Sunday, June 03, 2007

Ymarfer, Ymarfer, Ymarfer

Kitty Love 1

Dyna'n gath newydd ni, Zelda, gyda'i chwaer henach, Roxie. Mae pethau wedi bod yn ddiddorol iawn ers i ni ychwanegu aelod newydd i'r teulu. Mae Zelda yn llawn egni, a mae hi'n gallu chwarae gyda'i theganau hi am oriau. Oriau, yn llythrennol. Dyn ni angen nap ar ôl i ni chawarae gyda'r gath fach. Dim jôc.

Dw i newydd gorffen galwad ffôn gyda fy ffrind, Brenda--dyn ni'n ymarfer Cymraeg dros y ffôn bron bob wythnos neu bob yn ail wythnos. Heddiw, siaradon ni am "beth wnaf i dros yr haf." Hefyd, dywedais i wrthi hi am ein taith ddoe i San Jose i weld gêm pêl-droed rhwng yr U.D.A. a Tseina. Ennillodd yr UDA 4 i 1. Mwynheuon ni'r gêm; hefyd y parti ar ôl y gêm, yn nhafarn Britannia Arms--roedd hi'n ddigwyddiad ar gyfer codi arian i grwp cefnogwyr pêl-droed lleol. Rhyw ddwy flynedd yn ôl, cafodd ein tîm lleol ei symud i Houston, Texas gan y perchnogion (sy'n cwmni mawr, amhersonol, trachwantus, a diegwyddor). Wrth gwrs aeth llawer o bobl yn yr ardal yn grac ond doedd dim byd i'w wneud...ar wahân i geisio ffeindio perchennog lleol fasai'n fodlon creu tîm newydd.

Wrth gwrs mae pethau'n fwy gymhleth na hynny, gyda cwestiynau am dir, stadiwm, ac ati. Ond mae'n debyg ein bod ni'n cael ein tîm mewn pryd i'r tymor pêl-droed 2008. Yn ffodus, fe gadwodd y grwp lleol hawliau i enw y tîm, yn ogystal â'r etifeddiaeth a'r troffiau. Dim ond y chwaraewyr eu hunain sydd ar goll, ac os byddwn ni'n lwcus, efallai bydd un neu ddau o'r chwaraewyr ar gael erbyn y flwyddyn nesaf.

5 comments:

Rhys Wynne said...

Oni bai am AFC Wimbeldon, mae'r syniad o symud tîm o un rhan o'r wlad i rhywle arall yn syniad estron iawn i ni ym Mhrydain (a gweddill Ewrop).

Gobeithio y gallwch sefydlu clwb newydd lleol. Oes cyngrheiriau lleol gyda chi unai ar level talaethol (state level) neu fwy lleol fyth?

Mae llawer o wybodaeth am bêl-droed yn America (nid 'Pêl-droed Americanaidd') ar Wikipedia, dwi'n hoffi darllen am hanes rhyfedd y clybiau.

Linda said...

Wwww llun del o'r cathod! Wedi cael profiadau tebyg yma , pan ddaru ni gyflwyno Mali [ ein cath frech ] i Blackie , ein cath ddu ni. Mi ddaru ni eu cadw ar wahân am yr wythnos gyntaf , ond wedyn 'roedd 'na lot o rasio o gwmpas, ac yn y diwedd Blackie yn derbyn Mali fel aelod arall o'r teulu :)
Dwi'n siwr y cei di lot o hwyl efo Xelda a Roxie , ac mi fyddant yn gwmpeini mawr i'w gilydd.
>^..^<

James said...

Ers y tim pêl-droed yn symud i Houston enwais i fy 'parakeet' newydd 'Dynamo' pa ydy enw newydd y tim. Nawr mae Astro y Whippet, Rocket y Gath ac Dynamo y Parakeet yn ein enw y anwesau ni.
Gobeithio y gallwch sefydlu clwb newydd lleol hefyd.

Sarah Stevenson said...

Diolch, Linda! Maen nhw'n eitha hapus gyda'i gilydd, ond maen nhw'n dal i frwydro tipyn bach. Mae'r gwr yn dweud bod hynny'n normal.

Rhys, dyna ni ar Wikipedia! Mae'r wybodaeth yn eitha cywir hefyd. Hanes drist...

James, enwau neis iawn! :) Mae chwaraewyr y Dynamo (Yr Earthquakes blaenorol) yn dda iawn, er bod nhw'n cael ychydig o lwc drwg ar hyn o bryd. Dyn ni'n hoffi dilyn ei gemau ar y teledu eto.

Linda said...

Sarah,
Gan dy fod ti yr un 'time zone' a fi, tybed wyt ti'n gyfarwydd â SKYPE? Dwi 'di lawrlwytho fo i'r gliniadur sydd gennyf, ond dwi ond yn ei ddefnyddio ar gyfer audio. Gad i mi wybod os oes gen ti ddiddordeb cael sgwrs....
Hwyl!
Linda.