Des i'n ôl o'r Cwrs Cymraeg yn Iowa nos Sul (yn hwyr iawn, yn anffodus) ar ôl dysgu cymaint a gwella fy Nghymraeg mewn dosbarth arbennig o dda gyda Geraint Wilson-Price (ar y dde yn y ffoto). Hefyd, cwrddais i â Emma Reese, blogwraig arall oedd yn fy nosbarth i hefyd.
Ces i lawer o hwyl dros yr wythnos, fel arfer. Fel arfer eto, roedd treulio amser gyda ffrindiau, yn enwedig y tiwtoriaid mod i'n ffrindiau gyda nhw fel Mark a Chris, yn brofiad arbennig. Roedd digon o gyfle i fi ymarfer siarad, a ceisias i'n galed siarad Cymraeg cymaint â phosib. Mae un problem mawr yr ydw i wedi darganfod, sef mae hi'n bron amhosib i fi ddweud beth dw i eisiau ei ddweud A siarad gyda acen ddigon da ar yr un pryd. Ydy hwn yn broblem cyffredin gyda dysgwyr tybed?
Beth bynnag, roedd y dosbarth yn ardderchog. Roedd gyda Geraint ddawn am wybod pa bwyntiau basai'n achosi trafferth i ddysgwyr eitha uchel, a roedd llawer o amser i ymarfer sgwrsio yn y dosbarth. Uchafbwynt arall - ces i CDs gan Sibrydion, Big Leaves, a Clwb Cymru oddiwrth ffrind i fi. Gwych!
Ysgrifenna i fwy nes ymlaen...
8 comments:
Roedd yn hyfryd cael dy gyfarfod efo'ch di o'r diwedd. Diolch i ti am dy gyfraniad yn y dosbarth o gystal â dy waith fel un o'r swyddogion.
Dw i'n ddallt dy broblem. Mi fedrai wneud ymarferion siarad efo CDau'n ddigon da. Ond pan ga i sgwrs go iawn, bydd hi mor anodd mynegi fy meddyliau, ac na i anghofio popeth am acen.
Gall fod yn anodd gwneud sawl pethau ar unwaith wrth siarad. Dydyn ni ddim yn gwneud hynny ym mamiaith -- mwy nag arfer meddyliwn ni am beth a daw air yn awtomatig. Anodd iawn yw ail-greu'r sefyllfa mewn iaith arall. Os gallaf fod o unrhyw help, rho fi wybod. Oes gennyt ti bobl i siarad â nhw yn y Gymraeg yng Nghaliffornia?
Dw i'n nabod Geraint - mae ei fyfyrwyr yn Coleg Gwent yn ei ganmol o.. Mae'n bwysig cael rhywun doniol i'ch dysgu, neu fe all fod yn brofiad digon diflas (yn fy marn i).
Big Leave a Sibrydion yn ddewis da o CD's. Efallai hoffet ti Swci Boscawen sy'n gyfuniad o pop/rock. Dw i'n hoffi Mattoidz hefyd sy'n rock trymach, ond lot o hwyl (edrycha am fideo 'Dyn Telesales' ar YouTube/Bandit247.com)
Hefyd mae modd lawrlwytho Dan y Cownter 3 am ddim.
Emma - bob tro dw i mor nerfus am gael sgwrs go iawn! Ymarfer yw'r allwedd, dw i'n siwr, ond...mae'n anodd.
Diolch am yr awgrymiadau, Rhys! Ie, athro doniol ac amyneddgar iawn yw Geraint. Dw i wedi cael profiadau gwych gyda athrawon ar y Cwrs Cymraeg--dw i wedi bod yn lwcus.
Chris, rwyt ti'n garedig iawn--diolch. Dw i'n cael sgwrs bob hyn a hyn gyda ffrind i fi sy'n byw ger San Francisco (mae'r un cynllun ffôn symudol gyda'r ddau ohonom) ac mae hynny'n helpu...ond dyw'r hyn ddim cweit digon, dw i'n meddwl weithiau. Hefyd, problem mawr ydy cael digon o amser...rhaid i ni symud i Gymru efallai!
Helo Sarah !
Braf oedd darllen dy fod wedi mwynhau dy hun yn Iowa. Edrychaf ymlaen i glywed mwy o'r hanes.
Ffeindiais i fod e'n wahanol iawn siarad â phobol ym mherson. Pan des i i Gymru, roeddwn i'n synnu achos bod i wedi meddwl y byddai e'r un fel defnyddio CDs a thapiau - pell ohono fe! Mae e'n anodd iawn i fynegi eich hunan a dim swnio 'stilted'. Fel i acennau, wel, ofnadwy yw fy acen - mae'r California yn dod drwy uchel a chlir, mae ofn arna i. *LOL*
Diolch, Linda! Peggi, mae'r un problem 'da fi - acen Califforniaid cryf iawn... :)
HaHa, Sarah - doeddwn i ddim yn sylweddoli bod ti'n dod o Galiffornia. Da iawn ti! O leiaf dw i ddim ar fy 'n hunan gydag acen Galiffornia. Symudais i i Abertawe llynedd i fynd i'r Brifysgol ac astudio Cymraeg. Roeddwn i'n darllen dy Flog Saesneg di ar ôl darllenais i dy 'comment'. Teimlaf yr un pan ddw i wedi bod yn Nhŷ Tawe bore Sadwrn - dych chi'n gwneud teimlo fel dych chi ym myd gwahanol ac mae e'n un bendigedig hefyd. Dw i'n gweld ymlaen i pan dda digon dw i felly gaf i aros yn y byd 'na trwy'r amser.
Post a Comment