Monday, December 19, 2005

Darllenwyr, Dyma Fi.

Ie, jyst fan 'na, ar y dde. Mewn ffurf cartwn, diolch i Yahoo. Mae'n fwy bert na fersiwn fi sy ar y gêm fideo SSX On Tour--pan prynon ni'r gêm, fe geision ni (fi a'r gwr) ddefnyddio'r system creu cymeriadau i greu...ni. Neu, cyn agos i ni â phosib. Ond mae'r cymeriadau 'na ar SSX yn eitha "edgy" neu rhywbeth. Does dim wyneb yn addas i fi â dweud y gwir. Wrth gwrs, gyda'r cartwn Yahoo 'ma, dw i'n edrych fel mod i mewn cartwn Siapanaidd.

Wednesday, December 14, 2005

Te a Teledu

Dw i wedi bod yn bwriadu postio cwpwl o gysylltiadau newydd, a dyma fi yn ei wneud o'r diwedd. Yn gyntaf, mae wefan newydd gyda fy ffrind y bardd Shin Yu Pai. Mae'r wefan yn wych, gyda oriel ei ffotos a rhestr ei darlleniadau. Bydd hi'n darllen ei barddoniaeth mewn caffe o'r enw Tebot Bach Ddydd Gwener, yn Huntington Beach. Do'n i ddim yn gwybod bod Ty Te Cymreig yno. Dw i ddim yn gallu gyrru i lawr y penwythnos yma, yn anffodus, ond os mae rhywun yn darllen y blog 'ma sy'n byw yn De California, ewch! Te a barddoniaeth--ydy unrhywbeth yn fwy Cymreig?

Ydy rhai ohonoch chi'n dilyn opera sebon? Dych chi eisiau One Life to Live? Nid fi. Ond mae ffrind i fi, Jaime (aka MeiMei), sy'n gweithio fel golygydd sgriptiau gyda'r cyfres. Yn ddiweddar fe gafodd hi gyfle ysgrifennu blog ffug gan cymeriad gyda dwy bersonoliaeth. Dw i'n gwybod mwy am y sioe bellach. Efallai gormod.

Monday, December 05, 2005

Newyddion Da

Fe ennillais i'r drydydd wobr yn y cystadleuaeth Smartwriters.com am stori fer i bobl ifanc! Hwre! Fe ennillodd fy stori "This Is Jane" y drydydd wobr yn categori straeon ar gyfer pobl yn eu harddegau. Mae hynny'n gyffrous achos bydd y straeon i gyd sy wedi ennill wobrau yn cael eu cyhoeddi mewn antholeg yn 2007. Dyma'r tro cyntaf i fi gael rhyw darn o ffuglen ei cyhoeddi.

Hefyd, mae gan cyhoeddwr arall ddiddordeb yn fy nofel i. Anfonais i lythyr ym mis Hydref a fe ges i lythyr oddi wrthyn nhw ddydd Sadwrn, yn dweud eu bod nhw'n hapus darllen fy llawysgrif llawn. Mae rhyw pobl yn cnoi ar y peth--efallai bydd rhywun ei eisiau. Am fwy o fanylion, gwelir fy mlog yn Saesneg.

Wednesday, November 30, 2005

Mae'r Mis Bron Gorffen...

...a dw i heb cyrraedd 50,000 o eiriau ar gyfer NaNoWriMo. (I weld cymaint yn union dw i wedi gorffen, gweler yma.) O wel. Dw i wedi gwneud fy ngorau glas. Does dim rhaid dweud fy mod i ddim wedi bod yn astudio Cymraeg yn ddiweddar--gormod o ysgrifennu. Ond! Anfonais i stori fer i gystadleuaeth yr Academi i ddysgwyr.

Wednesday, November 16, 2005

Ysgrifennu...ac Ysgrifennu

Dw i'n cymryd rhan yn National Novel Writing Month ym mis Tachwedd eleni. Rhaid i fi orffen 50,000 gair erbyn 30 Tachwedd. Dw i wedi gorffen rhyw 13,000 erbyn hyn. Mae'n tipyn o hwyl achos dw i'n arfer cynllunio pethau cyn dechrau, ond y tro 'ma mae rhaid i fi jyst ysgrifennu, ac yn gyflym! Dim llawer o feddwl neu poeni am bethau (tan nes ymlaen ta beth). Roedd syniad newydd 'da fi, ac doedd fy prosiect arall (hanner wedi gorffen) ddim yn mynd ymlaen, felly penderfynais i rhoi ymgais.

Erbyn heddiw, roedd rhaid i fi ysgrifennu "flow chart" i lawr, rhag ofn i fi fod mewn penbleth. Mae pethau'n rhy cymhleth i fi beidio cymryd nodiadau.

Monday, November 07, 2005

O'r Diwedd!

Wel, heddiw mae hi'n gymylog a ffres yma; mae'r hydref wedi dod o'r diwedd. Hydref yw fy hoff dymor--y dail yn newid lliw, dim gwres annioddefol, a gwyliau fel y Diolchgarwch gyda llawer o fwyta. Dw i'n hoffi Nos Calan Gaeaf, hefyd, a cerfio pwmpenni.

