Tuesday, May 31, 2005

Hwre am Astudio!

Ie, dw i'n geek enfawr. Ond dw i'n hapus fy mod i'n gallu ffeindio amser i ddysgu Cymraeg. Dw i 'di bod mor brysur y dyddiau yma; doedd dim lot o gyfle i fi fwyta neu cysgu, heb son am astudio Cymraeg.

Yn y wythnosau diweddar, dw i wedi bod yn adolygu rhai o'r taflenni Get Fluent. Daliais i'n llwyr y geirfa am aelodau'r teulu a phethau eich bod chi'n gwneud ar eich gwyliau. Dw i ar fin adolygu'r geiriau am fwydydd--pwysig iawn, gan mod i'n hoff iawn o'r bwyd. A dw i wedi dechrau darllen llyfr bach o'r enw Hanesion Hyll: Y Celtiaid Cythryblus, a brynais i mewn pabell Cyngor Llyfrau Cymraeg yn ystod Eisteddfod Cenedlaethol 2000 yn Llanelli. Hwre! Dw i'n ei ddarllen e o'r diwedd! Ar ôl hynny, mae 'da fi lyfr i bobl ifanc gan Terry Pratchett, yn Gymraeg, a brynais i yn yr un lle. Ond hefyd, dw i'n chwennych mwy o lyfrau "Cam at y Cewri" (Gomer Press)--nofelau enwog wedi cael eu haddasu i ddysgwyr. Mae 'da fi O Law i Law gan T. Rowland Hughes ac roedd e'n wych.

Monday, May 23, 2005

Os i ddechrau, dych chi ddim yn llwyddo...

...fel eu bod nhw'n dweud.

Mae'n swyddogol--clywais i oddi wrth yr asient heddiw, a dywedodd hi bod hi ddim yn ddigon brwdfrydig am lawysgrif fy nofel i bobl ifanc. Ochenaid mawr. Dau wrthodiad hyd yn hyn--druan ag Olwen.

Wednesday, May 18, 2005

Ych.

Ie, dw i'n flogwr drwg. Dw i 'di bod yn brysur dros ben, fel arfer, yn gweithio, a gweithio, a gweithio...A nawr, mae'n hen bryd i fi fynd yn ôl i'r laptop er mwyn dal i ysgrifennu fy nofel. Mae hi'n nofel newydd--fy ail nofel. Dw i'n dal i aros am yr asiant llenyddol am fy nofel cyntaf, The Other Olwen. *Ochenaid*... Dw i'n addo dysgrifio fy nofel newydd rhywbryd, ond am nawr, mae rhaid i fi weithio ar y peth.

Tuesday, May 03, 2005

'Nôl o'r Farwolaeth

Dw i'n gwybod, dw i ddim wedi bod yn blogio ers lawer dydd. Beth dw i 'di bod yn wneud? Wel. Yn gyntaf, ro'n i'n dost. Am wythnos. Ces i'r ffliw yn enedigol, ond wedyn troiodd hi i'r peswch. Bendigedig. Collais i bedwar diwrnod o waith, ac roedd gwres arnaf i dros y penwythnos. Dw i'n dal i gymryd yr antibiotics.

Y penwythnos yma, ro'n ni'n brysur dros ben. Treulion ni'r Nos Wener gyda rhieni Rob, yn gwylio gêm pêl-fasged ar y teledu. Yn y bore, fe aeth Rob a'i dad yn pysgota ar y môr i gael eogiaid. Yn y cyfamser, fe es i gyda mam Rob yn siopa am lyfrau yn Berkeley. Fe aethon ni i Barnes & Noble, Pegasus, Cody's, Moe's, a Shakespeare & Co. Roedd hi'n wych--fe brynais i bentwr llyfrau newydd, y cyfan ohonyn nhw llyfrau i bobl ifainc. Felly dw i'n "gwneud ymchwil ar gyfer fy ysgrifennu."

Ar ddydd Sul fe aeth Rob a fi gyda'i fam i weld y ffilm Hitchhiker's Guide, a oedd yn wych hefyd, a fe welon ni gefnder Rob yn actio mewn drama miwsig "A Funny Thing Happened on the Way to the Forum" gyda myfyrwyr eraill yn ei ysgol uwchradd. A nawr, dyn ni'n peintio tu allan ein tŷ ni. Mae llawer o bethau'n digwydd. Ond dw i wedi bod yn dysgu tipyn bach o Gymraeg hefyd!