Tuesday, February 02, 2010

Cyfle i Ysgrifennu yn Gymraeg

Dw i newydd dderbyn gwybodaeth am "Eisteddfod by Mail" yn cael ei chynnal gan Ninnau & Y Drych, papur newyddion Cymreig yn America. Mae hynny'n swnio'n ddiddorol iawn--cyfle da i adfywio fy sgiliau yn Gymraeg. Dw i angen yr ymarfer!

Mewn newyddion arall....does dim newyddion arall. Wel, dim byd o ddiddordeb. Wedi bod yn ygrifennu erthyglau, ac yn aros am fy nghyhoeddwyr cysylltu â fi ynglyn a fy nofel. Dim byd eto ar wahân i ffurflenni trethi...

Un peth arall--dw i wedi ail-gynllunio fy mlog yn Saesneg. Dw i'n falch iawn ohono fe! Ond dim digon o amser i flogio yno yn ddiweddar. Dw i'n "golygydd blog" ar gyfer y gwobrau Cybils eleni, felly dw i'n postio fan'na yn fwy aml.

Saturday, January 16, 2010

Dim Byd yn Arbennig

Beth dw i wedi bod yn gwneud? Ymm...wel, gad i ni weld:

Ysgrifennu erthyglau fel yr hyn. Gweithio ar nofel arall. Aros am fy nghwmni cyhoeddi cysylltu â fi am fy nofel sy'n cael ei chyhoeddi eleni...medden nhw. Peidio ag astudio Cymraeg. (Mae'n amlwg, on'd ydy?) Ychydig o chwarae gemau fideo. Coginio yn y ty yn aml--ar ôl ein taith fawr dyn ni heb llawer o arian sbâr. Coginio llawer o bara. Gwella ar ôl gormod o ymweliadau i'r teulu dros y gwyliau. Llwytho i fyny pentwr o ffotos o'r daith i'r Eidal a Sbaen.

Beth amdanoch chi? Beth dych chi wedi bod yn gwneud dros yr Ionawr yma?

Monday, January 04, 2010

Blwyddyn Newydd Arall...

Blwyddyn newydd dda...i bob un o'r tri person sy'n darllen hynny ar ôl fy absenoldeb hir. Prin mod i'n gallu credu y methais i bostio ers mis Tachwedd! Dw i wedi bod yn flinedig iawn ar ôl teithio--ac yn sôn am hynny, dyna ein lluniau ni o'r Eidal. Dw i'n dal i sortio drwy'r lluniau o Sbaen.

Eleni, dw i'n gobeithio blogio mwy yn y Gymraeg unwaith eto--dw i ddim eisiau anghofio pethau, yn arbennig os fydda i ddim yn gallu mynd i'r Cwrs eto. Ar ôl teithio dros mis (ac yn gwario Euros!) dyn ni ychydig yn dlawd, a dw i ddim yn siwr os bydd digon o arian 'da ni i fynd i Gymru yn yr haf. Dw i'n gallu gobeithio, ond, â dweud y gwir...dyw hi ddim yn debyg. OCHENAID.

Monday, November 09, 2009

Ceisio Peidio ag Anghofio'r Gymraeg...

Real Alcazar, SevilleMae hi'n ychydig yn drist dweud mod i ddim wedi bod yn ymarfer llawer o Gymraeg y dyddiau yma, gan ein bod ni yn Sbaen, ond dyw fy Sbaeneg ddim yn gwella yn gyflym iawn chwaith. Gobeithio y byddaf yn gallu cofio Saesneg o leiaf pan dyn ni yn ôl yn yr Unol Daleithiau!

Ta beth, dyma un o fy ffotos o Sevilla--mae mwy o ffotos ar fy safle Flickr a hanesydd diddorol ar fy mlog yn Saesneg a blog fy ngwr i. Dw i'n gobeithio mynd yn ôl i flogio yn y Gymraeg yn gyson cyn bo hir. Dyn ni'n dychwelyd adre ddydd Mercher, felly ar ôl hynny efallai...

Thursday, October 29, 2009

Y Glaw yn Sbaen...

A dweud y gwir, dyw hi ddim wedi bod yn bwrw glaw. Ond mae Sbaen yn wych hyd yn hyn, a cawson ni amser da yn Barcelona. Yfory dyn ni'n gadael ar y tren nos i Seville am nifer o ddyddiau. I weld lluniau, cliciwch yma!

Sunday, October 18, 2009

Salve--ym, Cyfarchion.

Dw i yn yr Eidal! Dim ond pasio hyd i ddweud helo, dyma fi, a ciao am y tro, ond gweler blog fy ngwr am fwy o'r diweddaraf a lluniau o'r Rhufain.

Tuesday, August 11, 2009

Y Diweddaraf

Ie, dyma fi ar ôl mwy na dau fis. Uffern. Wel, gwell hwyr na hwyrach, yntefe? Wrth gwrs. Dw i wedi bod yn eitha prysur gyda'r gwaith a'r ysgrifennu--gorffennais i ail-olygu fy nofel i bobl ifanc, ac anfonais i'r peth i gyd yn ôl i'r golygydd. Mae e wedi derbyn y llawysgrif, a dywedodd e ei fod yn gallu ei darllen yr wythnos nesaf mae'n debyg. Felly, dw i'n aros yn awyddus.

Hefyd, dyn ni wedi bod yn paratoi ar gyfer ein taith fawr ni yn yr hydref. Mae fy ngwr i'n cael sabbatical y flwyddyn yma (hydref 2009 a gwanwyn 2010), a peth da yw sabbatical i athro celf. Rhan o'r cynllun yw mynd i'r Eidal a Sbaen, am fis. Yn gyntaf, byddwn ni yn yr Eidal: Rome (gyda teithiau bach i Naples, Pompeii, a Herculaneum), wedyn Venice (gyda taith fach i Padua). Yr ail hanner o'r daith, byddwn ni yn Sbaen: Barcelona, wedyn Sevilla/Cordova/Granada, ac i orffen, Madrid. Dw i'n ceisio astudio mwy o Sbaeneg cyn hynny. Mae'r podcasts "Notes in Spanish" yn dda iawn (diolch i Zoe), a dw i'n edrych dros fy neunyddiau o'r dosbarth Sbaeneg a cymerais i flwyddyn yn ôl. Hefyd, mae meddalwedd Rosetta Stone 'da fi, a mae nifer o ymarferion defnyddiol ynddi.

Wel, mae hi bron unarddeg o'r gloch a dw i wedi blino ar ôl treulio gormod o amser ar y cyfrifiadur heddiw. Felly, nos da a hwyl am y tro.

Friday, May 29, 2009

Newyddion Da

Dim ond stopio i mewn i ddweud bod pethau yn brysur dros ben--wrth gwrs, yr hen esgus!--ond dw i'n bwriadu dal ati gyda'r blogio yn y Gymraeg. Dw i'n addo! Dw i wedi bod yn: dysgu Sbaeneg, plannu Cwrs Cymraeg yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf, ysgrifennu erthyglau, amcanu logos, a--heddiw--siarad wrth golygydd mewn ty cyhoeddi.

Ie, mae'n wir--mae diddordeb gyda rhywun yn fy nofel i bobl ifanc! Dw i'n llawn cyffro, wrth gwrs, ond mae digon o lafur i ddod. Mae'r golygydd eisiau i fi wneud nifer o newidiadau, ond dw i'n teimlo'n lwcws, achos dyw'r newidiadau ddim yn swnio yn od neu yn rhy anodd.

Ta beth, bydda i yn ôl cyn bo hir.

O.N. Does dim contract eto. Ond, efallai, ar ôl gwneud y newidiadau...

Tuesday, April 07, 2009

Yma o Hyd

Jyst pasio heibio i ddweud, fues i ddim farw! Jyst wedi bod yn brysur dros ben, fel arfer, gyda gwaith, bod yn drust (dw i'n drust bob hyn a hyn), astudio Sbaeneg, ac ati.

Ond dw i yma. Ysgrifenna i fwy yn fuan.

Saturday, March 07, 2009

Audioblogio; Ieithoedd

Wel, heddiw edrychais ar feddalwedd Windows Movie Maker, sydd ar fy ngliniadur newydd. Mae webcam a mic ar y gliniadur hefyd, a gwnes i arbrawf gyda phopeth. Dw i wedi bod yn meddwl am wneud postiau fideo fel a wnaeth Chris Cope yn y gorffennol. Basai'n ffordd dda, dw i'n credu, i fi ymarfer siarad heb yn rili siarad gyda phobl. Anghymdeithasol ydw i, wrth gwrs. :) Ond, ar ôl trio pethau, dw i'n sylweddoli pa mor anodd yw hi siarad o flaen y camera. Dw i ddim yn siwr ble i edrych--ar y webcam, wrth gwrs, ond mae'n fwy naturiol edrych ar fy hun ar y sgrin, achos mae'n naturiol edrych ar wynebau sy o'ch blaen chi pan dych chi'n siarad, on'd ydy? Hefyd dw i'n obsessed gyda'r posibilrwydd mod i'n gwneud golygon rhyfedd, neu swnio'n squeaky, ac yn y blaen. Felly caiff yr hyn ychydig o ymarfer ei hun...

Bydd yn bwysig i fi ymarfer fy Nghymraeg, beth bynnag, achos bydd rhaid i fi gwella fy Sbaeneg cyn yr hydref. Mae Rob wedi cael sabbatical dros y flwyddyn ysgol 2009-2010, a dyn ni'n bwriadu teithio am fis neu mwy yn yr Eidal a De Sbaen. Wrth gwrs bydd rhaid i fi adolygu y swm bach o Eidaleg a ddysgais i yn 2007, hefyd. Mae 'da fi feddalwedd Rosetta Stone yn rhad ac am ddim (peidiwch gofyn sut!! cyfrinach yw hi) a byddaf yn chwarae gyda hynny yn y misoedd dyfodol. A dw i'n credu bod gwersi Cymraeg ynddi hi hefyd, ond dw i ddim yn siwr os basen nhw'n rhy hawdd erbyn hyn...

NB (Nodyn Bach): Dych chi'n gallu cofrestru am y Cwrs Cymraeg bellach--a dych chi'n gallu talu eich deposit ar-lein!

Tuesday, February 10, 2009

25 Peth Amdana I

Dw i wedi penderfynu ysgrifennu'r meme hwn yn Gymraeg, achos dw i angen yr ymarfer. Efallai bydd hi'n cymryd dyddiau i'w gorffen, ond dw i'n benderfynol beth bynnag. Felly, dyma 25 peth amdana i--a dw i ddim jyst yn cyfieithu o fy rhestr yn Saesneg ar Facebook, dw i'n addo.

  1. Cymerais i fy nghwrs Cymraeg cyntaf pan o'n i'n fyfyrwraig yn UC Berkeley yn 1996.
  2. Dw i wedi teithio i Gymru 4 gwaith: yn 1983 (pan o'n i'n blentyn), 1990, 1996, a 2000. Mae hi'n hen bryd i fi fynd eto! (Yn 2010 yn bendant byddwn ni'n mynd.)
  3. Dw i'n hoff iawn o deithio a dw i wedi ymweld â Tseina, Siapan, Ffrainc, yr Eidal, Yr Alban (wel, dim ond Caeredin), Cymru, Lloegr, yr Almaen, Luxembourg, Canada, Mexico, a nifer o daleithiau yn yr UDA.
  4. Hoffwn i ymweld â Awstralia achos mae 'da fi hanner-chwaer sy'n byw yn Brisbane. Dyn ni erioed wedi cwrdd â'n gilydd, ond dyn ni wedi bod yn e-bostio ers cwpwl o flynyddoedd yn ôl.
  5. Ces i 'ngeni ger Los Angeles, California.
  6. Ces i fy magu yn Riverside, hefyd yn Ne California, ond dw i wedi bod yn byw yng Ngogledd California am tua 16 blynedd.
  7. Digon am y ffeithiau bob-dydd diflas. Ym...mae print gen i yn yr Amgueddfa Celfyddydau Metropolitan yn Efrog Newydd--rhan o set o brintiau gan nifer o artistiaid. Yn wir, dw i'n credu ei fod e'n rhywle yn y seler, yn y Casgliad Papur.
  8. Mae hi'n anodd i fi gofio geirfa yn Gymraeg...ond hefyd, weithiau mae hi'n anodd i fi gofio geirfa yn Saesneg, a dw i'n siwr fy mod i'n colli brain cells, neu mae tiwmor 'da fi neu rhywbeth.
  9. Fues i eriod yn sgio.
  10. Dw i'n gallu gweu, ond dw i'n araf iawn, does dim llawer o amser rhydd i'w wneud, a dw i ddim wedi gorffen unrhywbeth eto.
  11. Mae rafft awyr 'da ni, a dyn ni'n lico mynd lawr yr afon ychydig o weithiau bob haf, yn ymlacio a yfed cwrw. Mae afonydd eitha tawel yn yr ardal, yn berffaith i gael taith fach neis. (Croeso i ddod gyda ni! Jyst plis peidiwch â fy slapio ar yn pen ôl heb caniatad...)
  12. Y llyfr olaf y gorffennais i oedd Writing Down the Bones gan Natalie Goldberg--llyfr wych am ysgrifennu.
  13. Fues i eriod yn Pakistan, er mod i'n cael nifer o perthnasau yno. Mae tipyn bach o ofn arna i am deithio yno.
  14. Dw i'n casau'r lliw pinc, a lliwiau pastel yn gyffredinol.
  15. Pan o'n i'n ifanc, ro'n i eisiau cael neidr fel anifail anwes, ond dw i erioed wedi cael un, er mod i'n dal i'w hoffi nhw. Dw i'n meddwl eu bod nhw'n ciwt. Yn wir. (Ystlumod hefyd, ond dyn nhw ddim yn anifeiliaid anwes da...)
  16. Roedd ci bach Pomeranian 'da fi pan o'n i'n ifanc, ac ar hyn o bryd mae dwy gath 'da fi. Dw i'n "berson cathod," ond dw i ddim yn "wraig gathod gwallgof."
  17. Dw i wedi mynd i ddwsinau o gyngherddau roc--i fod yn onest dw i ddim yn siwr faint yn union. Y cyngerdd olaf a welais i oedd Chris Cornell. Cake bydd y cyngerdd nesaf.
  18. Hoffwn i ddysgu mwy am fandiau Cymraeg/Cymreig, ond mae hi'n anodd gwybod sut i ddechrau ffeindio bandiau dw i debyg i'w lico nhw.
  19. Dw i'n hoffi coginio yn fawr iawn--dw i'n gallu ymlacio, yfed gwydraid (neu dau, neu tri) o win, ac ar y diwedd, mae pryd o fwyd blasus i'w fwynhau.
  20. Dw i ddim yn hoffu dysgu fel athro. Dw i ddim yn gallu dysgu fel athro--ar ôl jyst ychydig bach o ddarlith yn nosbarth fy ngwr, dw i wedi ymladd. Dw i mor nerfus o flaen y dosbarth, dw i'n chwysu a chrynu. Mae'n od, ond dw i ddim mor nerfus pan dw i'n rhoi araith neu rhywbeth.
  21. Dw i wedi bod yn canu'r piano ers 4 oed, ond dw i ddim wedi bod yn ymarfer yn gyson ers wedi bod yn y prifysgol, felly dw i ddim yn dda iawn ar hyn o bryd. Ond, dysgais i "Hey Jude" yn ddiweddar.
  22. Hoffwn i ddysgu chwarae'r drymiau rhywbryd. Dw i wedi chwarae drymiau tipyn bach iawn iawn jyst ar ôl y prifysgol, pan gawson ni roommate gyda set o drymiau, ond dw i ddim yn gallu eu chwarae nhw yn wir.
  23. Os dw i'n yfed ychydig gormod o goffi, dw i'n mynd yn nerfus, a mae fy nghalon i'n rasio. Os dw i'n yfed ychydig gormod o alcohol, dw i'n mynd yn ddigalon, a dw i'n crio.
  24. Mae talent mawr 'da fi mewn anwybyddu llanastr yn y tŷ, ar yr amod nid bod pethau yn rili frwnt.
  25. Dw i'n hoffi gohirio. (Fel dych chi'n gallu gweld...)

