaen...

A dweud y gwir, dyw hi ddim wedi bod yn bwrw glaw. Ond mae Sbaen yn wych hyd yn hyn, a cawson ni amser da yn Barcelona. Yfory dyn ni'n gadael ar y tren nos i Seville am nifer o ddyddiau. I weld lluniau, cliciwch yma!

Sunday, October 18, 2009

Salve--ym, Cyfarchion.

Dw i yn yr Eidal! Dim ond pasio hyd i ddweud helo, dyma fi, a ciao am y tro, ond gweler blog fy ngwr am fwy o'r diweddaraf a lluniau o'r Rhufain.

Tuesday, August 11, 2009

Y Diweddaraf

Ie, dyma fi ar ôl mwy na dau fis. Uffern. Wel, gwell hwyr na hwyrach, yntefe? Wrth gwrs. Dw i wedi bod yn eitha prysur gyda'r gwaith a'r ysgrifennu--gorffennais i ail-olygu fy nofel i bobl ifanc, ac anfonais i'r peth i gyd yn ôl i'r golygydd. Mae e wedi derbyn y llawysgrif, a dywedodd e ei fod yn gallu ei darllen yr wythnos nesaf mae'n debyg. Felly, dw i'n aros yn awyddus.

Hefyd, dyn ni wedi bod yn paratoi ar gyfer ein taith fawr ni yn yr hydref. Mae fy ngwr i'n cael sabbatical y flwyddyn yma (hydref 2009 a gwanwyn 2010), a peth da yw sabbatical i athro celf. Rhan o'r cynllun yw mynd i'r Eidal a Sbaen, am fis. Yn gyntaf, byddwn ni yn yr Eidal: Rome (gyda teithiau bach i Naples, Pompeii, a Herculaneum), wedyn Venice (gyda taith fach i Padua). Yr ail hanner o'r daith, byddwn ni yn Sbaen: Barcelona, wedyn Sevilla/Cordova/Granada, ac i orffen, Madrid. Dw i'n ceisio astudio mwy o Sbaeneg cyn hynny. Mae'r podcasts "Notes in Spanish" yn dda iawn (diolch i Zoe), a dw i'n edrych dros fy neunyddiau o'r dosbarth Sbaeneg a cymerais i flwyddyn yn ôl. Hefyd, mae meddalwedd Rosetta Stone 'da fi, a mae nifer o ymarferion defnyddiol ynddi.

Wel, mae hi bron unarddeg o'r gloch a dw i wedi blino ar ôl treulio gormod o amser ar y cyfrifiadur heddiw. Felly, nos da a hwyl am y tro.

Friday, May 29, 2009

Newyddion Da

Dim ond stopio i mewn i ddweud bod pethau yn brysur dros ben--wrth gwrs, yr hen esgus!--ond dw i'n bwriadu dal ati gyda'r blogio yn y Gymraeg. Dw i'n addo! Dw i wedi bod yn: dysgu Sbaeneg, plannu Cwrs Cymraeg yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf, ysgrifennu erthyglau, amcanu logos, a--heddiw--siarad wrth golygydd mewn ty cyhoeddi.

Ie, mae'n wir--mae diddordeb gyda rhywun yn fy nofel i bobl ifanc! Dw i'n llawn cyffro, wrth gwrs, ond mae digon o lafur i ddod. Mae'r golygydd eisiau i fi wneud nifer o newidiadau, ond dw i'n teimlo'n lwcws, achos dyw'r newidiadau ddim yn swnio yn od neu yn rhy anodd.

Ta beth, bydda i yn ôl cyn bo hir.

O.N. Does dim contract eto. Ond, efallai, ar ôl gwneud y newidiadau...

Tuesday, April 07, 2009

Yma o Hyd

Jyst pasio heibio i ddweud, fues i ddim farw! Jyst wedi bod yn brysur dros ben, fel arfer, gyda gwaith, bod yn drust (dw i'n drust bob hyn a hyn), astudio Sbaeneg, ac ati.

Ond dw i yma. Ysgrifenna i fwy yn fuan.