Wnes i ddim byd yn arbennig ar Nos Calan Gaeaf, yn anffodus. Gwyliais i ffilmau gyda ffrind, a rhoion ni losins i'r plant a ddaeth wrth y drws. Gwisgais i wisg sugnwr gwaed, gyda ffangs a diferyn gwaed o finlliw--pethau oedd gyda fi yn y ty. A cafodd un plentyn bach ofn! Ha! Roedd yn flin 'da fi, ta beth.

Mae cystadleuaeth stori fer yn cael ei chynnal gan yr Academi a Lingo Newydd--cystadleuaeth i ddysgwyr--a dw i'n meddwl am gystadlu. Os bydd digon o amser 'da fi yr wythnos 'ma, hynny yw. Dw i'n ysgrifennu erthygl i'r cylchgrawn alumni Mills College, am alumna ddiddorol sy'n dysgu peintio yn y coleg yn Modesto. Fydda i ddim yn cael fy nhalu am hynny, ond mae'n brofiad da.

Saturday, November 05, 2005

Drwg.

Dim blogio ers talwm! Dw i'n anobeithiol. Dw i'n addo postio rhywbeth yn fuan.

Wednesday, October 19, 2005

Prysur!!

Dw i'n brysur iawn y dyddiau yma, mae'n ymddangos. Sgrifennais i am y darlleniad ddydd Sadwrn diwetha ar fy mlog am lenyddiaeth i bobl ifanc. Darganfyddais i beth digwyddodd i hanner-chwaer o briodas a gafodd fy nhad cyn iddo fe gwrdd â fy mam. (Bydd mwy o fanylion am hynny ar aquafortis cyn bo hir.)

Ac mae newyddion da 'da fi--roedd y Swydd Fydd Dim yn Marw, wedi marw o'r diwedd. Dw i wedi cael llond bol o olygu graffiau dro ar ol dro. Ro'n i'n breuddwydio am graffiau. Dydy hynny ddim yn beth da. A ddoe, derbynais i sawl lyfrau am ysgrifennu (Writer's Market 2006, Roget's Superthesaurus, etc.) yn y post, a archebais i dro'n ôl. Dw i'n llawn cyffro bob amser pan dw i'n cael llyfrau newydd. Felly mae'n wythnos eitha da hyd yn hyn.

Monday, October 10, 2005

Pethau Llenyddol

Y penwythnos yma, bydda i'n gyflwynydd ar gyfer sawl awduron llyfrau i bobl ifanc a fydd yn darllen darnau eu nofelau. Bydd y digwyddiad hwn yn rhan o'r LitQuake yn San Francisco, a bydd y darlleniadau yn rhan o'r Lit Crawl, sy fel "literary pub crawl" noswaith Sadwrn. Am fwy o fanylion, gweler y post hwn ar fy mlog yn Saesneg.

Saturday, October 01, 2005

Breuddwyd....neu Hunllef?

Fe ges i freuddwyd eitha rhyfedd echnos. Dych chi'n gallu darllen amdano fe ar fy mlog yn Saesneg--does dim gobaith disgrifio fe yn Gymraeg, yn anffodus.

Yfory bydda i'n helpu gyda bwrdd y Cymdeithas Cymreig-Americanaidd Canol California yn y Gwyl Rhyngwladol yma yn Modesto. Wrth gwrs bydda i'n rhoi taflenni Cwrs Cymraeg i ffwrdd. Dw i ddim yn edrych ymlaen at eistedd wrth y bwrdd drwy'r dydd, ond does dim byd i'w wneud amdani. Bydd yn well 'da fi gerdded o gwmpas y parc, efallai yfed peint neu ddau, neu bwyta barbecue...efallai cyn i fi gael fy ngadwyno i'r bwrdd.

Wednesday, September 28, 2005

Sâl

Dw i'n sâl; dim byd arall i'w ddweud. Llawer o disian ac yn y blaen. Dim llawer o productivity. Dim llawer o Gymraeg, a dweud y gwir.

Tuesday, September 20, 2005

Sut Mae'r Tywydd?

Mae hi'n stormus fan 'ma. Taran, mellt, a glaw, glaw, glaw--yr holl beth. Tua ugain munud i bump, aeth y trydan i ffwrdd yn ein cymdogaeth, a daeth e ddim yn ôl tan hanner awr wedi chwech. Doedd fy nghyfrifiadur ddim yn hapus. Do'n i ddim yn hapus achos ro'n i ar ganol gweithio ar y cyfrifiadur. A ces i tipyn bach o bryder achos aeth Rob yn pysgota heddiw gyda ffrind o'r gwaith, mewn cwch ar afon, a doedd e ddim wedi ffonio eto. Ond ffoniodd e wedi'r cwbl a doedd dim golwg o'r storm lle roedd e'n pysgota, diolch byth.

