Sunday, July 30, 2006

Cwrs yn y Papur

Dw i'n dweud wrthoch chi, mae hi'n reit neis tu ma's. Tipyn bach o glaw, ond dim ond tipyn bach, a dim gwres uffernol. Ahhhh. Newidiad croeso.

Dw i wedi bod yn ymlacio ar ôl i'r Cwrs Cymraeg orffen. Os dych chi eisiau cipolwg ar y cwrs, darllenwch yr erthygl hon o'r papur newyddion Stockton. Dydy'r erthygl ddim yn grêt, ond mae hi'n rhoi blas ar y wythnos, ta beth.

3 comments:

James said...

Dw i wedi anfon ebost Cymraeg i Sara ar Recordnet. Fe faswn i’n betio bydd hi'n cael hwyl gyda fe.
Oedd y crws yn ddiddorol eleni?

Sarah Stevenson said...

Helo James! Oedd, roedd y cwrs yn ddiddorol, allech chi ddweud hynny. Rhy ddiddorol i fi, yn fy marn i, achos ro'n i'n trefnu pethau ac hefyd dw i'n lywydd Cymdeithas Madog eleni. Felly roedd rhaid i fi arwain cyfarfod y Bwrdd dros cinio bob dydd. Yn ystod y dydd roedd llawer o gwestyniau i'w ateb, problemau bach i'w ddatrys, ac yn y blaen. Ond dywedodd llawer o bobl eu bod nhw'n cael amser gwych, felly dw i'n credu yr oedd yr holl waith caled yn werthfawr!

Sarah Stevenson said...

Hefyd, weloch chi'r camgymeriadau yn y ddihareb Gymreig oedd yn yr erthygl? Anobeithiol!!