Saturday, March 07, 2009

Audioblogio; Ieithoedd

Wel, heddiw edrychais ar feddalwedd Windows Movie Maker, sydd ar fy ngliniadur newydd. Mae webcam a mic ar y gliniadur hefyd, a gwnes i arbrawf gyda phopeth. Dw i wedi bod yn meddwl am wneud postiau fideo fel a wnaeth Chris Cope yn y gorffennol. Basai'n ffordd dda, dw i'n credu, i fi ymarfer siarad heb yn rili siarad gyda phobl. Anghymdeithasol ydw i, wrth gwrs. :) Ond, ar ôl trio pethau, dw i'n sylweddoli pa mor anodd yw hi siarad o flaen y camera. Dw i ddim yn siwr ble i edrych--ar y webcam, wrth gwrs, ond mae'n fwy naturiol edrych ar fy hun ar y sgrin, achos mae'n naturiol edrych ar wynebau sy o'ch blaen chi pan dych chi'n siarad, on'd ydy? Hefyd dw i'n obsessed gyda'r posibilrwydd mod i'n gwneud golygon rhyfedd, neu swnio'n squeaky, ac yn y blaen. Felly caiff yr hyn ychydig o ymarfer ei hun...

Bydd yn bwysig i fi ymarfer fy Nghymraeg, beth bynnag, achos bydd rhaid i fi gwella fy Sbaeneg cyn yr hydref. Mae Rob wedi cael sabbatical dros y flwyddyn ysgol 2009-2010, a dyn ni'n bwriadu teithio am fis neu mwy yn yr Eidal a De Sbaen. Wrth gwrs bydd rhaid i fi adolygu y swm bach o Eidaleg a ddysgais i yn 2007, hefyd. Mae 'da fi feddalwedd Rosetta Stone yn rhad ac am ddim (peidiwch gofyn sut!! cyfrinach yw hi) a byddaf yn chwarae gyda hynny yn y misoedd dyfodol. A dw i'n credu bod gwersi Cymraeg ynddi hi hefyd, ond dw i ddim yn siwr os basen nhw'n rhy hawdd erbyn hyn...

NB (Nodyn Bach): Dych chi'n gallu cofrestru am y Cwrs Cymraeg bellach--a dych chi'n gallu talu eich deposit ar-lein!

Tuesday, February 10, 2009

25 Peth Amdana I

Dw i wedi penderfynu ysgrifennu'r meme hwn yn Gymraeg, achos dw i angen yr ymarfer. Efallai bydd hi'n cymryd dyddiau i'w gorffen, ond dw i'n benderfynol beth bynnag. Felly, dyma 25 peth amdana i--a dw i ddim jyst yn cyfieithu o fy rhestr yn Saesneg ar Facebook, dw i'n addo.