Thursday, September 08, 2005

Blogiau Ychwanegol

Dw i newydd gael siawns i rhoi blogiau Rhys a Chris (hei, mae'n odli!) yn y rhestr ar yr ochr. Sori bois, dw i'n araf. Hefyd, dydy'r rhestr ddim yn archif terfynol blogiau Cymraeg, fel dych chi'n gallu gweld! Ond, os dych chi eisiau i fi bostio rhyw flog Cymraeg yma, gadewch i fi wybod os gwelwch yn dda. (Dim byd yn rhy ddadleuol! Nothing that's going to harsh my mellow!)

Monday, September 05, 2005

Drueni

Wel, er gwaethaf ymdrechion mawr y tîm Cymreig, mae Lloegr wedi ennill y gêm pêl-droed i parhau yn y qualifiers Cwpan y Byd. Chwaraeodd Cymru yn dda iawn, ac ymosodon nhw'n ddewr, ond sgoriodd Joe Cole beth bynnag. Mae'r dyn yn beryglus, does dim amau hynny.

A dweud y gwir, dyn ni'n hoffi gwylio tîm Lloegr hefyd, a dyn ni'n hoff iawn o Shaun Wright-Phillips yn arbenigol. Roedd y gêm yn gyffrous iawn. Ond y gêm yr oedden ni'n fwy pryderus amdani oedd y qualifier rhwng yr UDA a Mexico. Yn ffodus, roedd y canlyniad yn foddhaol...boddhaol iawn...

Sunday, August 28, 2005

Dwywaith yr Wythnos? Duw Annwyl, Beth Sy'n Bod ar y Byd?

Ymm, dw i jyst yn mwynhau eirinen wlanog blasus yr haf, yr haf sy ddim yn ein rhostio ni fel ar ddechrau'r mis. Wel...roedd hi'n boeth heddiw, ond dros yr wythnos diwetha roedd hi ddim ond yn yr 80au uchel/90au isel.

Wel, mae'n bryd i fi fynd i sgwrsio ar-lein gyda fy ngrwp ysgrifennu. Hwyl am y tro!

Tuesday, August 23, 2005

Gwyliau Gweithio

Wrth gwrs dw i wedi bod yn brysur dros ben dros fy "ngwyliau," ond mae tipyn bach o newyddion da 'da fi. Anfonais i stori i Catamaran Magazine ac atebon nhw gyda neges yn dweud y hoffen nhw weld rhyw newidiadau, ac ar ôl hynny, bydden nhw'n fodlon cael cipolwg arall arni hi. Dydy hynny ddim yn "nage!"

Tuesday, August 09, 2005

Adre Unwaith Eto...

Treuliais i ddau ddydd mewn cynhadledd ysgrifennu dros y penwythnos--cynhadledd ysgrifennu i blant ac arddegau. Roedd hi'n ...ddiddorol. Roedd llawer o'r darlithoedd yn anelu at ddechreuwyr, yn fy marn i, ac roedd sawl hefyd i awduron sy wedi cael eu cyhoeddu yn barod, ond dim ond ychydig i bobl yn y canol. Fel fi, er enghraifft--bobl sy ddim yn cael problemau gyda'r ysgrifennu neu'r syniadau, ond sy'n dal i drio cael eu cyhoeddu.

Ond roedd sawl golygwyr, asients, a.y.y.b. yno, yn siarad am beth sydd angen yn y byd cyhoeddwyr, ac roedd y darlithoedd yna yn fwy ddefnyddiol. Ta beth, bydda i'n postio manylion o'r cynhadledd cyn bo hir ar ein blog am lenyddiaeth i bobl ifanc. Os mae diddordeb 'da chi, dewch draw!

Wednesday, August 03, 2005

Llawn Cyffro!

Beth am ymweld â fy mlog yn Saesneg, er mwyn darllen am pethau diddorol oedd yn digwydd tu allan yn fy nghymdogaeth ddoe? Mae hyd yn oed llun gwael o'r llanastr--gyda'r heddlu a phopeth.

Monday, August 01, 2005

Pel-Droed...

Anghofiais i sôn am y trydydd person o Gymru a gwrddais i a fe dros yr wythnos yn Ohio: ffrind Cynog a Dewi oedd yn chwaraewr pêl-droed yng Nghymru ac hefyd yn Rio Grande. Fe ges i groeso cynnes oddi wrth Jason hefyd. Ond doedd dim cyfle i fi ofyn iddo fe am ei brofiadau ym myd pêl-droed, neu, wrth gwrs, brolio am ein tîm lleol. Efallai mae hynny'n beth da. Dyn ni'n stressed out am y posibilrwydd bod yr Earthquakes yn symud i rywle arall. Mae Rob yn tseco'r wefannau bob dydd i weld os bydd y tîm yn aros neu beidio.

Ar bwnc mwy llawen, ffeindiais i bapur wal blasus gyda John Terry i'w roi ar fy ngyfrifiadur. Ardderchog!