Tuesday, February 03, 2009

Mis Chwefror Hapus

Ydy mis Chwefror yn hapus eto? Ddim yn siwr. Ar hyn o bryd, dw i'n ofni mod i wedi gwneud llanastr o'r ysgythriad dw i'n creu ar gyfer prosiect grwp printio. Mae 10 ohonom yn creu rhyw fath o brint--ysgythriad, print pren, ffoto, a.y.y.b.--a wedyn anfonwn ni ddau brint i bob un o'r eraill. Nesaf, byddwn ni'n newid y printiau 'ma i gyd yn ôl tri "rheolau" wedi'i dewis o rhestr a wnaethon ni yn barod: rheolau fel "ychwanegu elfen gwnio" neu rhywbeth. Ar y diwedd, bydd 10 print gwreiddiol a bydd bob un yn cael 9 amrywiadau: 100 o brintiau.

Ta beth, gwnes i nifer o gamgymeriadau yn y broses yn barod a dw i ddim yn siwr os bydd y plât copr yn ysgythru yn iawn. Mae hi'n amser eitha hir ers i fi wneud ysgythriad. Dw i wedi gwneud printiau pren yn y cyfamser, ac wrth gwrs dw i wedi bod yn ysgrifennu. Hoffwn i ddweud mod i wedi bod yn astudio Cymraeg, ond...nag ydw. Ond mae Bwrdd Cymdeithas Madog yn brysur iawn plannu'r cwrs eleni yn Edmonton, Alberta, a'r cwrs yn 2010 yng Nghaerdydd!

Sunday, January 11, 2009

Blwyddyn Newydd...Meh.

Blwyddyn newydd dda, bawb. Dw i'n dal i fod yn brysur uffernol, gyda'r gwaith a nifer o brosiectau eraill. Manylion yn dod yn hwyrach. Ond dw i'n obeithiol iawn am yr Arlywydd newydd; dyma rywbeth i'w edrych ymlaen ati yn y misoedd o'n blaen ni.

Friday, December 12, 2008

Mis Rhagfyr

Mae hi'n ddigon oer yma erbyn hyn, ond mae nifer o ddail yn aros ar y coed. Dyn ni'n bwriadu ffonio'r dyn rownd y cornel sy wedi cynnig i ni torri'r canghennau oddiar y coeden mwlberi--bydd hynny'n dda i'w wneud cyn i'r dail cwympo. Dw i ddim yn hoff iawn o racanu.

Yn ddiweddar, gorffennais i wneud pentwr o gardiau Nadolig (wedi cael eu phrintio yn y stiwdio newydd, wrth gwrs)--prynodd fy rhieni-yng-nghyfraith nifer fawr ohonyn nhw ar gyfer eu swyddfa gyfraith, a hefyd prynodd ffrindiau a teulu eraill ychydig ohonyn nhw. Dyna lun ar y dde--y cardiau cyn cael eu phlygu.

Nawr, mae hi'n hen bryd i ni meddwl am ein cardiau ein hunain. Wrth gwrs, nawr, dw i wedi blino!

Tuesday, November 25, 2008

Y Prif Broblem

Y problem yw, dw i wedi bod yn gweithio gormod. Dw i'n siwr ohoni. Hefyd mae 'da fi tuedd dweud wrth fy hun, paid â blogio cyn i ti orffen dy waith i gyd. Ac wrth gwrs fydda i byth yn gorffen fy ngwaith i gyd, achos dw i'n dda iawn gyda ffeindio mwy o waith.

Mae'n od, pan dw i'n meddwl amdani hi. Mae hi bron fel dw i'n gohirio gyda'r blogio...

Wel, byddaf yn well gyda'r blogio ar ôl hyn. Yn y cyfamser, mae cwestiwn 'da fi i chi: pam, yn ystod nifer o gêmau pêl-droed EPL, dw i'n clywed y torf yn canu rhywbeth i'r tiwn "Cwm Rhondda"? Wel, dw i'n gwybod pam yn union--mae torfeydd pêl-droed yn hoffi benthyg caneuon o unrhywle. Ond beth maen nhw'n canu i'r tiwn "Cwm Rhondda"? Unrhywun yn gwybod?

Tuesday, October 28, 2008

Croeso yn ôl i'r iaith Gymraeg

Mae fy ffrind i, Brenda, wedi dod yn ôl o Gymru, a cyn bo hir bydd cyfle i ni ymarfer dros y ffôn unwaith eto. Bydd hynny'n dda, achos dw i ddim wedi bod yn ymarfer llawer, er mod i wedi gwrando ar nifer o raglenni Pigion o'r BBC.

Dw i'n bwriadu blogio yn fwy aml hefyd, ond ar hyn o bryd dw i'n rhoi fy holl egni blogio i mewn i'r blog Cybils, lle dw i'n olygydd eleni. Fy swydd i ydy postio adolygiadau llyfrau wedi'i ysgrifennu gan y blogwyr sy'n beirniadu'r gwobrau. Hefyd dw i'n postio pethau eraill fel cyfweliadau a cysylltiadau. Mae hi'n ddiddorol iawn, ond mae hi'n cymryd digon o amser.

Dw i ddim yn astudio Sbaeneg y tro 'ma--fwynheuais i mo'r dosbarth, a doedd yn llyfr ddim yn dda iawn. Felly, gobeithio y bydd digon o amser i fynd yn ôl i'r Gymraeg...

Friday, October 17, 2008

Ochenaid.

Dw i ddim yn hapus iawn y dyddiau yma gyda'r gwaith--mae'n ymddangos bod neb eisiau fy nhalu am unrhywbeth. Mae hi'n anodd ddod o hyd i waith creadigol yn y dre 'ma. Mae'r economi'n ddiflas hefyd. Dw i'n gobeithio bod Obama yn ennill yr etholiad ond dw i'n ofni bod pobl yn yr UDA yn rhy rhagfarnllyd--yn gyfrinachol efallai--iddo fe ennill. Hoffwn i fynd rhywle arall ond dyw fy ngwr ddim eisiau gadael ei swydd dda. O wel. Rhywbryd efallai.

Monday, September 15, 2008

Dw i ddim yn hoffi bod yn sâl.

Dw i ddim wedi bod yn blogio llawer y dyddiau yma; dw i wedi bod yn sâl gyda rhyw annwyd neu haint yn y sinuses neu rhywbeth, a dw i wedi bod yn flinedig neu y brysur dros ben, yn dibynnu ar y dydd.

Newyddion gwych: cyhoeddwyd erthygl ardderchog am y Cwrs Cymraeg gan Emma Reese, ar y BBC. Llongyfarchiadau Emma! Roedd hi'n hyfryd cofio'r wythnos fendigedig 'na.

Mewn newyddion eraill: mae fy mam yn yr Eidal ar hyn o bryd, yn Florence yn dysgu (fel athrawes) tan ddiwedd mis Tachwedd. Basai hi'n hapus taswn i'n gallu ymweld â hi yno, ond mae tocynnau awyren yn ddrud iawn, iawn. Dyn ni'n arbed arian er mwyn teithio i Brydain yn 2009 ac efallai i Sbaen hefyd--mae Rob yn bwriadu cynnig am sabbatical. Cawn ni weld!!

Friday, August 29, 2008

Mae'n Anesgusodol!

Dw i ddim wedi blogio ers talwm. Prin mod i wedi bod yn blogio yn Saesneg chwaith. Ond, dw i wedi ail-gynllunio fy mlog Saesneg, dyna rhywbeth. Cymerais i gyfran oddiwrth un o fy mheintiadau i (wedi scanio i mewn wrth gwrs) a chwarae gyda fe yn Photoshop. Wedyn gwnes i deilio'r graffeg dros gefndir y dudalen. Dim yn ddrwg, dw i'n meddwl.

Hefyd dw i wedi darganfod Twitter, gwaetha'r modd. Dw i ddim wedi...ym...twitio?...yn y Gymraeg eto...am y tro. Cyn bo hir, dw i'n siwr.

Yn diweddar dw i wedi bod yn anobeithiol gyda darllen blogiau eraill. Dw i wedi bod yn eitha brysur, ond nid prysur dros ben. Ond bob tro dw i'n meddwl am ddal i fyny gyda'r blogiau dw i'n eu hoffi, mae hi'n teimlo fel tasg enfawr. Wrth gwrs, tra mod i'n cwyno am gael gormod o bostiau blog i'w ddarllen--tra mod i'n gohirio darllen blogiau achos mae gormod i wneud--dyma bentwr o bostiau newydd i ychwanegu at y broblem! Mewn gwirionedd mae rhaid i fi jyst bite the bullet a naill ai anwybyddu popeth sy'n hen a dechrau darllen eto ar ôl y pwynt hynny, neu ceisio darllen cymaint â phosib heb fynd yn ffôl. Ha!

Wednesday, August 06, 2008

Pethau Amrywiol

Wedi bod yn brysur gyda llawer o bethau--cwpwl o gyngherddau, digon o waith, mwy o ddrama gyda ffrindiau, ayyb. Ro'n i'n bwriadu postio mwy am y Cwrs Cymraeg, ond dw i ddim mewn tymer heddiw (ond mae rhaid i fi ddweud diolch i bawb a adawodd sylwadau diddorol yn sôn am gyrsiau Cymraeg). Dw i newydd orffen ysgrifennu post hir dros ben ar fy mlog Saesneg gyda meme ffilmiau. Hefyd, dw i wedi diweddaru fy ngwefan gyda mwy o enghreifftiau o waith cynllunio. Diddorol iawn...siwr o fod...ie.

Ta beth, dyma un peth newydd - dechreuais i ddosbarth "tai chi." (Tsieineeg oedd hynny, nid Cymraeg! Does dim "tai" gyda "chi", oes e??) Dw i'n cymryd y dosbarth gyda Rob a ffrind arall i ni, Jay. Dw i ddim yn siwr eto os bydda i'n dal ati. Byddaf yn mynd i'r dosbarth am fis efallai a wedyn yn penderfynu os dw i am aros. Mae'n ddiddorol, ychydig fel dawnsio ac ychydig fel martial arts eraill. Pan o'n i yn y prifysgol, cymerais i ddosbarth hapkido (enillais i dim ond belt melyn cyn stopio), a mae'n ddiddorol iawn gweld ymsymudiadau tebyg yn tai chi, ond yn araf...iawn...iawn.

Thursday, July 24, 2008

Cofion y Cwrs, Rhan 2

Dw i wedi bod yn mwynhau postiau blog Emma Reese am ei phrofiadau hi ar y Cwrs Cymraeg yn Iowa. Mae llun eitha neis ohonon ni o'r ail ddiwrnod. Mae nifer o luniau 'da fi hefyd ar fy ngwefan Flickr--os wyt ti wedi cael dy farcio fel "ffrind," byddi di'n gallu gweld yr holl gasgliad. (Dw i ddim yn hoffi marcio lluniau gyda phobl ynddynt "cyhoeddus" heb caniatad.)

Ta beth, roedd yr wythnos yn llawn dop o brofiadau cofiadwy. Un o fy hoff rannau o'r Cwrs ydy'r cyfle i sgwrsio gyda myfyrwyr eraill--a thiwtoriaid--allan o'r dosbarth, yn ystod gweithgareddau'r noswaith (fel y twmpath dawns neu'r noson gwis) neu yn y dafarn dros peint neu ddau (neu tri...neu pedwar...). Â dweud y gwir, mae rhai o'r Cyrsiau fel "week-long bender" gyda dosbarthiadau drwy'r dydd a digon o gwrw gyda'r nos.

Mae'n ddiddorol gwylio pobl yn gwylio ni yn canu nerth ein pennau yn y Gymraeg. Er na fod hynny'n digwydd bob amser, bob hyn a hyn dyw hi ddim yn anarferol i'n grwp ni ganu caneuon Cymreig traddodiadol fel "Yma o Hyd" neu "Calon Lân" ynghanol rhyw dafarn ddi-feddwl-ddrwg yn Nghanol America.

Dw i'n cofio y tro cyntaf y roeddwn i ar y Cwrs, ym 1999 yn Nhoronto, Canada. Bron bob nos, roedd grwp eitha mawr yn y dafarn ar y campws yn yfed cwrw ac yn canu tipyn bach. Roedd cyfle i fi ymlacio digon i ddefnyddio fy Nghymraeg! Ond hefyd, y tro 'na des i i nabod y tiwtoriad hefyd--Heini Gruffudd oedd fy athro y flwyddyn 'na, a hefyd roedd Mark Stonelake, Steve Morris, ac Emyr Davies yno. Erbyn diwedd yr wythnos, teimlais i fel bod pob un ohonynt, ond yn enwedig Mark a Steve, yn ffrindiau go iawn. Dyna pam mae'r Cwrs yn ddigwyddiad mor arbennig bob blwyddyn--y ffrindiau dw i'n eu gweld dim ond unwaith y flwyddyn neu bob yn ail flwyddyn. Wrth gwrs, petaswn i'n cael y cyfle i'w gweld nhw'n fwy aml, baswn i'n hapus hefyd...efallai bydd taith i Gymru yn y dyfodol os dw i'n gallu ei fforddio hi.

