Friday, July 09, 2004

Dw i'n Ddiog, yn Amlwg...

♠ ...achos dw i ddim wedi bod yn dda iawn am bostio ar fy mlog yn ddiweddar. A dweud y gwir, ro'n i allan o'r dre unwaith eto yn ymweld â'r teulu yn Ne California. Wnes i ddim byd yn gyffrous iawn yn ystod y daith, hyd yn oed ar bedwerydd Gorffenaf. Wel, heblaw y ddamwain y ro'n i bron iawn yn rhan ohoni...Fe ddaeth rhywun, oedd yn gyrru yn y lôn gyferbyn, i mewn i'r lôn y ro'n i'n gyrru ynddi--o gwmpas car oedd wedi stopio ar y golau traffig--a wedyn yn ôl i'r ochr cywir. Diolch byth fy mod i'n ddigon pell i ffwrdd o'r car ffôl 'na. Wff!

♠ Wythnosau yn ôl, anghofiais i bostio cysylltiad i erthygl newydd ar fy ngwefan Suite101: Llawysgrifau Cynnar yn Gymraeg, Rhan Dau, am Lyfr Coch Hergest a'r Mabinogi.

♠ Dw i'n edrych ymlaen at Cwrs Cymraeg y Ddeilen Goch, mewn wythnos a hanner, yn Ottawa, Ontario. Dw i wedi bod yn astudio...dim llawn cymaint â hoffwn i astudio, yn sicr, ond gobeithio yn ddigon i aros mewn lefel 6 gyda'r grown-ups.

No comments: