Weithiau mae rhaid rhoi'r gorau i rhyw bethau er mwyn canolbwyntio mwy o egni ar bethau eraill. A dyna beth wnes i. Yn effeithiol dydd Gwener nesaf, dw i'n ymddiswyddo fel golygydd ar bwnc yr Iaith Gymraeg ar Suite101.com.
Dw i wedi bod yn gwneud hyn ers 2001, ac yn ddiweddar dw i wedi mynd yn rhy brysur i ddal at y prosiect. Mae rhaid i fi dreulio mwy o amser ar waith ar gyfer fy musnes freelance ysgrifennu a chelf--sef gwaith sy'n talu, â dweud y gwir. Ond wrth gwrs, bydd mwy o amser 'da fi i flogio ar y dudalen hon! Bydda i ddim yn rhoi'r gorau i ysgrifennu am bethau Cymreig, chwaith. Felly peidiwch â phoeni!