Dw i'n hapus dweud fy mod i wedi gorffen edrych dros fy nofel a
golygu pethau!!...y tro 'ma. Yr unig peth sydd ar ol yw edrych drosti hi
unwaith eto, yn gyflym, cyn anfon y llawysgrif 'nol i'r cyhoeddwr.
Dw
i ddim yn siwr pryd yn hollol bydd y nofel yn cael ei chyhoeddi, ond dw
i'n credu mis Tachwedd neu Rhagfyr, efallai. Yn y cyfamser, dw i'n
gwneud pethau fel cael tynnu ffoto ohono i ar gyfer cyhoeddusrwydd (a ffoto awdur!!), ffeindio pobl (awduron eraill) yn fodlon ysgrifennu "testimonials" am fy nofel, ac adeiladu gwefan newydd (gweler yma).
A dw i'n brysur dros ben ysgrifennu erthyglau ar ben erthyglau...peth da iawn achos dw i angen yr arian!
Hwyl am y tro.