Saturday, July 31, 2004

Cysylltiadau'r Dydd

Mae casgliad bach o gysylltiadau 'da fi ar hyn o bryd, oherwydd pentwr negeseuon a dderbynais i tra o'n i i ffwrdd.

Yn gyntaf, oddiwrth rhestr Clwb Malu Cachu--nawr dych chi'n gallu cael OpenOffice, fersiwn open-source y Microsoft Office, yn Gymraeg. Gwych! Ond rhy gymhleth i fi. Prin mod i'n gallu defnyddio GIMP, rhaglen open-source fel Photoshop, heb teimlo fel twpsyn.

Yn sôn am CMC, mae Suw wedi dechrau (ers ambell ddiwrnod nawr) blogio yn Gymraeg ar ei blog, Chocolate and Vodka. Mae 'na bethau diddorol iawn fan'na, yn enwedig y stori am bentre bach arall gyda enw (newydd) hir.

Oddiwrth rhestr BBC LearnWelsh--mae rhestr ar wefan Gwales gyda llyfrau Cymraeg eu bod nhw'n argymell i oedolion.

Mae darn o feddalwedd o'r enw To Bach, ar gael yn rhad ac am ddim, sy'n eich galluogi chi i ddefnyddio llythrennau cyffredin yn Gymraeg gyda'r allweddell.

Ac yn olaf, dyma blog newydd dw i wedi dod o hyd iddo, sef Tesla's blog yn Gymraeg. Darllenwch am ei hanturion yn y dosbarth Cymraeg.

Friday, July 30, 2004

Post Bach Iawn

Wel, dyma fi jyst yn ysgrifennu pennod diweddaraf fy nofel, ac yn gwrando ar Radio Cymru dros y rhyngrwyd, a roedd tipyn o euogrwydd arnaf am ddim wedi postio ers lawer dydd. A dweud y gwir, ro'n i ar Gwrs Cymraeg Cymdeithas Madog yn Ottawa yn ystod yr wythnos ddiwetha, felly dim lot o gyfle i fi rhoi unrhywbeth ar y blog, yn anffodus.

Iawn, dw i'n addo rhoi ar-lein post mwy substantial cyn bo hir. Ond am nawr, mae fy rhieni (mam a llystad) yn ymweld â fi ac aros gyda fi tra bod Rob yn pysgota yn Alaska gyda'i dad. Dim gorwedd i'r bobl ddrwg, neu rhywbeth!

Friday, July 09, 2004

Dw i'n Ddiog, yn Amlwg...

♠ ...achos dw i ddim wedi bod yn dda iawn am bostio ar fy mlog yn ddiweddar. A dweud y gwir, ro'n i allan o'r dre unwaith eto yn ymweld â'r teulu yn Ne California. Wnes i ddim byd yn gyffrous iawn yn ystod y daith, hyd yn oed ar bedwerydd Gorffenaf. Wel, heblaw y ddamwain y ro'n i bron iawn yn rhan ohoni...Fe ddaeth rhywun, oedd yn gyrru yn y lôn gyferbyn, i mewn i'r lôn y ro'n i'n gyrru ynddi--o gwmpas car oedd wedi stopio ar y golau traffig--a wedyn yn ôl i'r ochr cywir. Diolch byth fy mod i'n ddigon pell i ffwrdd o'r car ffôl 'na. Wff!

♠ Wythnosau yn ôl, anghofiais i bostio cysylltiad i erthygl newydd ar fy ngwefan Suite101: Llawysgrifau Cynnar yn Gymraeg, Rhan Dau, am Lyfr Coch Hergest a'r Mabinogi.

♠ Dw i'n edrych ymlaen at Cwrs Cymraeg y Ddeilen Goch, mewn wythnos a hanner, yn Ottawa, Ontario. Dw i wedi bod yn astudio...dim llawn cymaint â hoffwn i astudio, yn sicr, ond gobeithio yn ddigon i aros mewn lefel 6 gyda'r grown-ups.