Wednesday, July 27, 2005

Yn ol yn California...

Ac mae'n boeth dros ben. Dyn ni wedi bod yn helpu chwaer Rob gyda peintio ei thy hi, ac does dim A/C ynddo ar hyn o bryd. Bydd rhywun yn dod cyn bo hir i rhoi A/C a central heat i mewn achos, fan 'ma, mae rhaid--mae hi'n boeth yn yr haf ac eitha oer yn y gaeaf (ond dim eira).

Y penwythnos 'ma, bydd dwy gyfnither yn dod i ymweld â ni--cyfnitheroedd bach--ifancach na fi, ta beth, bron 22 a 19. Gallen ni mynd yn rafftio ar yr afon Americanaidd yn Sacramento ddydd Sadwrn; dyn ni newydd brynu rafft ar eBay gyda padlau a phopeth. A bydden ni'n mynd â nhw i San Francisco neu Berkeley hefyd i gerdded o gwmpas, efallai siopa neu rhywbeth. (Ond mae'n gas 'da fi siopa...)

Aeth yr wythnos yn Ohio yn dda iawn. Roedd popeth yn brysur fel arfer ar y cwrs, ond er gwaethaf hynny, fe ges i siawns i redeg dwywaith (yn gynnar yn y bore, wrth gwrs--ych-a-fi). Roedd llawer o bobl newydd ar y cwrs, ac roedd hi'n neis iawn cwrdd â nhw. Hefyd, fe gwrddais i am Dewi a Cynog, myfyrwyr o Gymru oedd yn astudio yna yn Rio Grande (shwmae, Dewi a Cynog!) a fe ges i groeso cynnes oddi wrthyn nhw hefyd. Ar y diwedd, roedd hi'n wythnos gwych. Ond mae gormod o leithder yn Ohio, yn fy marn i. Mae'n well 'da fi wres sych fel yma, er bod y tymheredd wedi bod yn y 100oedd (YCH).

Saturday, July 16, 2005

Cyffrous!

Wel, heno bydda i'n teithio i Ohio, er mwyn fynd i'r Cwrs Cymraeg dros yr wythnos nesa. Bydd hynny'n wych, ond prysur hefyd. Bydd llawer o weithgareddau yn ystod yr wythnos, a llawer o gyfle i siarad Cymraeg. Dw i'n nerfus achos dw i ddim yn cael cyfle i ymarfer sgwrsio yn aml drwy'r flwyddyn. Dw i wedi bod yn ymarfer siarad â fy hun, wrth gwrs, ond dw i ddim yn siwr os mae hynny'n cyfri...

Friday, July 08, 2005

Beth Sy'n Digwydd?

Dw i mor brysur. Dw i'n gwybod mod i wedi dweud hynny o'r blaen, dro ar ôl tro. Dw i newydd cael cyfle i ddechrau flashcards newydd--dw i'n gwneud cardiau bychan mod i'n gallu rhoi ar binder ring, fel fersiwn y rhain o waith cartref. Mae cwpwl o'r rheina 'da fi ond do'n i ddim yn gwybod ble i ddod o hyd i fwy. Wel nawr dw i'n gwybod, wrth gwrs, ar ôl i fi dorri sawl cardiau mewn pedwar, rhoi tyllau ynddyn nhw, a.y.y.b. yn barod. Mae'n nhw'n rhad, hefyd. Rhaid i fi wedi chwilio ar-lein yn gynt. Doh.

Thursday, June 30, 2005

Cymry yn California

Ro'n i'n chwilio am wybodaeth ynglyn â hanes y Cymry yn California, a des i o hyd i'r wefan 'ma gan y Census. Pwy oedd yn gwybod?

Saturday, June 18, 2005

Newyddion am Gernyweg

Clywais i am erthygl ddiddorol oddiwrth rhestr Welsh-L yr wythnos yma--mae llywodraeth Prydain Fawr yn rhoi rhyw 240,000 o bunnau dros gynnal ac ailgodi yr iaith Cernyweg. Wrth gwrs fe galonogir actifyddion yr iaith.

Dw i'n dal i astudio Cymraeg. Mae ofn arnaf mod i'n anghofio gormod i aros yn lefel 6 eleni ar y Cwrs. Ond dw i'n dweud hynny bob blwyddyn. Cawn ni weld.

Friday, June 10, 2005

Mynd Ymlaen...

Wel, dw i'n dal i astudio, wrth gwrs. Mewn ychwanegiad (?) i'r taflenni Get Fluent a'r Celtiaid Cythryblus (gwelwch yn isod), nawr dw i'n adolygu fy llawlyfr Catchphrase hefyd. Llyfr o'r hen gyfres ydy e, dw i'n credu, ond mae'r sgyrsiau a'r ymarferion yn ddefnyddiol iawn. Ac mae tâp sy'n dod gyda'r llyfr, bod fy mam wedi ei droi yn grynoddisg. Felly dw i'n gallu ymarfer fy sgiliau gwrando a deall. Mae hynny'n bwysig i fi achos dw i eisiau gallu sgwrsio'n well, a mwynhau ffilmiau Cymreig heb rhaid edrych ar yr is-teitlau drwy'r amser!