Tuesday, July 22, 2008

Yn ôl o'r Cwrs Cymraeg

Me with the tutors from Wales

Des i'n ôl o'r Cwrs Cymraeg yn Iowa nos Sul (yn hwyr iawn, yn anffodus) ar ôl dysgu cymaint a gwella fy Nghymraeg mewn dosbarth arbennig o dda gyda Geraint Wilson-Price (ar y dde yn y ffoto). Hefyd, cwrddais i â Emma Reese, blogwraig arall oedd yn fy nosbarth i hefyd.

Ces i lawer o hwyl dros yr wythnos, fel arfer. Fel arfer eto, roedd treulio amser gyda ffrindiau, yn enwedig y tiwtoriaid mod i'n ffrindiau gyda nhw fel Mark a Chris, yn brofiad arbennig. Roedd digon o gyfle i fi ymarfer siarad, a ceisias i'n galed siarad Cymraeg cymaint â phosib. Mae un problem mawr yr ydw i wedi darganfod, sef mae hi'n bron amhosib i fi ddweud beth dw i eisiau ei ddweud A siarad gyda acen ddigon da ar yr un pryd. Ydy hwn yn broblem cyffredin gyda dysgwyr tybed?

Beth bynnag, roedd y dosbarth yn ardderchog. Roedd gyda Geraint ddawn am wybod pa bwyntiau basai'n achosi trafferth i ddysgwyr eitha uchel, a roedd llawer o amser i ymarfer sgwrsio yn y dosbarth. Uchafbwynt arall - ces i CDs gan Sibrydion, Big Leaves, a Clwb Cymru oddiwrth ffrind i fi. Gwych!

Ysgrifenna i fwy nes ymlaen...

Tuesday, July 01, 2008

Gweithio, gweithio, gweithio...

Mae popeth yn brysur fel arfer. Dim amser i flogio. A pan dw i'n ymlacio dw i'n bant drwy'r dydd hefyd, mae'n ymddangos--dydd Sul fe aethon ni gyda cwpwl o ffrindiau i rafftio i lawr yr afon Americanaidd yn Sacramento (rhyw awr a hanner i ffwrdd). Dim white water rafting oedd hi, jyst arnofio i lawr yr afon mewn rafft gyda llawer o gwrw. Gwelon ni lawer o adar a cwpwl o dwrgwn hefyd, yn chwarae yn y dwr ar lan yr afon. Yfais i tipyn gormod; roedd y tywydd yn braf ond eitha twym.

Mae un o'r ffrindiau oedd gyda ni, dyn o'r enw Mike, ynghanol tipyn o "argyfwng canol oed" os mae hynny'n gwneud synnwyr. Mae e'n ffansio ffrind arall ni oedd yn y rafft, merch o'r enw Jay sy'n priodi a ffrind ohono fe. Mae Mike yn priodi hefyd, ond mae e a'i wraig yn meddwl o'i hunain fel swingers. Y problem yw, does neb yn ein grwp ni'n cael unrhyw diddordeb mewn gwneud hynny gyda nhw.

Ta beth, tan bellach doedd e ddim yn dangos unrhyw diddordeb mewn fi (diolch byth), ond dydd Sul ar y rafft penderfynodd e fy slapio i ar y pen ol. Do'n i ddim yn hollol cyfforddus gyda hynny...

Wednesday, June 04, 2008

Pen-blwydd Priodas Hapus i Fi!

Ein seithfed pen-blwydd priodas ydy heddiw. Yn ffodus, does dim "seven-year itch" oherwydd ein bod ni gyda'n gilydd bron 12 mlynedd (!!). Mae Rob wedi cynllunio rhyw fath o waithgaredd sy'n syndod am y noson. Gwraig ofnadwy ydw i--cynlluniais i dim byd.

Mae angen mawr arnaf astudio yn galed iawn cyn y Cwrs Cymraeg--dw i ddim wedi bod yn astudio o gwbl ar wahân i ddarllen blog neu ddwy. Wel, dw i wedi bod yn gwylio'r gyfres deledu "Torchwood," sy'n cael digon o bobl Gymreig...y nifer mwyaf o acennau Cymraeg dw i erioed wedi gweld ar sianel deledu Americanaidd.

Friday, May 09, 2008

Pigion y Ddysgwraig Ddiog

Dw i newydd orffen gwrando ar y rhaglen BBC Pigion am y tro cyntaf a mwynheuais i hi yn fawr iawn. Yn arbennig, hoffais yr oedd amrywiaeth o acennau o ledled Cymru. Ymarfer da i fi--dw i ddim wedi cael cyfle i wrando ar Radio Cymru neu unrhywbeth yn ddiweddar, felly mae'n ychydig o her i fi ddeall.

Ond, mae rhaid i fi ddechrau ymarfer fy Nghymraeg, gan mod i ddim mewn dosbarth Sbaeneg ar hyn o bryd. Daw y Cwrs Cymraeg Cymdeithas Madog mewn dwy fis byr. Fel arfer, y tair blynedd diwetha, ro'n i yn y dosbarth uchaf, ond bob blwyddyn dw i'n siwr mod i wedi anghofio popeth a bydd rhaid i fi mynd i lawr i'r lefel nesaf is (next lowest level - ydy hynny'n gywir?). Ond efallai, os dw i'n gwneud yr ymarferion ar-lein ac ati, teimla i'n ddigon cyffyrddus i aros yn lefel saith...

Saturday, April 19, 2008

Prysur Dros Ben

Ydw, dw i yma o hyd, heh heh. Dw i'n siwr mod i wedi dweud yr hyn o'r blaen, ond dw i wedi bod yn anobeithiol o brysur. Am rhyw rheswm, mae rhyw saith prosiect bod angen i fi eu gwneud cyn dydd Mawrth. Sut yn y byd ddigwyddodd hynny?? Pam mae'r 22 o Ebrill yn "D-Day" i fi? Traethodau i'w marcio, rhaglen i'r ddrama nesaf i'w cynllunio, prawf terfynol yn nosbarth Sbaeneg...a'r wythnos 'ma dw i wedi bod yn sâl gyda annwyd, felly do'n i ddim yn gynhyrchiol iawn cyn hyn.

Mae'n flin 'da fi bod yr hyn ddim yn ddiddorol iawn--rhestr o pethau i'w wneud ydy e, 'tefe. Mwy o ddiddordeb yn y dyfodol agos, dw i'n addo.

Friday, March 28, 2008

Cysylltiad Cyflym

Dw i jyst yn rhedeg heibio'r blog gyda cysylltiad o'r cylchlythyr BBC--maen nhw wedi lawnsio safle o'r enw Pigion. Mae Pigion yn postio podlediadau wythnosol gyda uchafbwyntiau Radio Cymru o'r wythnos ddiwetha, wedi'i chyflwyno yn syml ar gyfer ddysgwyr, yn arbennig.

Dw i'n edrych ymlaen at gwrando â nhw--pan fydd amser rhydd 'da fi. Ar hyn o bryd dw i'n dal i ddysgu Sbaeneg--a dw i ddim yn gwneud hynny yn dda iawn chwaith!

Monday, March 10, 2008

Ochenaid...

Does dim byd yn ddiddorol yn digwydd fan' ma, yn anffodus. Dw i'n cwympo'n ôl gyda'r gwaith cartref Sbaeneg--er bod dim byd yn ddiddorol yn digwydd, mae llawer yn digwydd. Pethau bychain, blin, fel gwneud ein trethi (dyn ni'n cael arian yn ôl o'r llwyodraeth ffederal--hwre!--ond mae dyled 9 doler arnon ni i'r dalaith--bww!). Mae'r gwaith yn poeni Rob ar hyn o bryd. Â dweud y gwir, mae fy ngwaith i yn boenus hefyd: derbynais i "lythyr gwrthodiad" oddiwrth asient arall heddiw. Felly mae'n flin 'da fi; dydy hynny ddim yn bost siriol...ond mae angen ymarfer arnaf cyn y cwrs yn yr haf, rhag ofn i fi fynd i lefel is.

Sunday, February 17, 2008

Dyfal Donc a Dyrr y Garreg

Dw i wedi dechrau unwaith eto gyda'r sgyrsiau dros y ffôn gyda fy ffrind, Brenda, sy'n dysgwraig hefyd a sy'n dod o Gastell-Nedd yn wreiddiol. Bron yn wythnosol, dyn ni'n dewis pwnc o flaen llaw, a mae un ohonon ni'n gofyn cwestiynau a'r llall yn ymateb. Mae'r pynciau yn eitha cyffredinol; er enghraifft, y pwnc ddydd Sadwrn diwetha oedd "ein taith ni nesaf." (Bydd hi'n teithio i Dde California yr wythnos nesaf.)

Ar wahân i hynny, dw i wedi bod yn canolbwyntio ar ein dosbarth Sbaeneg y dyddiau yma, â dweud y gwir. Mae'r dosbarth yn mynd ymlaen; perfformiais i'n dda ar y dau brofion cyntaf. Ond does dim digon o amser i astudio. Am ryw rheswm dyn ni'n arbennig o brysur ar hyn o bryd gyda pethau fel gwaith, wrth gwrs, a hefyd ail-gynllunio fy ngwefan bersonol.

Heddiw aethon ni i gael swper Calan Tsieniaidd gyda teulu Rob, mewn ty^ bwyta neis iawn. Roedd gormod o fwyd: cyw iâr wedi'i pobi, hwyaden Peking, psygod wedi'i stemio, cranc gyda sinsir ac "wniwns gwyrdd", corgymychiaid, llysiau gyda tofu a madarch... Fe fwyton ni tua 3 o'r gloch a dw i ddim eisiau bwyd eto, am 9 o'r gloch. Ond dw i'n yfed potel o gwrw...bob amser mae lle i gwrw!

Wednesday, February 06, 2008

Sbaeneg yn mynd ymlaen...

Dw i'n mwynhau'r dosbarth Sbaeneg. Ond dw i wedi sylwi ar rywbeth. Bob tro dw i ddim yn gwybod gair, dw i'n troi i'r Gymraeg (yn fy mhen, ta beth). Wel, Cymraeg neu'r Ffrangeg.

Erbyn hyn, dyn ni wedi dysgu geirfa ynglyn â'r dosbarth a'r prifysgol, ac hefyd rhifau. Wrth gwrs, dyw'r geirfa brifysgol ddim mor ddefnyddiol i fi ar hyn o bryd, gan mod i ddim yn fyfyrwraig bellach. (Yo estudio administracion de empresas!) Ond efallai bydd hynny yn ddefnyddiol i'r gwr, os caiff e fyfyrwyr sy'n siarad Sbaeneg.

Beth arall...ym, wedi ffeindio "oriel lluniau" perffaith ar gyfer fy ngwefan bersonol. Wel, mae'n gyffrous i fi ta beth. Dw i wedi bod yn chwilio am oriel da, a dyma oriel arbennig o dda a digon hawdd i fi.

Saturday, January 26, 2008

Dw i'n dysgu...Sbaeneg?!

Ie, yn lle astudio Cymraeg fel merch fach dda, dw i'n dysgu Sbaeneg. Dw i'n cymryd dosbarth gyda fy ngwr a chwpwl o ffrindiau. Dw i'n gallu siarad tipyn bach o Sbaeneg yn barod--mae fy llys-dad yn dod o Costa Rica, a mae modryb 'da fi sy'n dod o Mecsico yn wreiddiol. Dw i'n gallu deall yn eitha da, ond dw i ddim yn gallu ateb yn dda iawn, a does dim llawer o eirfa 'da fi o gwbl. Ond mae'n bwysig iawn a defnyddiol iawn gwybod Sbaeneg yn California, felly...

O leiaf, yfory bydda i'n sgwrsio yn Gymraeg gyda ffrind i fi, Brenda--dyn ni'n ail-ddechrau ein sgyrsiau ffôn. Dw i i fod i siarad am fy nhaith i'r Eidal ym mis Tachwedd. Pob lwc i fi!!

Mewn newyddion eraill, nawr mae hi'n bosib cofrestru ar y Cwrs Cymraeg 2008 - Cwrs y Rhosyn Gwyllt yn Iowa. Ydw i wedi sôn yn ddiweddar, mod i mo'r llywydd bellach? Diolch byth! Does dim digon o amser 'da fi. Mae talent 'da fi--llenwi pob bwlch o amser gyda rhyw fath o waith...

Monday, January 14, 2008

Gwella Fy Ngeirfa

Diolch i Nic am ddysgu ymadrodd newydd i fi (newydd i fi yn Gymraeg, ta beth) - neidio'r siarc. Gwych!

Tuesday, January 08, 2008

Dydd Cyntaf yr Ysgol

Er bod rhaid i fi ymarfer fy Ngymraeg eto, heddiw (p'nawn 'ma) bydd Rob a fi'n dechrau dosbarth Sbaeneg yn y coleg lleol. Mae'n ddefnyddiol iawn siarad Sbaeneg yma yn California. Dw i'n gallu ei siarad tipyn bach--mae fy llysdad yn dod o Costa Rica yn wreiddiol--ond chymerais i erioed rhan o ddosbarth ffurfiol.

Bydd sawl ffrindiau yn gwneud y dosbarth hefyd, felly gobeithio bydd e'n dipyn o hywl. Dosbarth "hybrid" ydy e--mae rhan o'r dosbarth yn cymryd lle ar-lein. Dw i ddim yn siwr sut yn union caiff y rhan ar-lein ei drefnu, ond dw i'n edrych ymlaen ato fe.

Thursday, December 27, 2007

Blwyddyn Newydd Dda--2008 Hapus!

Dw i ddim wedi blogio ers talwm, ond wrth gwrs, mae pethau'n brysur dros y gwyliau fel arfer. Mae ffrindiau sy'n byw yn Hawaii (lwcus!) wedi dod i ymweld â ni a'i teulu nhw, felly dyn ni wedi bod yn mynd yma ac acw gyda nhw yn ymweld â ffrindiau eraill ac ati. Fe aethon ni i weld yr eira yn y mynyddoedd yn Pinecrest (rhyw 2 awr i ffwrdd) oherwydd mae bachgen bach 3 oed gyda nhw sy erioed wedi chwarae yn yr eira. (Does dim llawer o eira yn Hawaii sef ar gopa Mauna Kea.)

