Thursday, December 27, 2007

Blwyddyn Newydd Dda--2008 Hapus!

Dw i ddim wedi blogio ers talwm, ond wrth gwrs, mae pethau'n brysur dros y gwyliau fel arfer. Mae ffrindiau sy'n byw yn Hawaii (lwcus!) wedi dod i ymweld â ni a'i teulu nhw, felly dyn ni wedi bod yn mynd yma ac acw gyda nhw yn ymweld â ffrindiau eraill ac ati. Fe aethon ni i weld yr eira yn y mynyddoedd yn Pinecrest (rhyw 2 awr i ffwrdd) oherwydd mae bachgen bach 3 oed gyda nhw sy erioed wedi chwarae yn yr eira. (Does dim llawer o eira yn Hawaii sef ar gopa Mauna Kea.)

Hefyd aethon ni gyda nhw i wylio gêm pêl-droed Americanaidd rhwng y 49ers a'r Tampa Bay Buccaneers. Dim yn gyffrous iawn i fi ond joiais i'r black-and-tans. Noson Nadolig fe aethon ni i barti yn nhy ffrind i ni, ac ar ddydd Nadolig aethon ni i weld teulu Rob.

Dderbynoch chi unrhywbeth arbennig o dda fel anrheg Nadolig? Oddiwrth fy ngwr fe ges i DVD Sigur Ros a gêm fideo Nintendo DS--The Sims: Castaway. Fe gafodd e bocs mawr "booze chocolates" oddiwrth ei rhieni--siocledi mewn siap poteli bach gyda phob math o alcohol ynddynt. Ymmm!

2 comments:

Emma Reese said...

Mi ges i 9 llyfr Cymraeg. (Fi archebodd gan Gwales a'r teulu dalodd.) Fy newis cynta ydy Wythnos yng Nghymru Fydd.

Sarah Stevenson said...

Ahh, lwcus! Dylwn i wedi gwneud hynny.