Tuesday, May 31, 2005

Hwre am Astudio!

Ie, dw i'n geek enfawr. Ond dw i'n hapus fy mod i'n gallu ffeindio amser i ddysgu Cymraeg. Dw i 'di bod mor brysur y dyddiau yma; doedd dim lot o gyfle i fi fwyta neu cysgu, heb son am astudio Cymraeg.

Yn y wythnosau diweddar, dw i wedi bod yn adolygu rhai o'r taflenni Get Fluent. Daliais i'n llwyr y geirfa am aelodau'r teulu a phethau eich bod chi'n gwneud ar eich gwyliau. Dw i ar fin adolygu'r geiriau am fwydydd--pwysig iawn, gan mod i'n hoff iawn o'r bwyd. A dw i wedi dechrau darllen llyfr bach o'r enw Hanesion Hyll: Y Celtiaid Cythryblus, a brynais i mewn pabell Cyngor Llyfrau Cymraeg yn ystod Eisteddfod Cenedlaethol 2000 yn Llanelli. Hwre! Dw i'n ei ddarllen e o'r diwedd! Ar ôl hynny, mae 'da fi lyfr i bobl ifanc gan Terry Pratchett, yn Gymraeg, a brynais i yn yr un lle. Ond hefyd, dw i'n chwennych mwy o lyfrau "Cam at y Cewri" (Gomer Press)--nofelau enwog wedi cael eu haddasu i ddysgwyr. Mae 'da fi O Law i Law gan T. Rowland Hughes ac roedd e'n wych.

Monday, May 23, 2005

Os i ddechrau, dych chi ddim yn llwyddo...

...fel eu bod nhw'n dweud.

Mae'n swyddogol--clywais i oddi wrth yr asient heddiw, a dywedodd hi bod hi ddim yn ddigon brwdfrydig am lawysgrif fy nofel i bobl ifanc. Ochenaid mawr. Dau wrthodiad hyd yn hyn--druan ag Olwen.

Wednesday, May 18, 2005

Ych.

Ie, dw i'n flogwr drwg. Dw i 'di bod yn brysur dros ben, fel arfer, yn gweithio, a gweithio, a gweithio...A nawr, mae'n hen bryd i fi fynd yn ôl i'r laptop er mwyn dal i ysgrifennu fy nofel. Mae hi'n nofel newydd--fy ail nofel. Dw i'n dal i aros am yr asiant llenyddol am fy nofel cyntaf, The Other Olwen. *Ochenaid*... Dw i'n addo dysgrifio fy nofel newydd rhywbryd, ond am nawr, mae rhaid i fi weithio ar y peth.

Tuesday, May 03, 2005

'Nôl o'r Farwolaeth

Dw i'n gwybod, dw i ddim wedi bod yn blogio ers lawer dydd. Beth dw i 'di bod yn wneud? Wel. Yn gyntaf, ro'n i'n dost. Am wythnos. Ces i'r ffliw yn enedigol, ond wedyn troiodd hi i'r peswch. Bendigedig. Collais i bedwar diwrnod o waith, ac roedd gwres arnaf i dros y penwythnos. Dw i'n dal i gymryd yr antibiotics.

Y penwythnos yma, ro'n ni'n brysur dros ben. Treulion ni'r Nos Wener gyda rhieni Rob, yn gwylio gêm pêl-fasged ar y teledu. Yn y bore, fe aeth Rob a'i dad yn pysgota ar y môr i gael eogiaid. Yn y cyfamser, fe es i gyda mam Rob yn siopa am lyfrau yn Berkeley. Fe aethon ni i Barnes & Noble, Pegasus, Cody's, Moe's, a Shakespeare & Co. Roedd hi'n wych--fe brynais i bentwr llyfrau newydd, y cyfan ohonyn nhw llyfrau i bobl ifainc. Felly dw i'n "gwneud ymchwil ar gyfer fy ysgrifennu."

Ar ddydd Sul fe aeth Rob a fi gyda'i fam i weld y ffilm Hitchhiker's Guide, a oedd yn wych hefyd, a fe welon ni gefnder Rob yn actio mewn drama miwsig "A Funny Thing Happened on the Way to the Forum" gyda myfyrwyr eraill yn ei ysgol uwchradd. A nawr, dyn ni'n peintio tu allan ein tŷ ni. Mae llawer o bethau'n digwydd. Ond dw i wedi bod yn dysgu tipyn bach o Gymraeg hefyd!

Tuesday, April 12, 2005

Beiblau Sanctaidd, Batman!

