Monday, December 05, 2005

Newyddion Da

Fe ennillais i'r drydydd wobr yn y cystadleuaeth Smartwriters.com am stori fer i bobl ifanc! Hwre! Fe ennillodd fy stori "This Is Jane" y drydydd wobr yn categori straeon ar gyfer pobl yn eu harddegau. Mae hynny'n gyffrous achos bydd y straeon i gyd sy wedi ennill wobrau yn cael eu cyhoeddi mewn antholeg yn 2007. Dyma'r tro cyntaf i fi gael rhyw darn o ffuglen ei cyhoeddi.

Hefyd, mae gan cyhoeddwr arall ddiddordeb yn fy nofel i. Anfonais i lythyr ym mis Hydref a fe ges i lythyr oddi wrthyn nhw ddydd Sadwrn, yn dweud eu bod nhw'n hapus darllen fy llawysgrif llawn. Mae rhyw pobl yn cnoi ar y peth--efallai bydd rhywun ei eisiau. Am fwy o fanylion, gwelir fy mlog yn Saesneg.

5 comments:

chjajones said...

Llongafarchiadau, Ms. Tywod - bydd Jennifer Anniston yn chwarae Jane yn yr ffilm??
Yr peth nesa mawr yn yr "Great Midwest" bydd yma -
http://www.wildwelshweekend.com/
Hwyl, Chris in Wheaton

Chris Cope said...

Llongafarchiadau! Dw i'n mynd drwy'r broses o geisio ffeindio cyhoeddwr (dw i'n defnyddio asiant) ac alli'r broses yn rhwystredig iawn. Pob lwc!!

Rhys Wynne said...

S'mai

A'i ti yw'r 'Sara' sydd wedi arwyddo'r addewid PledgeBank yma a sefydlodd Nic?

http://www.cy.pledgebank.com/blogsaesneg

Rheswm dwi'n gwofyn yw achos dwi wedi sefydlu blog

http://www.theyallspeakenglish.blogspot.com/

Os mai ti yw e, dwi angen cael dy gyfeiriad e-bost i anfon gwahoddiad Blogger atat os wyt eisiau cyfrannu at y blog newydd.

rhys AT sgwarnog DOT com

Sarah Stevenson said...

Shwmae Rhys,
Nid fi yw hyn, yn anffodus. (Neu yn ffodus, achos does dim llawer o amser 'da fi gyfrannu mewn unrhyw blog arall y dyddiau 'ma!) Sarah gyda "h" ydw i. :) Ond dw i'n hoff iawn o'r syniad! Bydda i'n tseco 'n ol siwr o fod.
SaraH

Sarah Stevenson said...

Diolch, Chris a Chris! Postia i ddiweddariadau pan mae mwy o newyddion.