Tuesday, November 30, 2004

Tipyn Bach Amdana I

Fel dw i'n sownd fan 'ma gyda cath ar fy nglin, a fel gofynnodd rhywun a ydw i'n wir yn byw yn California, dyma rhywbeth bach amdana i, yn Gymraeg wrth gwrs. Ond bydd hi'n swnio fel paragraff ar gyfer dosbarth.

Sarah ydw i, a dw i'n 27 oed. Dw i'n dod o Dde California yn wreiddiol, ond dw i'n byw yng Ngogledd California bellach. Dw i'n awdur ac artist. Dw i'n ysgrifennu nofel dirgelwch i bobl ifanc (yn eu harddegau), ac mae rhannau o'r nofel wedi'i lleoli yn Ne Cymru. Fel artist, dw i'n hoffi gwneud cerfiadau (etchings) a pheintio. Dw i'n briod. Mae fy ngwr i, Rob, yn athro celfyddyd yn y coleg lleol, ac hefyd mae e'n hoffi canu'r bass. Does dim plant 'da ni, ond mae 'da ni gath hyfryd o'r enw Roxie. Dyn ni'n mwynhau teithio, bwyta, loncian, a gemau fideo.

Dw i ddim yn siwr os mae gwreiddiau Cymreig 'da fi, ond dw i'n hoff iawn o ieithoedd, a dw i'n hoff iawn o Gymru (ar ôl sawl ymweliad i Brydain), felly penderfynais i ddysgu Cymraeg yn 1996. Dw i'n ysgrifenyddes Cymdeithas Madog, cymdeithas sy'n hybu diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg yn yr U.D.A. A dyma fi mewn cragen cneuen (?). Wrth gwrs mae llawer mwy, ond dyna ddigon am heddiw. Hen bryd i fi ddechrau swper. Cawl minestrone--iym!

1 comment:

Nwdls said...

Roxie - enw da am gath. Siwtio'u cymeriad i'r dim!