Hefyd aethon ni gyda nhw i wylio gêm pêl-droed Americanaidd rhwng y 49ers a'r Tampa Bay Buccaneers. Dim yn gyffrous iawn i fi ond joiais i'r black-and-tans. Noson Nadolig fe aethon ni i barti yn nhy ffrind i ni, ac ar ddydd Nadolig aethon ni i weld teulu Rob.

Dderbynoch chi unrhywbeth arbennig o dda fel anrheg Nadolig? Oddiwrth fy ngwr fe ges i DVD Sigur Ros a gêm fideo Nintendo DS--The Sims: Castaway. Fe gafodd e bocs mawr "booze chocolates" oddiwrth ei rhieni--siocledi mewn siap poteli bach gyda phob math o alcohol ynddynt. Ymmm!

Saturday, December 01, 2007

Stwff am Venice

Mae'n flin 'da fi mod i mor ddiog, ond dyna fe. Rwyt ti'n gallu darllen tipyn bach am ein taith i'r Eidal ar fy mlog Saesneg. A gobeithio pan fydd mwy o amser rhydd 'da fi (pryd? pryd??) postiaf i rhywbeth yn Gymraeg hefyd. Ar hyn o bryd mae pentwr o lyfrau ar fy llawr yn aros i fi eu darllen nhw ar gyfer y gwobrau Cybils, felly...dim llawer o amser i wneud unrhywbeth arall, fel, ym, ysgrifennu blogiau. A dweud y gwir dw i ddim wedi bod mewn tymer dda i ysgrifennu o gwbl, achos fe ges i bedwar rejections yn y tair wythnos gynt. Wel, dyna fywyd yr artist...

Wednesday, November 21, 2007

Yn ol o'r Eidal

Nodyn bach i ddweud bod tua hanner o fy lluniau o'r Eidal ar Flickr ar hyn o bryd. Byddaf yn rhoi y weddill ar-lein cyn bo hir, gobeithio heno neu yn y bore. Diolchgarwch hapus! (Rhaid i fi orffen tacluso'r ty cyn i'r Cinio Mawr yfory...)

Wednesday, November 07, 2007

Tan yr wythnos nesaf...

Wel, dyn ni bron yn barod i adael ar ein gwyliau. Byddwn ni bant nes dydd Gwener nesaf. Heno dyn ni'n gyrru i San Francisco (tua 2 awr) i aros mewn gwesty, cyn cymryd awyren am 8:40 yn y bore. Dw i'n teimlo fel bod pethau yn llanastr llwyr yma ar hyn o bryd, gyda'r holl adeiladu, a'r ffaith mod i ddim wedi cael cyfle i dacluso fy "swydd" neu unrhywbeth arall sef y gegin. (Mae rhaid glanhau'r gegin cyn mynd unrhywle oherwydd y morgrug...ac mae rhaid i fi olchi'r llestri eto...)

Byddwn ni'n cyrraedd Venice ychydig ar ôl 10 bore Gwener. Dw i'n credu bydd ein gwesty yn eitha neis (diolch Expedia). Dydd Gwener a dydd Sadwrn dyn ni'n cerdded o gwmpas Venice. Dydd Sul a dydd Llun dyn ni'n mynd i weld y Biennale; dydd Mawrth, i Milan; dydd Mercher, yn Venice unwaith eto; dydd Iau, i Ravenna i weld y mosaigs Bysantaidd; a dydd Gwener nesaf, dod yn ôl. Bydd hi'n daith gyflym iawn, ond gobeithio, yn ddymunol iawn hefyd.

Tuesday, October 30, 2007

Pethau Amrywiol

Yn gyntaf, diolch i fy mam, erthygl dda am ein arweinwyr rhagorol. Doniol iawn. Dw i'n dweud wrthoch, dylai California ymwahanu ei hunan oddiwrth gweddill yr wlad.

Dw i wedi bod yn meddwl am wneud audioblogs gyda'r gwasanaeth hon, yn Gymraeg. Oes gyda unrhywun brofiad gyda Gabcast? Mae hi'n edrych yn dda ac yn ddigon syml. Mae rhaid i fi ymarfer siarad. Dw i wedi bod yn cael ambell sgwrs gyda ffrind dros y ffôn yn y Gymraeg, ond basai "audioblogio" ychydig o hwyl. Roedd Chris yn gwneud hynny am sbel.

Ym...dim llawer arall heddiw. Dyn ni'n dal i baratoi am ein taith i Venice--yr wythnos nesaf yn barod!! Mae pentwr o waith i'w orffen cyn mynd. Poster newydd i gynllunio, cylchlythyr i olygu, a traethodau byr i'w marcio...hefyd mae NaNoWriMo yn dechrau ddydd Iau. (Dw i'n siwr mod i ddim yn gorffen yn 50K o eiriau, gyda'r gwyliau yn y canol, ond mae'n esgus da i ddechrau prosiect newydd.)

Friday, October 26, 2007

Parlo Gallese

Duw, does dim amser i flogio bellach. Dw i wedi bod yn gweithio unwaith eto ar brosiect freelance yn gwneud ymchwil cwricwlwm ar gyfer Riverside School for the Arts. Hefyd dw i wedi bod yn helpu gyda gwobrau llyfrau i bobl ifanc, yn trefnu categori nofelau graffig a hefyd ar banel enwebu yng nghategori SF/Ffantasi. Llawer o waith ydy hi, ond dw i'n cael sawl llyfrau yn rhad ac am ddim. Gwych! :)

Yup, he definitely likes meDyma ffoto ohono i yn y Ren Faire. (Rhaid i ti fod yn "cyswllt" ar Flickr i weld y weddill.) Roedd "reptile petting zoo" yno a dw i'n hoffi ymlusgiaid. Hefyd, roedd Molly, merch ffrindiau, eisiau mynd i weld yr ymlusgiaid ond doedd hi ddim eisiau mynd i mewn ar ei phen ei hunan. Felly es i i mewn gyda hi. Roedd y neidr yma yn fy hoffi fi, dw i'n credu. Neu yn meddwl fy mod i'n goeden. Un neu'r llall. Mae lluniau ohono i ar Flickr gyda neidr enfawr hefyd, 65 pwys. Roedd e'n drwm!

 dweud y gwir, mae'r Ren Faire yn gyfle i fi a'r gwr yfed cwrw drwy'r dydd. Dyn ni ddim yn hoff iawn o'r peth ond mae ffrindiau 'da ni sy'n dwlu arno fe. O, mae'n ychydig o hwyl, a dw i'n hoffi costymau, ond mae'n rhy ddrud, yn fy marn i, ac y llawn o bobl rhyfedd. (Diddorol os dych chi'n hoffi gwylio pobl!)

Ar bwnc yn hollol wahanol, ydw i wedi sôn am ein tîm pêl-droed lleol yn dod yn ôl? Mae'r San Jose Earthquakes yn dychwelyd y tymor nesaf. Hwre!!

Monday, October 15, 2007

Blogiadur

Fel wyt ti'n gallu gweld ar y dde 'na, dw i wedi postio cysylltiad i'r Blogiadur. Yn hwyr iawn. Dw i wedi bod yn aelod o'r Blogiadur. Dw i'n hoff iawn o'r safle. Ond fel 'mod i wedi dweud o'r blaen, dw i'n hollol anobeithiol.

Dw i newydd ddarllen rhywbeth am, efallai, ffilm Watchmen ar Rwdls Nwdls. Basai hynny'n ddiddorol. Does dim llawer o wybodaeth eto ar y wefan swyddogol ond mwynheuais i V for Vendetta (y nofel graffeg a'r ffilm). Gobeithio y byddan nhw ddim yn gwneud llanastr ohoni.

Sunday, October 14, 2007

Viva Cwrw

Wedi gwneud llawer o bethau heddiw, ond yn dechrau'r dydd gyda sgwrs yn Gymraeg--jyst ychydig o sgwrs gyda ffrind i fi, Brenda. Dyn ni wedi bod yn ceisio cael sgwrs yn Gymraeg dros y ffôn bron bob wythnos. Fe helpodd hynny'n fawr iawn--i fi, ta beth--y llynedd, cyn i fi fynd i'r Cwrs Cymraeg.

Ar hyn o bryd dw i newydd dychwelyd o barti ar ôl yfed tipyn bach gormod efallai. Roedd hi'n "cast party" ar gyfer y theatr 'mod i'n cynllunio'r posteri a'r rhaglenni iddi. Ffrind i fi sy'n rhedeg y theatr, a roedd y parti yn ei thy hi. Do'n i ddim yn nabod llawer o bobl, felly yfais i fwy--dw i'n eitha swil ond ar ôl tipyn bach o gwrw neu rhywbeth, dw i'n llai ofnus.

Yfory dyn ni'n mynd i'r "Renaissance Faire" gyda ffrindiau sy'n hoffi pethau fel 'na. Mae Jay, y gwraig, sy'n gallu gwnio'n dda iawn, wedi gwnio gwisgoedd i ni. (Dyma ni y llynedd; dydy hynny ddim yn llun da iawn ond dych chi'n gallu cael y syniad.) Mae digon o gwrw (neu "ale", neu "mead") yn y Renaissance Faire felly bydd hi'n iawn, dw i'n meddwl... ;)

Monday, October 08, 2007

Meraviglioso! Stupendo! Che Bello!

Dw i ddim wedi blogio am sbel. Dw i wedi bod yn gweithio gormod, a hefyd yn astudio Eidaleg ar gyfer ein taith mis nesaf. A mae cath fach flin sy ddim yn hoffi pan dw i'n gweithio ar y cyfrifiadur. Neu darllen. Neu unrhywbeth sy ddim yn cynnwys chwarae gyda hi. Peth da ei bod hi'n ciwt iawn.

Hefyd, dw i wedi bod yn gwastraffu llawer o amser ar Facebook, yn cymryd cwisiau trivia am ddaearyddiaeth, a pa fath o ffilmiau dw i'n eu hoffi, ac ati. Yn anffodus dw i wedi ychwanegu'r cymhwysiad iLike, i ddangos pa fandiau a chaneuon dw i'n eu hoffi, ond dw i ddim wedi diweddaru pethau ers i fi ychwanegu'r peth, felly dw i'n hoffi dim ond pum bandiau a rhyw pedwar caneuon. (Dydy hynny ddim yn wir.) Mae gormod o bethau twp i wrthdynnu fy sylw fan' na ar Facebook.

Wednesday, September 26, 2007

O'r Diwedd, Y Nofel.

Wel, mae "yfory" wedi troi yn...wythnos. Ond dyma'r crynodeb a addawais i. Mae'n flin 'da fi os mae pethau ynddi hi sy ddim yn gwneud synnwyr. Mae'n anodd i fi esbonio rhai o'r syniadau yn Gymraeg. Cofiwch mae hynny'n nofel i bobl ifanc. Dw i wedi tynnu'r brawddegau oddiwrth llythyr a anfonais i i'r ddau asient:

Dywedir y stori o safbwynt merch o gefndir ethnig cymysg, ac mae'r stori yn dilyn ei ymdrechion i ffeindio ei hunaniaeth hi. Er hynny, hefyd dyma stori am gynllun codi arian wedi mynd dros ben llestri, gyda chanlyniadau trychinebus a doniol.

Mudiad cymdeithasol ffug i fyfyrwyr o gefndir ethnig cymysg ydy'r Latte Rebellion, wedi'i dyfeisio gan high school senior Asha Jamison gyda'i ffrind gorau Carey Wong. Dydy hi ddim yn wrthryfel go iawn, ond mae logo, gwefan, manifesto...a crys-T. Os ydy Asha a Carey yn gallu gwerthu digon o grysau-T, byddan nhw'n gallu fforddio taith i Lundain ar ôl graddio. Ond mae hi'n syndod mawr iddyn nhw pan mae'r syniadau'n mynd yn boblogaidd, nid jyst yn eu ysgol nhw a'r coleg gerllaw, ond hefyd--diolch i'r rhyngrwyd--dros yr wlad.

Yn anffodus, mae defosiwn Asha i'r cynllun wedi achosi dieithriad rhag (?) Carey, marciau is, a llythyrau gwrthodiad oddiwrth prifysgolion. A pan mae'r Latte Rebellion yn tanio gelyniaeth yn eu campws eu hunain, mae Asha yn mynd i helynt [beth yw "get in trouble?] yn yr ysgol a gartre. Gorfodir Asha benderfynu beth sy'n bwysicaf iddi hi--y Latte Rebellion, cyfeillgarwch, neu ei dyfodol.

Ffîw!! Roedd rhaid i fi edrych am gymaint o eirfa. Dw i ddim wedi bod yn ymarfer yn ddigon. Â dweud y gwir, dw i wedi dechrau dysgu tipyn bach o Eidaleg achos dyn ni'n mynd i Venice ym mis Tachwedd. Ar hyn o bryd dw i'n gallu dweud "Un cappuccino, per favore. Grazie!" Defnyddiol iawn.

Tuesday, September 18, 2007

Yn Son am Ysgrifennu...

...diolch i Ordovicius am y cysylltiad diddirol i'w flogel. Hyd yn hyn--a dw i newydd ddechrau--mae'n edrych yn dda iawn, ond bydd rhaid i fi gymryd ychydig o amser i'w darllen hi yn llwyr. Ond bydd hynny (fel darllen blogiau eraill) yn ymarfer da iawn i fi. Sgwn i beth yw hanes y tu ôl i'r blogel? Mae'n edrych tipyn bach fel y Ffuglen Flickr dw i'n gwneud gyda sawl bobl eraill (yn gynnwys, supposedly, Chris Cope--ble wyt ti, Chris?).

Ta beth...gofynnodd Ordovicius gwestiwn i fi am beth dw i wedi sgwennu...wel, yr ateb yw, nifer o bethau sy ddim wedi cael eu cyhoeddi! Mae sawl erthyglau ar wefannau (fel hynny, sydd heb credyd nawr--dyna fy map hefyd), a chylchgrawn alumni fy mhrifysgol ac ati, ond does neb wedi cyhoeddi fy ngwaith ffuglen eto. Dw i'n sgwennu storiau fer llenyddol, a hefyd nofelau i bobl ifanc (nid plant, ond pobl yn eu harddegau).

 dweud y gwir, dylwn i gyfieithu crynodeb fy nofel diweddaraf i mewn i'r Gymraeg fel ymarfer. Nid nawr. Mae hi bron hanner awr wedi unarddeg yn y noson. Yfory, falle...