Heddiw gwnes i rhywbeth ddiddorol--rhywbeth Cymreig, hefyd: gwnes i dâp i rhywun a ofynodd i fi ddarllen fersys Beibl iddo fe, er mwyn iddo fe eu dysgu nhw cyn gwasanaeth yn ei eglwys. Felly, darllenais i Ioan I: 1-5 ar y tâp--mewn cyflymder normal yn gyntaf, ac wedyn yn arafach. Roedd y dyn yn defnyddio hen Beibl ei hen-daid a'i hen-nain, felly roedd hi'n fersiwn traddodiadol. Gwych!

Wednesday, March 30, 2005

Ysgrifennu Mwy na Llai

Weithiau mae rhaid rhoi'r gorau i rhyw bethau er mwyn canolbwyntio mwy o egni ar bethau eraill. A dyna beth wnes i. Yn effeithiol dydd Gwener nesaf, dw i'n ymddiswyddo fel golygydd ar bwnc yr Iaith Gymraeg ar Suite101.com.

Dw i wedi bod yn gwneud hyn ers 2001, ac yn ddiweddar dw i wedi mynd yn rhy brysur i ddal at y prosiect. Mae rhaid i fi dreulio mwy o amser ar waith ar gyfer fy musnes freelance ysgrifennu a chelf--sef gwaith sy'n talu, â dweud y gwir. Ond wrth gwrs, bydd mwy o amser 'da fi i flogio ar y dudalen hon! Bydda i ddim yn rhoi'r gorau i ysgrifennu am bethau Cymreig, chwaith. Felly peidiwch â phoeni!

Saturday, March 19, 2005

Baban Newydd

Cafodd fy nai ei eni ar ddydd Sadwrn, y 12fed o Fawrth! Miles yw ei enw e, a roedd e'n 7lb. 3oz. a 20 modfedd. Daeth y fam a'r babi adre ddydd Sul, ond dydd Llun roedd gwres ar fy chwaer-yng-nghyfraith. Roedd rhaid iddi hi fynd yn ôl i'r ysbyty ac aros yno tan iddyn nhw ddweud ei bod hi'n iach. Roedden ni'n ofni y gallai bod haint arni hi, ond mae'n ymddangos yr oedd e ddim ond ffliw. Daeth hi adre unwaith eto ddydd Mercher, ac wedyn cafodd y babi jaundice a roedd rhaid iddo fe fynd yn ôl i'r ysbyty i gael mwy o brofion. Ond mae e'n dda iawn nawr, ac mae'r fam a'r babi gartre a hapus iawn.

Fe ges i gyfle i'w ddal e heddiw. Gwnaeth e bisio yn ei ddiaper a wedyn dechreuodd e grio. Yn ffodus, dw i'n gallu ei rhoi e 'n ôl!

Saturday, March 12, 2005

Amser i Blant

Mae nai ar ei ffordd, yn cael i eni yn Stockton, California! Mwy o newyddion nes ymlaen!

Saturday, March 05, 2005

Gweithio...a Gweithio...a Gweithio...

Mae'n ddrwg 'da fi adrodd, dw i wedi bod mor brysur yr wythnos 'ma, mod i ddim yn gwneud unrhywbeth i wella fy ngymraeg. Dw i'n anobeithiol.

Ond, yfory bydda i'n mynd i "Noson Gymraeg" yn Stockton--swper a cyngerdd telyn. Pan siaradais i gyda'r fenyw a drefnodd y digwyddiad, roedd diddordeb 'da hi mewn dod â'r Cwrs Cymraeg i Ganol California undydd yn y dyfodol. Bydd hynny'n wych! Basai rhywun 'ma i helpu gyda'r trefnu, ar wahân i fi. Campus!

Sunday, February 27, 2005

Mynci Haerllug

Dim byd yn gyffrous i adrodd heddiw. Dw i wedi rhoi erthygl newydd ar fy ngwefan Suite101, sef The Dysgwr's Diary, Part Five: Short Conversations. Mae sgwrs byr ynddi rhwng Dafydd y Dysgwr a merch ei fod e'n dwli arni, a mae Dafydd tipyn bach yn haerllug...

Ar y 6ed Mawrth byddaf i'n mynd gyda Rob a'i rhieni i Noson Gymraeg yn Stockton (tref sy'n rhyw 35 o filltiroedd i ffwrdd) ble byddwn ni'n clywed cerddoriaeth delynau a sgwrsio gyda phobl o gymdeithasau Cymreig, Albaneg, a Gwyddelig yn yr ardal. Bydd hynny o rhyw ddiddordeb, dw i'n credu. Dw i ddim yn siwr os bydd y fath o bobl sy'n hoffi miwsig y delyn neu pethau "Celtaidd" yn yr ardal yma yn rhyfedd, ond bydd yn gyfle i gwylio pobl, ta beth.

Thursday, February 17, 2005

G-Bost

Os gwelwch yn dda, os hoffech chi gael cyfeiriad e-bost gyda gmail (gwasanaeth e-bost google), gadewch i fi wybod. Mae 'da fi crapload o wahoddiadau--50 i fod yn fanwl. Dw i ddim yn siwr os ydw i'n nabod 50 o bobl.