  1. Cymerais i fy nghwrs Cymraeg cyntaf pan o'n i'n fyfyrwraig yn UC Berkeley yn 1996.
  2. Dw i wedi teithio i Gymru 4 gwaith: yn 1983 (pan o'n i'n blentyn), 1990, 1996, a 2000. Mae hi'n hen bryd i fi fynd eto! (Yn 2010 yn bendant byddwn ni'n mynd.)
  3. Dw i'n hoff iawn o deithio a dw i wedi ymweld â Tseina, Siapan, Ffrainc, yr Eidal, Yr Alban (wel, dim ond Caeredin), Cymru, Lloegr, yr Almaen, Luxembourg, Canada, Mexico, a nifer o daleithiau yn yr UDA.
  4. Hoffwn i ymweld â Awstralia achos mae 'da fi hanner-chwaer sy'n byw yn Brisbane. Dyn ni erioed wedi cwrdd â'n gilydd, ond dyn ni wedi bod yn e-bostio ers cwpwl o flynyddoedd yn ôl.
  5. Ces i 'ngeni ger Los Angeles, California.
  6. Ces i fy magu yn Riverside, hefyd yn Ne California, ond dw i wedi bod yn byw yng Ngogledd California am tua 16 blynedd.
  7. Digon am y ffeithiau bob-dydd diflas. Ym...mae print gen i yn yr Amgueddfa Celfyddydau Metropolitan yn Efrog Newydd--rhan o set o brintiau gan nifer o artistiaid. Yn wir, dw i'n credu ei fod e'n rhywle yn y seler, yn y Casgliad Papur.
  8. Mae hi'n anodd i fi gofio geirfa yn Gymraeg...ond hefyd, weithiau mae hi'n anodd i fi gofio geirfa yn Saesneg, a dw i'n siwr fy mod i'n colli brain cells, neu mae tiwmor 'da fi neu rhywbeth.
  9. Fues i eriod yn sgio.
  10. Dw i'n gallu gweu, ond dw i'n araf iawn, does dim llawer o amser rhydd i'w wneud, a dw i ddim wedi gorffen unrhywbeth eto.
  11. Mae rafft awyr 'da ni, a dyn ni'n lico mynd lawr yr afon ychydig o weithiau bob haf, yn ymlacio a yfed cwrw. Mae afonydd eitha tawel yn yr ardal, yn berffaith i gael taith fach neis. (Croeso i ddod gyda ni! Jyst plis peidiwch â fy slapio ar yn pen ôl heb caniatad...)
  12. Y llyfr olaf y gorffennais i oedd Writing Down the Bones gan Natalie Goldberg--llyfr wych am ysgrifennu.
  13. Fues i eriod yn Pakistan, er mod i'n cael nifer o perthnasau yno. Mae tipyn bach o ofn arna i am deithio yno.
  14. Dw i'n casau'r lliw pinc, a lliwiau pastel yn gyffredinol.
  15. Pan o'n i'n ifanc, ro'n i eisiau cael neidr fel anifail anwes, ond dw i erioed wedi cael un, er mod i'n dal i'w hoffi nhw. Dw i'n meddwl eu bod nhw'n ciwt. Yn wir. (Ystlumod hefyd, ond dyn nhw ddim yn anifeiliaid anwes da...)
  16. Roedd ci bach Pomeranian 'da fi pan o'n i'n ifanc, ac ar hyn o bryd mae dwy gath 'da fi. Dw i'n "berson cathod," ond dw i ddim yn "wraig gathod gwallgof."
  17. Dw i wedi mynd i ddwsinau o gyngherddau roc--i fod yn onest dw i ddim yn siwr faint yn union. Y cyngerdd olaf a welais i oedd Chris Cornell. Cake bydd y cyngerdd nesaf.
  18. Hoffwn i ddysgu mwy am fandiau Cymraeg/Cymreig, ond mae hi'n anodd gwybod sut i ddechrau ffeindio bandiau dw i debyg i'w lico nhw.
  19. Dw i'n hoffi coginio yn fawr iawn--dw i'n gallu ymlacio, yfed gwydraid (neu dau, neu tri) o win, ac ar y diwedd, mae pryd o fwyd blasus i'w fwynhau.
  20. Dw i ddim yn hoffu dysgu fel athro. Dw i ddim yn gallu dysgu fel athro--ar ôl jyst ychydig bach o ddarlith yn nosbarth fy ngwr, dw i wedi ymladd. Dw i mor nerfus o flaen y dosbarth, dw i'n chwysu a chrynu. Mae'n od, ond dw i ddim mor nerfus pan dw i'n rhoi araith neu rhywbeth.
  21. Dw i wedi bod yn canu'r piano ers 4 oed, ond dw i ddim wedi bod yn ymarfer yn gyson ers wedi bod yn y prifysgol, felly dw i ddim yn dda iawn ar hyn o bryd. Ond, dysgais i "Hey Jude" yn ddiweddar.
  22. Hoffwn i ddysgu chwarae'r drymiau rhywbryd. Dw i wedi chwarae drymiau tipyn bach iawn iawn jyst ar ôl y prifysgol, pan gawson ni roommate gyda set o drymiau, ond dw i ddim yn gallu eu chwarae nhw yn wir.
  23. Os dw i'n yfed ychydig gormod o goffi, dw i'n mynd yn nerfus, a mae fy nghalon i'n rasio. Os dw i'n yfed ychydig gormod o alcohol, dw i'n mynd yn ddigalon, a dw i'n crio.
  24. Mae talent mawr 'da fi mewn anwybyddu llanastr yn y tŷ, ar yr amod nid bod pethau yn rili frwnt.
  25. Dw i'n hoffi gohirio. (Fel dych chi'n gallu gweld...)

Tuesday, February 03, 2009

Mis Chwefror Hapus

Ydy mis Chwefror yn hapus eto? Ddim yn siwr. Ar hyn o bryd, dw i'n ofni mod i wedi gwneud llanastr o'r ysgythriad dw i'n creu ar gyfer prosiect grwp printio. Mae 10 ohonom yn creu rhyw fath o brint--ysgythriad, print pren, ffoto, a.y.y.b.--a wedyn anfonwn ni ddau brint i bob un o'r eraill. Nesaf, byddwn ni'n newid y printiau 'ma i gyd yn ôl tri "rheolau" wedi'i dewis o rhestr a wnaethon ni yn barod: rheolau fel "ychwanegu elfen gwnio" neu rhywbeth. Ar y diwedd, bydd 10 print gwreiddiol a bydd bob un yn cael 9 amrywiadau: 100 o brintiau.

Ta beth, gwnes i nifer o gamgymeriadau yn y broses yn barod a dw i ddim yn siwr os bydd y plât copr yn ysgythru yn iawn. Mae hi'n amser eitha hir ers i fi wneud ysgythriad. Dw i wedi gwneud printiau pren yn y cyfamser, ac wrth gwrs dw i wedi bod yn ysgrifennu. Hoffwn i ddweud mod i wedi bod yn astudio Cymraeg, ond...nag ydw. Ond mae Bwrdd Cymdeithas Madog yn brysur iawn plannu'r cwrs eleni yn Edmonton, Alberta, a'r cwrs yn 2010 yng Nghaerdydd!