Monday, September 10, 2007

Cysylltiadau, a.y.y.b.

...a.y.y.b., ar y rhan fwyaf. Ond yn gyntaf, dyma'r cysylltiadau. Heno roedd rhaglen ar BBC Radio 4 "Word of Mouth" yngly^n â "language policy in the bilingual societies of Quebec, Wales and Northern Ireland." Mae'n bosib gwrando ar y rhaglen dros y wê, dw i'n credu. Dw i ddim wedi cael cyfle i wrando arni hi eto, ond mae'n swnio'n ddiddorol. (Diolch i'r rhestr WELSH-L.) Yn ail--a dw i'n siwr eich bod chi wedi clywed hynny'n barod achos dw i wedi methu postio hynny nes heddiw--mae tair prifysgol yn Nghymru wedi mynd yn annibynnol--Aberystwyth, Bangor, ac Abertawe. Dw i ddim yn siwr os ydy hynny'n golygu bod y prifysgolion yn preifat nawr hefyd, neu os ydyn nhw'n cael eu noddi gan y llywodraeth eto. Diolch i fy mam am anfon yr erthygl i fi.

Llongyfarchiadau i Chris, a ennillodd Gwobrau Blogiau am Blog Americanwr Cymreig Gorau a Blog Dysgwr Gorau hefyd--yn Saesneg ac yn y Gymraeg. Gwych! Rwyt ti'n un o'r "cool kids" nawr, Chris! :)

Nid llawer iawn o ddiddordeb yma. Mae'r adeiladwyr yn dal i weithio ar ein ychwanegiad, a dw i'n dal i methu tynnu lluniau o'r prosiect. Erbyn hyn mae waliau, byrddau ar y tô, a chwpwl o ffenestri. Mae'n bosib gweld pa mor fawr bydd y peth pan fydd e wedi gorffen. Dw i'n ail-cynllunio ein gwefan ni--dw i'n hoff iawn o'r botymau. Ond does dim llawer o amser rhydd 'da fi ar gyfer gwneud hynny, felly mae dim ond tudalen flaen newydd ar hyn o bryd. O! Dw i wedi anfon cynnig ar gyfer fy nofel ddiweddaraf at ddau asient. Gobeithio bydd diddordeb gyda un neu'r llall yn y llawysgrif llwyr...

Friday, August 31, 2007

Ar Ymyl Fy Sedd...

Dw i jyst eisiau dweud, ar ôl edrych ar y blogiau eraill sy'n cael eu ystyried ar gyfer y Gwobrau Blogiau 2007, dw i ddim yn siwr pam cafodd Castell Tywod ei enwebu--mae'r blogiau eraill i gyd yn a) bendigedig; b) diddorol; c) yn cael eu diweddaru yn gyson; a ch) ddwedais i "diddorol" yn barod? O wel. Dw i'n falch wedi cyrraedd y rownd terfynol ta beth.

Tipyn o wybodaeth ddiddorol (efallai--os dych chi'n cynllunio tudalennau Wê)--darganfyddais i fod lliw "hex" o'r enw "wales"--lliw gwyrdd (cliciwch yma a scroliwch rhan o'r ffordd i lawr--mae'r lliw "wales" yn y trydedd golofn). Dw i ddim yn siwr pwy a enwodd y lliw--neu pam--ond roedd ychydig o syndod i weld hynny.

Thursday, August 30, 2007

Cymraeg a Klingon--Wedi Gwahanu yn Enedigaeth?

Mae hynny'n ddiddorol--erthygl am bobl sy'n creu eu hieithoedd eu hunain. Mae'n ddiddorol bod Klingon yn defnyddio'r gystrawen "object-verb-subject" a nid llawer o ieithoedd eraill--meddyliais i am Gymraeg a brawddegau fel "Meddyg ydw i." Ond mae llawer mwy o ddiddordeb 'da fi mewn ieithodd sy'n bodoli yn wirioneddol.

Cyfweliad gyda Chymraes?

Jyst tipyn bach o'r diweddaraf...os dych chi'n gyfarwydd â'r awdur i bobl ifanc Diana Wynne Jones (hanes diddorol ei phlentyndod fan 'ma), efallai bydd diddordeb 'da chi mewn hynny. Wythnos gyntaf o Dachwedd (y 5ed - 9fed), bydd y Winter Blog Blast Tour--sef, dathliad o gyfweliadau gyda awduron o lenyddiaeth i bobl ifanc a phlant. Bydd nifer fawr o flogiau (blogiau sy'n sôn am lenyddiaeth i bobl ifanc) yn cymryd rhan, yn gynnwys Finding Wonderland, y blog dw i'n cyfrannu ynddo. A bydd gyda ni gyfweliad anghynwysol gyda Diana Wynne Jones, awdur Howl's Moving Castle, y llyfrau Chrestomanci, a llawer iawn o lyfrau eraill. Dw i'n cofio benthyca llyfrau Diana Wynne Jones oddiwrth ffrind pan o'n i'n tua 10 neu 11 oed, a dw i'n dal i fwynhau ei storiau. Felly dw i'n edrych ymlaen at yr "e-gyfweliad" yn fawr iawn.

Roedd y Summer Blog Blast Tour yn brofiad dymunol ac unigol iawn, a dw i'n siwr bydd y rownd nesaf o gyfweliadau yn ddiddorol hefyd. Byddwn ni'n holi Connie Willis a Sherman Alexie hefyd--gwych! Ro'n ni'n gobeithio cael cyfweliad gyda Neil Gaiman hefyd, ond mae e "on tour" ar hyn o bryd, felly dyn ni ddim yn credu ei fod e ar gael. Drueni!

Friday, August 24, 2007

Beth Wnes I Heddiw?

Ymm...Dim byd yn ddiddorol iawn, â dweud y gwir. Codais i am chwarter i naw yn y bore, a ches i goffi a tost am frecwast. Darllenais i ychydig (wel, mwy nag ychydig) a chwaraeais i gyda'r gath fach ffôl nes i'r curo ar ochr y ty^ fynd yn rhy swnllyd. (Roedd y gweithwyr yma am wyth o'r gloch yn y bore.) Wedyn, es i i'r gampfa am bron awr a hanner, i rhedeg ar y felin draed, defnyddio'r peiriannau, a nofio tipyn bach.

Ar ôl dychwelyd adre, ces i "soft tacos" i ginio, cymerais i gawod bach neis, a wedyn gweithiais i ar boster ar gyfer tymor newydd y Prospect Theater Project, lle dw i'n dylunydd graffig. Pig Farm gan Greg Kotis, awdur Urinetown, yw'r ddrama gyntaf.

Myn uffern i, dw i'n meddwl bod y gweithwyr yn ceisio distriwyo'r ty^, nid adeiladu rhan newydd. Dw i newydd glywed sw^n ofnadwy. Ta beth, fel ro'n i'n dweud...ym....ie. Dw i wedi colli fy trên o feddwl. ("Trên o feddwl"--Dw i'n siwr nad oes hynny yn gywir.)

Tuesday, August 21, 2007

Dyma Fi Eto! (Diolch...Diolch)

Wel, nawr, wrth i fi gael fy meirniadu, dw i'n teimlo pwys i bostio. Felly, dyma rhestr bach o bethau a wnes i heddiw, wrth i 'ngwr i fod yn Alaska yn pysgota gyda'i dad:

  • Ail-olygais i bedwar pennod o fy nofel i bobl ifanc (nofel newydd sy ddim yn sôn am Gymru o gwbl--mae'n flin 'da fi)
  • Chwaraeais i gyda'n cath fach, Zelda, am oriau. (Mae hi'n hyper.)
  • Gwastraffais i ormod o amser yn edrych ar bethau heb bwynt ar y wê, fel gwybodaeth Wicipedia am fy ardal i.
  • Sgwennais i gerdyn post at fy chwaer a'i theulu yn Awstralia. Mae'r cerdyn post yn dod o Efrog Newydd. Des i n'ôl o Efrog Newydd tua tri wythnos yn ôl. Colledwr (colledwraig? colledydd?) ydw i.
  • Teipiais i rhyw bethau diflas ar gyfer swydd freelance; roedd rhaid i fi ei wneud cyn cynfarfod y bydda i'n mynychu yfory.
  • Gwyliais (am yr ail waith) rhan o'r ffilm The Wedding Singer. Doniol iawn.
  • Treuliais i gormod o amser yn darllen, fel arfer.

Hefyd, o'r diwedd dyn ni wedi cael caniatad i adeiladu ein stiwdio ar ochr ein ty^ ni. Fe gymerodd hi bron blwyddyn i gael yr hawlen oddiwrth y ddinas. Mae'n amlwg y gawson ni'r runaround. Ond mae'r adeiladu wedi dechrau, a cyn bo hir (wel...cyn rhy hir, ta beth) bydd stiwdio celf, stafell wely arall, a stafell 'molchi arall gyda ni. Hefyd, byddwn ni'n adnewyddu'r "swyddfa." Dw i'n llawn cyffro!!

Monday, August 20, 2007

Syndod Mawr

Oes ymadrodd yn Gymraeg am "smack my ass and call me Judy?" Dw i newydd ddarganfod mod i wedi cael fy enwebu ar gyfer, nid un, ond dau gategori yn y Gwobrau Blogio 2007, a dw i yn y rownd derfynol. Gwych!! Ro'n i'n teimlo'n llawn cyffro, ond wedyn yn euog achos dw i ddim wedi bod yn postio yn aml iawn. Beth dw i'n gallu dweud? Dw i wedi bod yn brysur dros ben. Dros ben llestri, â dweud y gwir.

A dw i jyst wedi edrych ar y cysylltiadau yn y sidebar, a mae pethau 'na sydd wedi dyddio, ac does dim byd o gwbl dan y teitl "Rhithfro"; ble mae hynny wedi mynd??

Ta beth, dw i'n addo postio mwy aml o hyn ymlaen. Dyma broblem gyda fi a blogio. Pan dw i'n brysur iawn, dw i ddim yn gallu cyfiawnhau (?) cyfrannu i fy mlogiau. A pan dw i'n teimlo'n...ym...blinedig, neu ddim yn hapus (ie, artist pwdlyd ydw i, beth amdani??), dw i ddim eisiau blogio chwaith. Wrth gwrs, pan dw i eisiau gohirio, dw i'n llawer grefyddolach gyda'r blogio...

Sunday, August 12, 2007

Drosodd!!

O'r diwedd, does dim byd i'w wneud ar gyfer y Cwrs Cymraeg...ar wahân i baratoi ar gyfer Cwrs 2008 yn Indianola, Iowa. Os dych chi am weld lluniau swyddogol y dosbarthiadau, gweler y lluniau yma. Os dych chi am weld y lluniau answyddogol...e-bostia i ac anfona i'r cyswllt i ti. (Mae cwpwl o ffotos sy ddim yn gyfleus i'r cyhoedd cyffredinol. Na, dim mor gyffrous â hynny, ond mae sawl lun o nosweithiau yn y dafarn.)

Wel, hwyl am y tro--mae'n amser i ni gwrdd â ffrind i ginio. (Swshi--mmmm...)

Wednesday, June 27, 2007

Gwaith a Cherddoriaeth

Ro'n i'n gwrando ar C2 ar Radio Cymru dros y rhyngrwyd, yn ystod i fi marcio paragraffau ar gyfer dosbarthiadau ar-lein Rob, a ro'n i'n falch clywed cân newydd Lily Allen. Dw i'n hoffi ei CD "Alright, Still" a ro'n i'n siomedig o glywed bod hi ddim yn gorffen ei taith Americaniadd. O leiaf nawr dw i'n edrych ymlaen at clywed cerddoriaeth newydd oddiwrthi hi.

Yn sôn am gerddoriaeth, mae CD newydd da 'da ni gan grwp o'r enw Army of Anyone, sy'n cynnwys canwr o'r band Filter, gitarydd a basydd (?) o'r Stone Temple Pilots, a drymiwr "sesiwn" o rywle sy'n atgoffa ni o drwymiwr Tool. Dw i'n cofio cael y CD Filter (adegau yn ôl) ac yn meddwl ei fod e'n dda, ond roedd y caneuon i gyd yn swnio yn debyg, a ddim yn rhy gyffrous. Ond dw i'n hoffi llais y canwr, ac mae'r caneuon Army of Anyone yn llawer well gyda ysgrifen y bois o STP.

Dw i'n pryderu am y Cwrs Cymraeg eleni--dim y cynllunio yn unig, ond dw i'n pryderu am fy Nghymraeg, yn enwedig fy ngeirfa. Dw i wedi lawrlwytho rhaglen "flash cards" (jMemorize) ond wrth gwrs mae angen ychydig o amser rhoi geiriau i mewn ac ati. Ond dw i'n edrych ymlaen at gweld priftiwtor y cwrs unwaith eto, sef Steve Morris sy'n dysgu ym Mhrifysgol Abertawe. Cwrddais i â fe ar fy Nghwrs Cymraeg cyntaf yn Toronto, rhyw wyth mlynedd yn ôl(!).

Saturday, June 16, 2007

Eitem Diddorol Arall o'r Newyddion

Ro'n i'n gwrando ar raglen radio Day to Day heddiw tra o'n i'n gyrru i'r gampfa, a clywais i hysbyseb am yr eitem hwn--gwerthwr ffoniau car sy'n gallu canu fel aderyn...yng Nghymru, wrth gwrs--ble arall? Gwlad y gân, unrhywun? Nage?

Monday, June 04, 2007

Wn i ddim jyst beth i'w feddwl...

Ydych chi wedi clywed am artist Prydainaidd (Sais? Dw i ddim yn siwr) a bwytodd Corgi fel rhan o brosiect celf? Na, fi chwaith, nes heddiw.

Nawr mae e'n bwriadu cael ei gladdu dan mynydd o datws stwnsh. Hmm...mae rhyw bobl yn cael issues gyda bwyd, dw i'n tybied.

Sunday, June 03, 2007

Ymarfer, Ymarfer, Ymarfer

Kitty Love 1

Dyna'n gath newydd ni, Zelda, gyda'i chwaer henach, Roxie. Mae pethau wedi bod yn ddiddorol iawn ers i ni ychwanegu aelod newydd i'r teulu. Mae Zelda yn llawn egni, a mae hi'n gallu chwarae gyda'i theganau hi am oriau. Oriau, yn llythrennol. Dyn ni angen nap ar ôl i ni chawarae gyda'r gath fach. Dim jôc.