Wednesday, February 16, 2005

Ymwelwr Pwysig

Mae rhywun diddorol wedi gadael sylwebaeth ar fy mlog, ar ôl y post am Tithau a Chithau. Nawr mae pwys arnaf i ysgrifennu'n gywir! ;-)

Yn sôn am tithau a chithau, dw i wedi llwyddo i'w ddefnyddio nhw yn fy erthygl newydd ar Suite101, y fydd yn cael ei phostio yfory ar y dudalen 'ma. Bydd hi'n rhan newydd Y Dysgwr's Diary. Eitha gwirion, ie...

Thursday, February 10, 2005

Sori, Mr. Plismon Syr, Dw i Wedi Colli Fy Nhrwydded Ysgrifennu

Wel, mae'n ymddangos mod i ddim wedi dweud wrthoch chi y newyddion da...Mae diddordeb 'da Bloomsbury Children's Books mewn fy nofel i bobl ifainc. Yr wythnos ddiwetha, fe ges i lythyr oddi wrth Editorial Assistant yno, yn dweud eu bod nhw'n hapus darllen yr holl llawysgrif. Fy ateb cyntaf sy ddim yn "Na diolch"...Dw i'n llawn cyffro!

Ond dyna pam dw i ddim wedi postio dim byd ers lawer dydd. Dw i wedi bod yn golygu ac ail-olygu fel person ffôl, achos meddyliais i y gawn i lawer mwy amser ar ôl wedi anfon fy llythyr i. Ond clywais i oddi wrthyn nhw dim ond dwy wythnos a hanner ar ôl anfon y llythyr. Syfrdanol! Mae hynny'n beth da, on'd ydy?

Yn y cyfamser cyn i fi ddod 'nol i bostio yn gyson, dyma erthygl am y trwyddedau teithio eich bod chi'n gallu cael yn Gymraeg neu Albaneg.

Monday, January 31, 2005

Ystrydebau

Tra o'n i'n chwilio am wybodaeth am ddysgu Cymraeg i fyfyrwraig yn Slovenia, ffeindiais i'r rhestr ystrydebau yma ar wefan British Council--scroliwch i lawr i weld y rhestr "stereotypes the Welsh hate."

Yn brwydro ystrydebau gyda cyffredinoliadau! Hefyd mae'r tôn jyst yn sarhaus yn fy marn i. Wrth gwrs mae rhaid brwydro yn erbyn ystrydebau, ond nad yw hi'n well i gael rhyw wybodaeth--dim ots pa mor gyffredin neu wedi dyddio--yn lle, e.e., galw pobl o Gymru "Saes"? Dw i ddim yn siwr, a dweud y gwir, achos dw i ddim yn Gymraes na dw i'n byw yng Nghymru chwaith. Dim ond barn.

Yn sôn am syniadiau pobl am Gymru, dw i'n hoffi llyfr David Greenslade Cambrian Country--darlleniad diddorol.

Thursday, January 27, 2005

Enwau Mawr mewn Llenyddiaeth

Dyma stori ddiddorol.

Rob yw enw fy ngwr: Robert Stevenson (ond dim Robert Louis Stevenson). Mae Rob yn athro celfyddyd yn y coleg. Yn ei ddosbarth "Lliw a Dylunio" (Color & Design?) y semester yma, mae myfyriwr o'r enw Dylan Thomas. Dim jocio.

Mae'n ymddangos bod cysylltiadau rhwng y bois 'ma a'r lleill: fel Rob (heddiw) a Robert Louis, dwedodd Dylan (heddiw) am Dylan (o'r blaen) yr oedd e'n berthynas bell yn unig. Doedd dim plant gyda Robert Louis Stevenson ei hun, yn ôl Rob.

Wednesday, January 26, 2005

Trafod y Tywydd

Mae hi'n bwrw hen wragedd a ffyn yma ar hyn o bryd. Roedd y daran yn codi ofn ar fy nghath. Diolch byth am ein ffenestri newydd!

Tuesday, January 25, 2005

Y Friendster Cymreig

Ych-a-fi, roedd problem gyda'r postio. Dw i'n casau hynny. Ie, dw i'n gohirio. Oes problem??

Wyt ti'n hoffi Friendster? Wyt ti moyn cwrdd â phobl Cymreig eraill? Beth am geisio Pishyn? Wyt ti wedi cael llond bol o gwestiynau eto?? Ta beth, mae'n edrych fel wefan neis iawn...hyd yn oed os dych chi'n "cwpwl yn chwilio am cwpwl." Diddorol iawn.

Tithau a Chithau

Ro'n i'n tacluso fy negeseuon e-bost heddiw a des i o hyd i'r gair "tithau" mewn neges oddiwrth Harry Campbell. Penderfynais i ddysgu am y gair once and for all. Felly, dyma esboniad ac enghraifft yn Gymraeg, er mwyn i fi actually gofio'r peth.