Sunday, January 11, 2009

Blwyddyn Newydd...Meh.

Blwyddyn newydd dda, bawb. Dw i'n dal i fod yn brysur uffernol, gyda'r gwaith a nifer o brosiectau eraill. Manylion yn dod yn hwyrach. Ond dw i'n obeithiol iawn am yr Arlywydd newydd; dyma rywbeth i'w edrych ymlaen ati yn y misoedd o'n blaen ni.

Friday, December 12, 2008

Mis Rhagfyr

Mae hi'n ddigon oer yma erbyn hyn, ond mae nifer o ddail yn aros ar y coed. Dyn ni'n bwriadu ffonio'r dyn rownd y cornel sy wedi cynnig i ni torri'r canghennau oddiar y coeden mwlberi--bydd hynny'n dda i'w wneud cyn i'r dail cwympo. Dw i ddim yn hoff iawn o racanu.

Yn ddiweddar, gorffennais i wneud pentwr o gardiau Nadolig (wedi cael eu phrintio yn y stiwdio newydd, wrth gwrs)--prynodd fy rhieni-yng-nghyfraith nifer fawr ohonyn nhw ar gyfer eu swyddfa gyfraith, a hefyd prynodd ffrindiau a teulu eraill ychydig ohonyn nhw. Dyna lun ar y dde--y cardiau cyn cael eu phlygu.

Nawr, mae hi'n hen bryd i ni meddwl am ein cardiau ein hunain. Wrth gwrs, nawr, dw i wedi blino!

Tuesday, November 25, 2008

Y Prif Broblem

Y problem yw, dw i wedi bod yn gweithio gormod. Dw i'n siwr ohoni. Hefyd mae 'da fi tuedd dweud wrth fy hun, paid â blogio cyn i ti orffen dy waith i gyd. Ac wrth gwrs fydda i byth yn gorffen fy ngwaith i gyd, achos dw i'n dda iawn gyda ffeindio mwy o waith.

Mae'n od, pan dw i'n meddwl amdani hi. Mae hi bron fel dw i'n gohirio gyda'r blogio...

Wel, byddaf yn well gyda'r blogio ar ôl hyn. Yn y cyfamser, mae cwestiwn 'da fi i chi: pam, yn ystod nifer o gêmau pêl-droed EPL, dw i'n clywed y torf yn canu rhywbeth i'r tiwn "Cwm Rhondda"? Wel, dw i'n gwybod pam yn union--mae torfeydd pêl-droed yn hoffi benthyg caneuon o unrhywle. Ond beth maen nhw'n canu i'r tiwn "Cwm Rhondda"? Unrhywun yn gwybod?

Tuesday, October 28, 2008

Croeso yn ôl i'r iaith Gymraeg

Mae fy ffrind i, Brenda, wedi dod yn ôl o Gymru, a cyn bo hir bydd cyfle i ni ymarfer dros y ffôn unwaith eto. Bydd hynny'n dda, achos dw i ddim wedi bod yn ymarfer llawer, er mod i wedi gwrando ar nifer o raglenni Pigion o'r BBC.

Dw i'n bwriadu blogio yn fwy aml hefyd, ond ar hyn o bryd dw i'n rhoi fy holl egni blogio i mewn i'r blog Cybils, lle dw i'n olygydd eleni. Fy swydd i ydy postio adolygiadau llyfrau wedi'i ysgrifennu gan y blogwyr sy'n beirniadu'r gwobrau. Hefyd dw i'n postio pethau eraill fel cyfweliadau a cysylltiadau. Mae hi'n ddiddorol iawn, ond mae hi'n cymryd digon o amser.

Dw i ddim yn astudio Sbaeneg y tro 'ma--fwynheuais i mo'r dosbarth, a doedd yn llyfr ddim yn dda iawn. Felly, gobeithio y bydd digon o amser i fynd yn ôl i'r Gymraeg...

Friday, October 17, 2008

Ochenaid.

Dw i ddim yn hapus iawn y dyddiau yma gyda'r gwaith--mae'n ymddangos bod neb eisiau fy nhalu am unrhywbeth. Mae hi'n anodd ddod o hyd i waith creadigol yn y dre 'ma. Mae'r economi'n ddiflas hefyd. Dw i'n gobeithio bod Obama yn ennill yr etholiad ond dw i'n ofni bod pobl yn yr UDA yn rhy rhagfarnllyd--yn gyfrinachol efallai--iddo fe ennill. Hoffwn i fynd rhywle arall ond dyw fy ngwr ddim eisiau gadael ei swydd dda. O wel. Rhywbryd efallai.