Dw i newydd gorffen galwad ffôn gyda fy ffrind, Brenda--dyn ni'n ymarfer Cymraeg dros y ffôn bron bob wythnos neu bob yn ail wythnos. Heddiw, siaradon ni am "beth wnaf i dros yr haf." Hefyd, dywedais i wrthi hi am ein taith ddoe i San Jose i weld gêm pêl-droed rhwng yr U.D.A. a Tseina. Ennillodd yr UDA 4 i 1. Mwynheuon ni'r gêm; hefyd y parti ar ôl y gêm, yn nhafarn Britannia Arms--roedd hi'n ddigwyddiad ar gyfer codi arian i grwp cefnogwyr pêl-droed lleol. Rhyw ddwy flynedd yn ôl, cafodd ein tîm lleol ei symud i Houston, Texas gan y perchnogion (sy'n cwmni mawr, amhersonol, trachwantus, a diegwyddor). Wrth gwrs aeth llawer o bobl yn yr ardal yn grac ond doedd dim byd i'w wneud...ar wahân i geisio ffeindio perchennog lleol fasai'n fodlon creu tîm newydd.

Wrth gwrs mae pethau'n fwy gymhleth na hynny, gyda cwestiynau am dir, stadiwm, ac ati. Ond mae'n debyg ein bod ni'n cael ein tîm mewn pryd i'r tymor pêl-droed 2008. Yn ffodus, fe gadwodd y grwp lleol hawliau i enw y tîm, yn ogystal â'r etifeddiaeth a'r troffiau. Dim ond y chwaraewyr eu hunain sydd ar goll, ac os byddwn ni'n lwcus, efallai bydd un neu ddau o'r chwaraewyr ar gael erbyn y flwyddyn nesaf.

Monday, May 14, 2007

Swnllyd

Mae gweithwyr yn y ty heddiw yn rhoi ffwrnais ac air conditioner newydd i mewn, ac mae popeth yn swnllyd iawn ar hyn o bryd, gyda'r curo a'r morthwylio ac ati. Roedd pethau am beth o'n i eisiau blogio, pethau penodol, ond dw i ddim yn gallu meddwl yn eglur oherwydd y mwstwr.

Hefydd mae rhaid i fi aros yn fy swyddfa (y stafell gyda fy nghyfrifiadur, fy nesg, a fy llanastr AR y ddesg) gyda'r cathod, er mwyn iddyn nhw ddim mynd dan traed y gweithwyr, neu i mewn i'r crawlspace dan y ty, neu rhywbeth.

A, ie, dwedais i "cathod"--cawson ni gath newydd--cath fach ddu o'r enw Zelda. Y dydd cyntaf, doedd Roxie ddim yn hapus o gwbl am y gath newydd. Ond mae hynny er ei lles ei hun, yn rhannol, achos mae Roxie tipyn bach yn dew â dweud y gwir. Gobeithio y bydd hi'n fwy bywiog gyda cenau bach i chwarae gyda hi. Postiaf i lun ohonyn nhw cyn gynted ag y gallaf.

Thursday, April 19, 2007

Ymddiheuriadau...

Mae oesoedd wedi mynd heibio ers y tro olaf i fi bostio. Ond dw i'n dal i ymarfer sgwrsio dros y ffôn gyda ffrind i fi, Brenda, ac mae cynlluniau'r Cwrs Cymraeg yn Albany yn mynd ymlaen. Mae hi'n fy helpu yn fawr i gael sgyrsiau yn gyson, ond fel arfer, dw i'n anghofio geirfa fel bod fy ymennydd yn ogr. (Ydych chi'n gwybod cân Thomas Dolby, "Mae fy ymennydd fel gogr"? Wel, dyna fi.)

Monday, March 12, 2007

Mae'n flin 'da fi.

Dw i wedi bod yn anobeithiol gyda'r blogio yn Gymraeg. Anobeithiol!! Does dim esgus, yn wir--dim ond yr un hen gân: rhy brysur, gormod o waith, a.y.y.b. Ond! Dw i wedi bod yn ymarfer tipyn bach, o'r diwedd. Trefnais i gyda ffrind o'r Cwrs Cymraeg, sy'n dod o Gymru yn wreiddiol ond yn byw ger San Francisco nawr, galwadau ffôn wythnosol ar gyfer cael sgyrsiau yn Gymraeg. Dyn ni ddau yn cytuno: does dim llawer o gyfleoedd i siarad Cymraeg drwy'r flwyddyn os dych chi ddim yn byw yng Nghymru. Felly, awgrymodd Brenda ein galwadau ffôn. Gyda'r ffôn symudol, mae'r penwythnosau heb gost. Dyn ni'n dewis testun rhywbryd yn ystod y wythnos blaenorol, ac os mae angen, dyn ni'n e-bostio geirfa ddefnyddiol at ein gilydd. Cyfleus iawn!

Dw i'n gobeithio bod yn fwy rhugl gyda'r siarad cyn y Cwrs eleni. Fel arfer, dw i ddim yn gallu sgyrsio yn hawdd yn ystod dyddiau cyntaf y Cwrs. Dw i'n gallu deall yn weddol, ond mae'n anodd i fi adennill geirfa addas...Wrth gwrs, dylwn i blogio yn Gymraeg (a darllen blogiau Cymraeg) yn fwy aml hefyd!

Friday, January 26, 2007

Gweithio...wrth gwrs

Post diddorol gan Chris yn sôn am flogwyr Cymraeg. Mae'n ymddangos ei bod hi'n normal i ni beidio blogio yn aml. I fod yn deg, dw i wedi bod yn postio ar fy mlogiau eraill, ond dim llawer arnyn nhw chwaith--gormod o waith...

Peth bach arall--dych chi'n gallu cofrestru ar-lein ar gyfer y Cwrs Cymraeg ym mis Gorffennaf, yn Albany, Efrog Newydd. Bydd hi'n hwyl dw i'n credu.

Saturday, December 30, 2006

Geiriau Diddorol

Ro'n i'n chwilio am enwau i fathau o gathod yn Gymraeg (llew, teigr, a.y.y.b.) ar ôl i'r gwr fy ngofyn (mae e'n meddwl am enw i gymeriad RPG) a des i o hyd i gwpwl o enwau anifeiliad diddorol 'mod i'n hoffi:

  • cath fôr. Dyma'r gair am "ray" (fel stingray, dw i'n credu). Yn Saesneg mae buwch fôr, ond dim cath fôr.
  • neidr filtroed a neidr gantroed. Gyda llaw, mae nifer o nadredd gantroed yn ein gardd gefn ni, yn ogystal â llawer o bryfed eraill, oherwydd y twll mawr yn y pridd lle byddwn ni'n adeiladu stafelloedd ychwanegol.

Dw i ddim yn gallu aros nes i'r ychwanegiad yn cael ei adeiladu. Dyn ni o hyd yn aros nes i'r Swyddfa Hawlen yn rhoi caniatad i ni ac yn cymeradwyo ein cynlluniau. O hyd!! Fe dechreuon ni'r broses yn yr haf. Ych-a-fi. Biwrocratiaeth!

Saturday, December 23, 2006

Cyfarchion y Tymor

Ahhhh...bron wedi gorffen gyda pharatoi dros y gwyliau. Dim ond nifer fach o anrhegion i'w lapio, crasiad o torth sinsir i'w bobi, a cwpwl o pasteiod cwstard i'w gwneud (gyda help oddiwrth fy mam). Dw i'n hoffi'r arogl pethau melys yn pobi.

Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda!

Monday, December 18, 2006

Wednesday, December 06, 2006

Wedi Gorffen!!

Dw i wedi gorffen fy 50,000 o eiriau am National Novel Writing Month - Hwre!!! Hefyd ro'n i ar raglen radio lleol yn siarad tipyn bach am fy mhrofiadau gyda'r prosiect. Dych chi'n gallu darllen mwy am hynny ar fy mlog Saesneg, lle mae cysylltiad hefyd i podcast y rhaglen. Cyffrous!

Nawr mae hi'n hen bryd i fi dal y gwaith ty i gyd, heb sô am fy ngwaith arall neu'r siopa Nadolig. Mae'n gas 'da fi siopa. Bydda i'n ceisio rhoi pethau o waith llaw i rhai o bobl ar fy rhestr--nwyddau pob, er enghraifft, neu llyfrau o waith llaw. Ond, sawlgwaith dych chi'n gallu rhoi llyfr o waith llaw i rhywun? Pa mor aml, yn enwedig pan dyn nhw ddim yn eu defnyddio nhw? Felly, dw i ddim yn siwr. Petaswn i'n gallu gwau yn well, efallai basai hynny'n syniad da. Ond dw i'n gwau yn araf fel malwen a does dim digon o amser erbyn hyn.

Ie, llawer o bobi. Dyna'r peth.

Thursday, November 09, 2006

Tipyn o Hwyl

Os dych chi'n mynd i fy mlog Saesneg, byddwch chi'n gallu gweld siart bach yn dweud faint o eiriau mod i'n gorffen erbyn hyn ar gyfer National Novel Writing Month. Dw i'n gwneud yn weddol, ond dim cystal â hoffwn i wneud.

Wednesday, November 01, 2006

Yn Y Cawl

Dw i'n brysur iawn. Am rhyw rheswm, penderfynais i gymryd rhan yn National Novel Writing Month unwaith eto eleni. Llynedd, fe gymerais i ran ond penderfynais i wneud y peth yn hwyr iawn--rhyw wythnos neu fwy i mewn i'r mis. Felly, wrth gwrs orffenais i ddim. Eleni, dw i ar ben pethau o flaen llaw! Mae syniad diddorol 'da fi, hefyd, i nofel newydd ar gyfer bobl ifanc.

Ond, wrth gwrs...mae llawer o bethau arall ar fy rhestr "to-do." Felly cawn ni weld.

Wednesday, October 04, 2006

Yn Mynd i Ffwrdd

Wel dyma bost misol arall. Yn amlwg dw i ddim yn dda iawn gyda'r blogio yn y Gymraeg. Dw i'n credu taw gormod o flogio yw'r problem. Er enghraifft, ysgrifennais i ddau adolygiad llyfrau i bobl ifanc ar gyfer ein blog adolygiadau. Ysgrifennwyd un ohonyn nhw am lyfr y derbynais i gan y cyhoeddwr Penguin Putnam--tua dau wythnos yn ôl, fe ges i e-bost oddiwrth golygydd gyda diddordeb yn ein blog ni, yn gofyn os basen ni'n fodlon adolygu llyfr newydd. Wrth gwrs fe ddywedais i "Basen."

A nawr dw i'n cael cysylltiad bach gyda cyhoeddwr mawr. Efallai yn y dyfodol, pan dw i wedi gorffen ail-olygu fy nofel...

Wednesday, September 20, 2006

Wedi Blino

Dw i ddim wedi blogio yma ers oesodd, dw i'n meddwl. "Trwm yw'r pen sy'n gwisgo'r goron," efallai? A dweud y gwir, dw i wedi bod yn brysur iawn gyda phopeth--yn gyntaf, dw i'n lywydd CM eleni eto. Llawer o e-bostiau a bod yn drefnus iawn gyda phapurau a thasgiau bychain ac ati. Ac os dw i'n drefnus mewn un rhan o fy mywyd, mae'n amlwg mod i ddim yn gallu bod yn drefnus mewn unrhyw rhan arall. Felly mae fy swyddfa-tŷ yn llanastr anobeithiol.

Hefyd, wrth gwrs, dw i'n gweithio ar ail-olygu fy nofel i bobl ifanc. Mewn gwirionedd dw i'n ail-ysgrifennu pethau yn llwyr--rhannau o'r nofel, ta beth. (Dw i wedi ysgrifennu am y broses ar fy mlog arall.) Ar hyn o bryd dw i wedi gwneud llawer o sylwadau ar fy ngwaith fy hun a dw i'n barod i ysgrifennu. Efallai.

A dw i wedi bod yn brysur gyda swydd newydd, fel cynllunydd graffig i theatr bach sy'n cael ei rhedeg gan ffrindiau. Bydda i'n gwneud posteri a rhaglenni am y perfformiadau. (Dyma fy mhoster cyntaf iddyn nhw.) Gwnes i hynny mewn brys anghredadwy dros y penwythnos achos roedd fy ffrindiau yn hwyr yn paratoi i'r tymor newydd. Felly dydy hi ddim yn rhy gymhleth.

Ta beth, dyna beth dw i wedi bod yn gwneud am fisoedd.

Heddiw ydy pen-blwydd fy ngwr--mae e'n 31 oed. Prynais i DVD Peter Gabriel amdano fe fel anrheg. Yn anffodus mae e'n dysgu drwy'r dydd heddiw, tan y noson, felly mae rhaid i ni ohirio'r swper ffansi. (Yr anrheg gwir--bwyd.)

Sunday, August 27, 2006

Siomedig

Dim postio ers lawer dydd. Dw i'n ceisio canolbwyntio ar fy ngwaith ysgrifenedig, sef fy nofel i bobl ifanc. Dw i'n ail-olygu'r peth cyn i fi ei anfon hi ma's unwaith eto. A dweud y gwir, dw i'n ail-ysgrifennu llawer o benodau. Mae hi'n waith caled iawn. Do'n i ddim yn hapus gydag un o'r prifgymeriadau--roedd hi tipyn bach yn ddiflas ac yn afrealistig. Felly mae rhaid i fi ei gwneud hi'n fwy "sassy" neu rhywbeth. Hefyd, roedd ei pherthynas gyda'i mam-gu braidd yn deimladwy. Do'n i ddim yn gallu sylwi ar bethau fel hynny yn gynt yn y broses golygu.

Newyddion drwg am y casgliad storiau fer y ges i stori ynddo fe--fe adawodd golygydd y prosiect ei swydd. Felly pasiwyd y prosiect i olygydd arall yn y cwmni cyhoeddi, sy'n dros ben llestri erbyn hyn. Does dim syniad 'da fi pryd caiff y llyfr ei gyhoeddi nawr. Argh!!

Monday, August 14, 2006

Lluniau Newydd

Dych chi'n gallu gweld lluniau o'n taith ddiweddar ni i Barc Cenedlaethol Yosemite ar fy ngwefan Flickr. Fe daeth Rob a fi â'n nghyfnitheroedd i yr wythnos ddiwetha, gan eu bod nhw ddim yno o'r blaen, a gan ein bod hi'n byw yn eitha agos (rhyw ddwy a hanner awr o yrru).