Yn ôl geiriadur poced Gareth King, defnyddiwyd "tithau" a "chithau" fel ymateb i rhyw ddatganiad gyda "ti" neu "chi," i'w bwysleisio'r ymateb. Felly, os mae rhywun wedi dweud "blwyddyn newydd dda i ti," gallet ti'n ateb "blwyddyn newydd dda i tithau hefyd." A hefyd mae'r enghraifft yma: "iawn--mi gei dithau ffonio nhw!" Ond dwedodd Gareth King bod y geiriau ddim yn gyffredin iawn; dw i'n credu y ddylen nhw fod yn mwy ffurfiol.

Wrth gwrs dych chi'n gwybod hynny'n barod. Ond roedd rhaid i fi ymarfer fy Ngymraeg yr wythnos yma. Dw i wedi bod yn gwneud gormod o chwilio am waith (gwaith ysgrifennu neu golygu, rhan-amser neu telecommuting--chi'n gwybod rhywun gydag angen awdur?? Os gwelwch yn dda?).

Monday, January 17, 2005

Dim Byd o Gwbl...Dim Byd o Gwbl...

Dydy'r teitl ddim yr un peth yn Gymraeg...sori, Ned Flanders.

Ond mae'n ddisgrifiad cywir petasech chi'n gofyn os dw i wedi gwneud unrhyw gweithgareddau Cymreig yn ddiweddar: dim byd o gwbl, mae'n ddrwg 'da fi ddweud, ar wahân i e-bostio ffrind. Ond, gwnes i anfon dau gynnig ar gyfer fy nofel at cyhoeddwyr--Bloomsbury USA a Boyds Mills Press. Nawr, yr arhosiad hir...

Dw i'n gwybod y ddylwn i astudio gyda'r gwersi CMC, darllen pethau yn Gymraeg ar y we, a gwrando ar Radio Cymru (dw i'n hoff o C2--a dyna beth sy ar y radio yn y dydd, yma yn California). Ond dw i ddim yn dda iawn gyda'r ymarfer y dyddiau yma. Dw i'n ceisio'n galed iawn gwneud rhywbeth gyda fy ysgrifennu, a cyhoeddi rhywbeth, ac mae hynny'n defnyddio llawer o amser (dim lwc eto, chwaith). Felly dyna pam dw i wedi bod yn ddrwg! Yn y cyfamser, dyma rhywbeth doniol ac eitha Cymreig.

Sunday, January 09, 2005

Chwilio am Gariad?

Dyma rhywbeth ffeindiais i yn fy mlwch e-bost--BBC e-lythyr o hen ddyddiau 2002 gyda'r catchphrases 'ma:

Rwyt ti'n dipyn o bishyn.
- You're a bit of a hunk/babe!

Ti moyn peint?
- How about a pint?

Beth wyt ti'n gwneud am weddill dy fywyd?
- What are you doing for the rest of your life?

Pa ochr o'r gwely sydd orau gennyt ti?
- Which side of the bed do you like to sleep?

Beth wyt ti eisiau i frecwast?
- What would you like for breakfast?

Dim yn ddefnyddiol i fi, a dweud y gwir, dwi ddim eisiau gwr anhapus!

Saturday, January 08, 2005

Erthyglau Eraill

Cafodd fy sylw ei dynnu (gan fy mam) at ddwy erthyglau (nid gan fi) yn y Los Angeles Times--un yn sôn am Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd a'r llall am gorau meibion. Yn anffodus mae rhaid i chi dalu i'u ddarllen nhw yn eu cyfanrwydd.

Friday, January 07, 2005

Erthygl Newydd

Dim byd o bwysigrwydd mawr heddiw, jyst diweddaraf fy ngwefan Suite101--dw i wedi postio erthygl newydd, sef ail ran y gyfres yn trafod blogiau Cymraeg. Y tro 'ma mae'r erthygl yn sôn am flogiau lleol a blogiau cylchoedd neu grwpiau, sydd yn helpu pobl gyda diddordeb mewn Cymraeg i'w gysylltu â'u gilydd.

Monday, January 03, 2005

Mae Popeth Ar Ben...

Oce, tipyn o melodrama yna. Ond dw i'n gwybod pryd dw i wedi cael fy nghuro. Os dw i'n siarad lol, mae'n ddrwg 'da fi--mae annwyd arna i. Mae'r gwres yn siarad. Wedi cymryd gormod o foddion. Neu ddim digon.

Dim lwc gyda dod o hyd i flogiau Cymraeg lleol, yr oeddwn i'n bwriadu sgwennu amdanynt ar gyfer fy erthygl nesaf ar Suite101.com. Wrth gwrs, mae Dysgwyr De-Ddwyrain yn ardderchog, ond ffeindiais i ddim byd arall o'r un fath. Efallai dylai pobl yn gwneud mwy o flogiau lleol, ond dw i ddim yn siwr os maen nhw'n bodoli'n barod.

Wel, fel awdur mae rhaid i fi fod yn hyblyg, on'd oes? Rhaid i fi edrych dros y blogiau sy 'na, a meddwl am thema newydd. Ych-a-fi, dw i'n teimlo fel pentwr o snot.