Monday, September 15, 2008

Dw i ddim yn hoffi bod yn sâl.

Dw i ddim wedi bod yn blogio llawer y dyddiau yma; dw i wedi bod yn sâl gyda rhyw annwyd neu haint yn y sinuses neu rhywbeth, a dw i wedi bod yn flinedig neu y brysur dros ben, yn dibynnu ar y dydd.

Newyddion gwych: cyhoeddwyd erthygl ardderchog am y Cwrs Cymraeg gan Emma Reese, ar y BBC. Llongyfarchiadau Emma! Roedd hi'n hyfryd cofio'r wythnos fendigedig 'na.

Mewn newyddion eraill: mae fy mam yn yr Eidal ar hyn o bryd, yn Florence yn dysgu (fel athrawes) tan ddiwedd mis Tachwedd. Basai hi'n hapus taswn i'n gallu ymweld â hi yno, ond mae tocynnau awyren yn ddrud iawn, iawn. Dyn ni'n arbed arian er mwyn teithio i Brydain yn 2009 ac efallai i Sbaen hefyd--mae Rob yn bwriadu cynnig am sabbatical. Cawn ni weld!!

Friday, August 29, 2008

Mae'n Anesgusodol!

Dw i ddim wedi blogio ers talwm. Prin mod i wedi bod yn blogio yn Saesneg chwaith. Ond, dw i wedi ail-gynllunio fy mlog Saesneg, dyna rhywbeth. Cymerais i gyfran oddiwrth un o fy mheintiadau i (wedi scanio i mewn wrth gwrs) a chwarae gyda fe yn Photoshop. Wedyn gwnes i deilio'r graffeg dros gefndir y dudalen. Dim yn ddrwg, dw i'n meddwl.

Hefyd dw i wedi darganfod Twitter, gwaetha'r modd. Dw i ddim wedi...ym...twitio?...yn y Gymraeg eto...am y tro. Cyn bo hir, dw i'n siwr.

Yn diweddar dw i wedi bod yn anobeithiol gyda darllen blogiau eraill. Dw i wedi bod yn eitha brysur, ond nid prysur dros ben. Ond bob tro dw i'n meddwl am ddal i fyny gyda'r blogiau dw i'n eu hoffi, mae hi'n teimlo fel tasg enfawr. Wrth gwrs, tra mod i'n cwyno am gael gormod o bostiau blog i'w ddarllen--tra mod i'n gohirio darllen blogiau achos mae gormod i wneud--dyma bentwr o bostiau newydd i ychwanegu at y broblem! Mewn gwirionedd mae rhaid i fi jyst bite the bullet a naill ai anwybyddu popeth sy'n hen a dechrau darllen eto ar ôl y pwynt hynny, neu ceisio darllen cymaint â phosib heb fynd yn ffôl. Ha!

Wednesday, August 06, 2008

Pethau Amrywiol

Wedi bod yn brysur gyda llawer o bethau--cwpwl o gyngherddau, digon o waith, mwy o ddrama gyda ffrindiau, ayyb. Ro'n i'n bwriadu postio mwy am y Cwrs Cymraeg, ond dw i ddim mewn tymer heddiw (ond mae rhaid i fi ddweud diolch i bawb a adawodd sylwadau diddorol yn sôn am gyrsiau Cymraeg). Dw i newydd orffen ysgrifennu post hir dros ben ar fy mlog Saesneg gyda meme ffilmiau. Hefyd, dw i wedi diweddaru fy ngwefan gyda mwy o enghreifftiau o waith cynllunio. Diddorol iawn...siwr o fod...ie.

Ta beth, dyma un peth newydd - dechreuais i ddosbarth "tai chi." (Tsieineeg oedd hynny, nid Cymraeg! Does dim "tai" gyda "chi", oes e??) Dw i'n cymryd y dosbarth gyda Rob a ffrind arall i ni, Jay. Dw i ddim yn siwr eto os bydda i'n dal ati. Byddaf yn mynd i'r dosbarth am fis efallai a wedyn yn penderfynu os dw i am aros. Mae'n ddiddorol, ychydig fel dawnsio ac ychydig fel martial arts eraill. Pan o'n i yn y prifysgol, cymerais i ddosbarth hapkido (enillais i dim ond belt melyn cyn stopio), a mae'n ddiddorol iawn gweld ymsymudiadau tebyg yn tai chi, ond yn araf...iawn...iawn.