Fe arhoson ni yn Groveland yn ystod y nos, tref sy'n hanner awr i ffwrdd o'r parc. Roedd hi'n daith wych, gyda llawer o heicio a golygfeydd hyfryd o rhaeadrau ac yn y blaen. Hefyd fe welon ni ddau arth! Fe welon ni un pan o'n ni'n gyrru ma's o'r parc y noson gyntaf--roedd e'n cerdded yn y stryd (ac wedyn yn rhedeg i ffwrdd, felly cawson ni olygfa dda ei ben ôl a dim llawer arall). Wedyn, y bore nesaf, roedd arth mewn dôl ar lan y stryd sy'n arwain i mewn i'r parc. Felly roedd ychydig o dagfa draffig ar y ffordd. Ond fe ges i lun o hwnna.

Sunday, July 30, 2006

Cwrs yn y Papur

Dw i'n dweud wrthoch chi, mae hi'n reit neis tu ma's. Tipyn bach o glaw, ond dim ond tipyn bach, a dim gwres uffernol. Ahhhh. Newidiad croeso.

Dw i wedi bod yn ymlacio ar ôl i'r Cwrs Cymraeg orffen. Os dych chi eisiau cipolwg ar y cwrs, darllenwch yr erthygl hon o'r papur newyddion Stockton. Dydy'r erthygl ddim yn grêt, ond mae hi'n rhoi blas ar y wythnos, ta beth.

Monday, July 24, 2006

Drosodd!!

Mae'r Cwrs wedi gorffen!! Haleliwia! Mae amser rhydd 'da fi drachefn. Ac heddiw mae hi'n 112F allan, felly dw i ddim yn teimlo fel gwneud dim byd o gwbl. Dydy ein AC ddim yn gweithio yn dda iawn mewn tywydd fel hyn felly mae'n 87F yn y ty. Ych-a-fi.

Friday, July 07, 2006

Dw i'n Ol!

O'r diwedd dw i wedi cael cyfle i ymarfer a dysgu ar gyfer y Cwrs Cymraeg sy'n dod yn fuan. Dw i wedi rhoi sawl gwersi BBC Catchphrase ar fy iPod Shuffle a dw i wedi bod yn gwrando arnyn nhw wrth i fi ddefnyddio'r beic ymarfer. Adolygiad yw'r rhan fwyaf ohonynt, ond mae arnaf i angen adolygu.

Hefyd, dw i wedi dechrau darllen llyfr yn Gymraeg sy wedi bod gyda fi ers lawer dydd (ers yr Eisteddfod yn Llanelli yn 2000 â dweud y gwir) - Dim Ond Ti All Achub y Ddynoliaeth gan Terry Pratchett. Roedd ofn arna i am ddarllen y peth, achos fy mod i'n pryderu a oedd e'n rhy anodd i fi. Ond dydy e ddim. Wrth gwrs mae rhaid i fi ddefnyddio geiriadur o bryd i'w gilydd--iawn, sawl gwaith y dudalen--ond mae'n haws na'r Harri Potter yn Gymraeg. Llai o eiriau anghyffredinol.

Felly efallai bydda i'n barod i'r Cwrs. Newyddion arall: mae 'ngwallt i'n fyr a choch tywyll - gwelir y cartwn ar y dde. Hoffwn i fynd i rafftio cyn i'r haf wedi gorffen--mae rafft bach 'da ni. Ond does dim mynyddoedd fel 'na lle dyn ni'n rafftio.

Sunday, June 25, 2006

O'r Diwedd

Wel dyma fi, o'r diwedd, yn blogio yn Gymraeg unwaith eto. Mae pethau wedi bod mor brysur yma, dw i ddim yn gallu ei esbonio. Ar hyn o bryd dw i'n ymweld â fy mam a llysdad yn Ne California, lle mae hi'n uffernol o boeth. Wrth gwrs, mae hi'n uffernol o boeth ar hyn o bryd ym Modesto, hefyd, ond heb cymaint o smog.

Bydd fy mam yn dod i'r Cwrs Cymraeg eleni gyda fi. Mae hi mor dalentog gyda'r ieithoedd. Fe rhoiais i Teach Yourself Welsh gyda tapiau iddi hi, rhag ofn iddi hi eisiau edrych drostyn nhw cyn y cwrs er mwyn ddim bod yn lefel 1. Ac wrth gwrs mae hi wedi gwneud cardiau flash, a prynu CDiau arall i ymarfer, a nawr mae hi'n gallu siarad yn eitha da ar ôl cwpwl o fisoedd. Wrth gwrs. Ddylwn i ddim bod yn synnu. Mae'r ieithoedd yn eitha hawdd iddi hi, mae'n ymddangos. Dw i'n meddwl ei bod hi'n mynd i fyny i lefel 3 neu 4 (mae 7 lefel), yn wir.

A fi...os dw i ddim yn ofalus, bydda i'n mynd i lawr i lefel 5+. Dw i wedi bod yn astudio tipyn bach yn ddiweddar, yn gyffredinol pan dw i ar y beic ymarfer (??): "Adeiladwyd....y....castell....gan....(ffîw)...Edward I...."

Saturday, June 03, 2006

Lluniau o'r Dwyrain Pell

Os dych chi'n clicio yma, fe allwch chi weld casgliad eitha mawr o luniau o Tseina. Cafodd y rhan fwyaf ohonyn nhw eu tynnu gan fy ngwr, achos fy mod i'n ffilmio pethau gyda camera fideo. Dw i ddim wedi gweld y ffilm eto, ond mae ofn arna i fod y peth yn jiggly.

Dw i'n pryderu tipyn bach oherwydd y cwrs sy'n dod cyn bo hir, ym mis Gorffennaf. Fe ddylwn i astudio bob dydd, ond mae cymaint o bethau i'w wneud gyda trefnu'r cwrs, gweithio, ysgrifennu...dw i'n gallu dim ond gwneud pethau fesul un a gobeithio bydd digon o amser i bopeth.

Sunday, May 21, 2006

Yn Ol Unwaith Eto

Dyn ni wedi dod yn ôl o Tseina, ac roedd hi'n daith arbennig o dda. Dim cyfle i ymweld a'r Lama Temple, yn anffodus--dywedodd llawer o bobl wrthon ni fod y Lama Temple yn un o'r golygfeydd mwyaf ysblennydd yn Beijing. Ond roedden ni ar daith dan arweiniad, felly roedd eisoes gormod o bethau ar yr amserlen. Dw i'n meddwl taw Guilin oedd fy hoff ran o'r daith--yn mynd i lawr yr afon mewn cwch mordaith a gweld y tirlun hyfryd iawn gyda mynyddoedd o garreg, coed bamboo, a niwl, fel y lluniau Tseiniaidd o'r hen oesoedd. Anhygoel.

Sunday, May 07, 2006

Ar y Gwyliau

Byddwn ni'n gadael ddydd Mawrth i'n taith ni i Tseina. Mae rhaid i fi bacio rhyw pethau eto, ac wedyn mynd i'r gwaith yfory. Dim ond dydd a hanner i ffwrdd! Dyn ni'n llawn cyffro, wrth gwrs. Dw i ddim yn siwr os galla i flogio yno, ond ceisiaf i.

Wednesday, April 26, 2006

Methu Astudio

Dw i'n anobeithiol. Does dim eriod digon o amser i astudio Cymraeg y dyddiau yma, heb son am amser i flogio. Dw i newydd bostio rhywbeth ar fy mlog Saesneg yn cwyno am y gwaith. Dw i wedi bod yn gweithio rhan amser ar prosiectau gyda'r Swyddfa Addysg. Hefyd, wythnos terfynol dosbarthiadau oedd yr wythnos 'ma, i fy ngwr. Felly roedd e'n marcio prosiectau celf drwy'r penwythnos, a ro'n i'n marcio paragraffau i'w ddosbarthiadau Art Appreciation ar-lein. (Marcwr unofficial ydw i, i Rob, ym maes paragraffau.) Dyn ni newydd orffen, ddoe.

Gyda'r mis prysur, doedd dim amser i baratoi am ein taith ni i Tseina mis nesaf. Mae rhaid i fi siopa am esgidiau newydd ar gyfer gerdded!

Friday, April 14, 2006

Yn Fy Mreuddwydion

Mae'n ymddangos y ddylwn i fod ym Mharis:

You Belong in Paris
You enjoy all that life has to offer, and you can appreciate the fine tastes and sites of Paris.
You're the perfect person to wander the streets of Paris aimlessly, enjoying architecture and a crepe.

Diolch i Rhys.

Friday, April 07, 2006

Cymro Saesneg?

"Welsh" yw ei enw, mae e'n hoff iawn o gwrw a rygbi, ond mae'r erthygl 'ma yn dweud ei fod e'n Sais. Wel, wedi cael ei eni yn Loegr, ta beth. Hefyd mae e yma yn yr UDA nawr, felly mae e'n Americanwr yn fy marn i! :) Gobeithio y bydda i'n cofio gwylio'r rhaglen heno. Dw i ddim yn ei gwylio fel arfer (dim ond tra dw i'n tacluso'r ty, er enghraifft).

Monday, March 20, 2006

Ymlacio

Roedd ein taith ni i Seattle yn bendigedig. Fe aethon ni yno y penwythnos diwetha i ymweld a ffrindiau. Beth wnaethon ni? Wel, gan amlaf, yfed cwrw, canu karaoke, bwyta, a chwarae yn y parc (dim ar yr un pryd, wrth gwrs). Noson Wener, fe aethon ni i dy bwyta pizza, ac wedyn fe sleifion ni alcohol i mewn i lle karaoke er mwyn gael parti bach yn ein stafell yno. Roedd chwech ohonon ni, a canon ni i gyd cwpwl o ganeuon yr un.

Ddydd Sadwrn, fe hwylion ni ar y fferi i Ynys Bainbridge i gyfarfod â ffrind arall yn nhref fach bert arfordirol o'r enw Port Townsend. Fe gawson ni ginio mewn tafarn; fe gerddon ni o gwmpas siopau a strydydd y dref, ac wedyn fe aethon ni i Fort Warden State Park i daflu pêl o gwmpas a mwynhau'r ffaith bod dim glaw.

Yn y noson, fe aethon ni i dafarn arall o'r enw McMurphy's, lle roedd karaoke yn rhad ac am ddim. Ond roedd hynny'n antur hefyd. Bore Sadwrn, fe aeth Rob a fi yn rhedeg yn Seward Park gyda Chloe, yn mwynhau'r tywydd braf (ond oer), ac wedyn fe gawson ni brunch gwych a tro ym mharc arall. Roedd hi'n daith yn hollol hyfryd.

Thursday, March 09, 2006

Teithio

Y penwythnos 'ma byddwn ni'n mynd i Seattle i ymweld â ffrindiau o'r dyddiau prifysgol. Dyn ni'n gadael yfory (dydd Gwener). Mae'r hediad yn llai na dwy awr, a byddwn ni'n cyrraedd yn hwyr yn y prynhawn. Felly, swper yn gyntaf, efallai. Ddydd Sadwrn dw i'n credu yr awn ni i gyd i deithio o gwmpas un o'r ynysoedd yno yn Puget Sound. Y noson hynny, fe awn ni i ganu karaoke yn rhywle. Prynhawn Sul byddwn ni'n dod yn ôl. Dyn ni'n edrych ymlaen at y daith!

Thursday, March 02, 2006

Byth Eto

 dweud y gwir, er mod i'n hoff iawn o'r Cwrs Cymraeg a dw i'n dysgu llawer yn trefnu pethau eleni, dw i'n gobeithio fydd dim rhaid i fi wneud rhywbeth fel hyn eto. Mae'n teimlo'n hollol amhosib cadw fy llygaid ar bopeth--y trefnyddion arall, yr amserlen, neilltuadau'r stafelloedd, a phob newid bach sy'n dod ymlaen ar y ffordd i fis Gorffennaf. I fod yn onest, yn y dyfodol dw i'n gobeithio cael cynlleied o gyfrifoldeb ag sy'n bosib!

A llywydd! Doedd dim bwriad 'da fi fod yn llywydd eleni, chwaith, ond beth i wneud amdani? Dim ond gweithio'n galed.

Esgusodwch fi. Dw i mewn tymer heddiw. Mae gormod i'w wneud, a dw i'n grac achos bydd rhaid i ni dalu trethi eleni yn lle cael ad-daliad, a dw i'n grac hefyd achos ceisias i gael ffurflen 505 (Estimated Tax) o'r swyddfa IRS heddiw ond doedd dim un gyda nhw ac roedd ciw ofnadwy. A dw i'n dal i fod yn eitha blinedig ar ôl wedi bod yn sâl gyda annwyd yr wythnos ddiwetha.

Nawr te, 'nol i weithio ar ein blog llenyddiaeth i bobl ifanc--gwnewch yn sicr edrych ar y categoriau, ein bod ni wedi rhoi ar y chwith, diolch i Furl.net. Dw i'n falch iawn. Dyn ni ddim wedi gorffen rhoi categoriau i bob post, eto, ond mae'n wych ta beth.

Wednesday, February 22, 2006

Ty Bach

Dw i'n aros am y plymer sy'n gwneud rhyw cyweiriadau i'n stafell 'molchi ni. Yn ffodus, y stafell 'molchi gwestai ydy'r un sydd angen y pibelli newydd. Mae popeth yn iawn gydag ein ty bach yn y stafell wely, diolch byth.

Mae llawer o bethau wedi bod yn cael eu trwsio yn ein ty ni y dyddiau yma. Mae 'da ni llawr newydd yn y gegin, gyda linoliwm neis iawn. (Bydd ffotos ar fy mlog arall yn Saesneg cyn bo hir.)

Tasg enfawr ydy bod yn llywydd grwp Cymraeg. A hefyd, yn trefnu cynhadledd.

A heddiw, dw i ddim yn teimlo'n dda iawn. Yr wythnos ddiwetha, roedd Rob yn sal tipyn bach. Gobeithio dw i ddim wedi dal y peth. Ro'n i'n tisian drwy'r bore. Mae'r tywydd wedi bod yn eitha ffres--yn y 40au a'r 50au--ond dw i'n teimlo'n oer er bod y twymydd yn dweud bod hi'n 70 yn y ty. Hefyd, dw i ddim yn gallu cofio geirfa Gymraeg o gwbl. Druan a fi.

Monday, February 13, 2006

Ychwanegu Eich Geirfa

Mae Scrabble yn Gymraeg ar gael unwaith eto oddiwrth gwales, wedi iddo werthu'n llwyr dros y Nadolig (yn ôl yr e-lythyr Cyngor Llyfrau Cymru).

Saturday, February 11, 2006

Gol!

Neithiwr fe aethon ni, gyda ein ffrind Carlos, i weld gêm pêl-droed "cyfeillgar" yn San Francisco rhwng yr UDA a Siapan. Roedd y gêm, yn SBC Park (lle mae'r Giants yn chwarae) yn wych. Roedd llawer o gefnogwyr Siapanaidd yno, yn gweiddi ac yn y blaen, ac wrth gwrs ffans ffôl Americanaidd gyda baneri a pobl a peintiodd eu bolau neu'r wynebau.

Fe ennillodd yr UDA 3 - 2, a roedd y gêm yn llawer mwy cyffrous na'r un yn erbyn Norwy cwpwl o wythnosau'n ôl. Mae'r tîm Siapanaidd yn gyflym iawn ac yn heini. Ond, yn edrych ymlaen at Cwpan y Byd, dw i'n credu bod siawns da iawn gydag ein tîm ni, i gyrraedd o leiaf yr un lle roedden ni wedi cael yn 2002.

Fe wisgon ni ddillad gyda'r Earthquakes arni, i ddathlu/galaru am ein tîm wedi marw. Druan â ni. Roedd Anschutz Entertainment Group--gelyn pob cefnogwr San Jose bellach--wedi symud y tîm i Houston, Texas. Mae'r stori yn hir, ac yn drust.

Sunday, February 05, 2006

Iechyd Da!

Do'n i ddim yn gwybod bod 'na Sefydliad Cwrw, ond dyna eu wefan masnachol nhw. Dw i newydd weld hysbyseb ar y teledu (yn ystod y Super Bowl, hefyd) gyda sawl pobl wahanol yn dweud "cheers" yn eu mamieithoedd. A, dyna syndod, roedd tîm rygbi Cymreig neu rhywbeth fel 'na yn gweiddi "Iechyd da!" Shiver me timbers. Dych chi'n gallu gwylio'r hysbyseb ar y wefan (cliciwch ar "The Theater" ac wedyn "Slainte"). O'r diwedd, Cymraeg i bobl Americanaidd.

Monday, January 30, 2006

Dw i Yn Ol...

...Ar ôl ymweliad i'r teulu yn Ne California. Fe welon ni (fi a'r gwr) gêm pêl-droed rhwng yr U.D.A. a Norwy. Fe ennillodd yr U.D.A. 5 i 0. Roedd e'n wych, wrth gwrs, ond dim mor cyffrous a roedd hi'n gallu wedi bod. Fe gafodd Taylor Twellman hat trick. Hefyd sgoriodd Eddie Pope a Chris Klein.

Dw i wedi argyhoeddi fy mam i ddod i'r Cwrs Cymraeg eleni. Mae hi'n hoff iawn o ieithoedd, fel fi, felly, dw i'n siwr y bydd hi'n mwynhau'r cwrs. Mae lot o egni 'da hi--perffaith ar gyfer wythnos llawn dop gweithgareddau Cymraeg. Bydda i wedi rhedeg mas o egni erbyn hynny, ar ôl helpu trefnu cymaint o'r peth!

Thursday, January 19, 2006

Fforwm Ar-lein Newydd

Ro'n i'n ymweld â fy hen wefan am yr iaith Gymraeg am rhyw rheswm, ac roedd yn ddiddorol gweld bod neb yn ei diweddaru hi. (Wrth gwrs, pwy sy eisiau treulio amser gyda'r ymchwil ac ysgrifennu drwy'r amser heb cael ei dalu? Mae'n anodd. Ro'n nhw fy nhalu i, ond wedyn fe stopion nhw dalu eu cyfrannwyr i gyd--dyna annheg.)

Eniwe, dwi'n gorfod bod yn seiceg (ha!) achos postiodd rhywun rhywbeth dim ond dyddiau yn ôl, am fforwm o'r enw Taffia.org--i Gymry Cymraeg ac i ex-pats hefyd. Roedd yn ddiddorol sylwi ar y gwahaniaeth rhwng y cyflwyniad Saesneg a'r cyflwyniad Cymraeg...rhywbeth am y bola cwrw sy'n gweld eisiau yn y fersiwn Saesneg...

Wednesday, January 18, 2006

Cerddoriaeth y Cymry yn Carolina

Oes unrhywun yn byw yng Gogledd Carolina? Bydd Robin Huw Bowen ac Eiry Palfrey yn perfformio yno ym Mhrifysgol Gogledd Carolina Wilmington, ym mis Ebrill. Mwy o wybodaeth yma.

Tuesday, January 17, 2006

Y Diweddaraf

Beth dw i wedi bod yn gwneud yn ddiweddar? Dim blogio, dyna sicr. Tipyn bach ar fy mlog yn Saesneg, ond dim llawer yn y Gymraeg. Felly dyma rhywbeth.

A dweud y gwir, ysgrifennais i lythyr i fy ffrind Mark, sy'n dysgu Cymraeg (fel athro) yn Abertawe, a dw i wedi bod yn gweithio'n galed dros Cymdeithas Madog (dw i'n helpu cynllunio'r cwrs haf eleni yn California). Ond dim llawer o ymarfer, sef gwrando ar Radio Cymru o bryd i'w gilydd dros y we.

Ond mae pethau'n brysur, weithiau. Yn anffodus, dydy astudio Cymraeg ddim yn flaenoriaeth uchel drwy'r amser. Mae'n anodd iawn gweithio fel freelancer ac yn wneud llawer o bethau gwahanol - pethau celfydd, tipyn o waith amcanu ac wrth gwrs ysgrifennu. Mae'n anodd cadw pethau fel hyn mewn trefn yn fy mhen i, heb son am geirfa Cymraeg! Y semester yma, mae fy ngwr yn dysgu dau ddosbarth Art Appreciation ar-lein gyda'r coleg, a bydda i'n graddio (?) paragraffau'r myfyrwyr bob yn ail wythnos. Mae Rob yn graddio'r cwisiau ac yn postio ar fwrdd bwletin y dosbarth. Hefyd, wrth gwrs, mae e'n dysgu Color & Design a Drawing II, fel arfer.

Dw i'n gobeithio dechrau prosiect dylunio safle we i fy rhieni-yng-nghyfraith, sy'n cael swyddfa cyfraith. Bydd hyn yn gyfle da i 1) diweddaru ein safle we, a 2) creu safle we fel sampl o'r gwaith mod i'n gallu gwneud ar gyfer celfyddwyr ac awduron. Dw i wedi bod yn bwriadu cynnig package deal dylunio wefannau i bobl fel hyn--dw i'n gallu dylunio wefan syml, ond hefyd, dw i'n gallu gweithio gyda graphics, ac ysgrifennu/golygu web copy. Ro'n i'n meddwl y fydd hynny'n waith eitha da, efallai, o bryd i'w gilydd, pan fydd y bywyd ysgrifennu ddim yn lwcus iawn.

Sunday, January 08, 2006

Blwyddyn Newydd Dda

Dw i jyst wedi gorffen teipio post cyntaf y flwyddyn newydd a roedd problem gyda Firefox, a fe gollais i'r holl bost. Mae hynny'n gythruddol iawn, dw i'n dweud wrthoch chi.

Gobeithio mae'r flwyddyn newydd yn dda i chi hyd yn hyn. Mae pethau yn eitha da yma. Fe ges i gerdyn post oddiwrth fy hanner-chwaer yn Awstralia (gweler fy mlog yn Saesneg am fwy o fanylion amdani hi). Mae hi a'r teulu ar eu gwyliau yn Port Macquarie. Does dim syniad 'da fi ble mae e, ond mae'n gyffrous ta beth. Dw i'n meddwl am ei hanfon hi CD neu albwm bach yn fuan gyda sawl luniau ohonon ni.

Mae pethau arall yn mynd ymlaen. Dw i'n dal i gynllunio'r Cwrs Cymraeg, a dw i'n gohirio am ysgrifennu fy nofel. Ond mae penderfyniad y flwyddyn newydd 'da fi i orffen y peth ym misoedd cynnar y flwyddyn--drafft cyntaf, ta beth. Hefyd dw i'n penderfynu defnyddio ein beic ymarfer newydd--anrheg o Santa--pedair waith yr wythnos o leiaf. Dyn ni'n hoff iawn o'r beic, achos dyn ni'n gallu ei ddefnyddio fe pan mae hi'n bwrw glaw, neu pan mae'n dywyll tu allan.

Gobeithio y gawsoch chi i gyd gwyliau gwych!

Monday, December 19, 2005

Darllenwyr, Dyma Fi.

Ie, jyst fan 'na, ar y dde. Mewn ffurf cartwn, diolch i Yahoo. Mae'n fwy bert na fersiwn fi sy ar y gêm fideo SSX On Tour--pan prynon ni'r gêm, fe geision ni (fi a'r gwr) ddefnyddio'r system creu cymeriadau i greu...ni. Neu, cyn agos i ni â phosib. Ond mae'r cymeriadau 'na ar SSX yn eitha "edgy" neu rhywbeth. Does dim wyneb yn addas i fi â dweud y gwir. Wrth gwrs, gyda'r cartwn Yahoo 'ma, dw i'n edrych fel mod i mewn cartwn Siapanaidd.

Wednesday, December 14, 2005

Te a Teledu

Dw i wedi bod yn bwriadu postio cwpwl o gysylltiadau newydd, a dyma fi yn ei wneud o'r diwedd. Yn gyntaf, mae wefan newydd gyda fy ffrind y bardd Shin Yu Pai. Mae'r wefan yn wych, gyda oriel ei ffotos a rhestr ei darlleniadau. Bydd hi'n darllen ei barddoniaeth mewn caffe o'r enw Tebot Bach Ddydd Gwener, yn Huntington Beach. Do'n i ddim yn gwybod bod Ty Te Cymreig yno. Dw i ddim yn gallu gyrru i lawr y penwythnos yma, yn anffodus, ond os mae rhywun yn darllen y blog 'ma sy'n byw yn De California, ewch! Te a barddoniaeth--ydy unrhywbeth yn fwy Cymreig?

Ydy rhai ohonoch chi'n dilyn opera sebon? Dych chi eisiau One Life to Live? Nid fi. Ond mae ffrind i fi, Jaime (aka MeiMei), sy'n gweithio fel golygydd sgriptiau gyda'r cyfres. Yn ddiweddar fe gafodd hi gyfle ysgrifennu blog ffug gan cymeriad gyda dwy bersonoliaeth. Dw i'n gwybod mwy am y sioe bellach. Efallai gormod.

Monday, December 05, 2005

Newyddion Da

Fe ennillais i'r drydydd wobr yn y cystadleuaeth Smartwriters.com am stori fer i bobl ifanc! Hwre! Fe ennillodd fy stori "This Is Jane" y drydydd wobr yn categori straeon ar gyfer pobl yn eu harddegau. Mae hynny'n gyffrous achos bydd y straeon i gyd sy wedi ennill wobrau yn cael eu cyhoeddi mewn antholeg yn 2007. Dyma'r tro cyntaf i fi gael rhyw darn o ffuglen ei cyhoeddi.

Hefyd, mae gan cyhoeddwr arall ddiddordeb yn fy nofel i. Anfonais i lythyr ym mis Hydref a fe ges i lythyr oddi wrthyn nhw ddydd Sadwrn, yn dweud eu bod nhw'n hapus darllen fy llawysgrif llawn. Mae rhyw pobl yn cnoi ar y peth--efallai bydd rhywun ei eisiau. Am fwy o fanylion, gwelir fy mlog yn Saesneg.

Wednesday, November 30, 2005

Mae'r Mis Bron Gorffen...

...a dw i heb cyrraedd 50,000 o eiriau ar gyfer NaNoWriMo. (I weld cymaint yn union dw i wedi gorffen, gweler yma.) O wel. Dw i wedi gwneud fy ngorau glas. Does dim rhaid dweud fy mod i ddim wedi bod yn astudio Cymraeg yn ddiweddar--gormod o ysgrifennu. Ond! Anfonais i stori fer i gystadleuaeth yr Academi i ddysgwyr.

Wednesday, November 16, 2005

Ysgrifennu...ac Ysgrifennu

Dw i'n cymryd rhan yn National Novel Writing Month ym mis Tachwedd eleni. Rhaid i fi orffen 50,000 gair erbyn 30 Tachwedd. Dw i wedi gorffen rhyw 13,000 erbyn hyn. Mae'n tipyn o hwyl achos dw i'n arfer cynllunio pethau cyn dechrau, ond y tro 'ma mae rhaid i fi jyst ysgrifennu, ac yn gyflym! Dim llawer o feddwl neu poeni am bethau (tan nes ymlaen ta beth). Roedd syniad newydd 'da fi, ac doedd fy prosiect arall (hanner wedi gorffen) ddim yn mynd ymlaen, felly penderfynais i rhoi ymgais.

Erbyn heddiw, roedd rhaid i fi ysgrifennu "flow chart" i lawr, rhag ofn i fi fod mewn penbleth. Mae pethau'n rhy cymhleth i fi beidio cymryd nodiadau.

Monday, November 07, 2005

O'r Diwedd!

Wel, heddiw mae hi'n gymylog a ffres yma; mae'r hydref wedi dod o'r diwedd. Hydref yw fy hoff dymor--y dail yn newid lliw, dim gwres annioddefol, a gwyliau fel y Diolchgarwch gyda llawer o fwyta. Dw i'n hoffi Nos Calan Gaeaf, hefyd, a cerfio pwmpenni.

Wnes i ddim byd yn arbennig ar Nos Calan Gaeaf, yn anffodus. Gwyliais i ffilmau gyda ffrind, a rhoion ni losins i'r plant a ddaeth wrth y drws. Gwisgais i wisg sugnwr gwaed, gyda ffangs a diferyn gwaed o finlliw--pethau oedd gyda fi yn y ty. A cafodd un plentyn bach ofn! Ha! Roedd yn flin 'da fi, ta beth.

Mae cystadleuaeth stori fer yn cael ei chynnal gan yr Academi a Lingo Newydd--cystadleuaeth i ddysgwyr--a dw i'n meddwl am gystadlu. Os bydd digon o amser 'da fi yr wythnos 'ma, hynny yw. Dw i'n ysgrifennu erthygl i'r cylchgrawn alumni Mills College, am alumna ddiddorol sy'n dysgu peintio yn y coleg yn Modesto. Fydda i ddim yn cael fy nhalu am hynny, ond mae'n brofiad da.

Saturday, November 05, 2005

Drwg.

Dim blogio ers talwm! Dw i'n anobeithiol. Dw i'n addo postio rhywbeth yn fuan.