Saturday, January 26, 2008

Dw i'n dysgu...Sbaeneg?!

Ie, yn lle astudio Cymraeg fel merch fach dda, dw i'n dysgu Sbaeneg. Dw i'n cymryd dosbarth gyda fy ngwr a chwpwl o ffrindiau. Dw i'n gallu siarad tipyn bach o Sbaeneg yn barod--mae fy llys-dad yn dod o Costa Rica, a mae modryb 'da fi sy'n dod o Mecsico yn wreiddiol. Dw i'n gallu deall yn eitha da, ond dw i ddim yn gallu ateb yn dda iawn, a does dim llawer o eirfa 'da fi o gwbl. Ond mae'n bwysig iawn a defnyddiol iawn gwybod Sbaeneg yn California, felly...

O leiaf, yfory bydda i'n sgwrsio yn Gymraeg gyda ffrind i fi, Brenda--dyn ni'n ail-ddechrau ein sgyrsiau ffôn. Dw i i fod i siarad am fy nhaith i'r Eidal ym mis Tachwedd. Pob lwc i fi!!

Mewn newyddion eraill, nawr mae hi'n bosib cofrestru ar y Cwrs Cymraeg 2008 - Cwrs y Rhosyn Gwyllt yn Iowa. Ydw i wedi sôn yn ddiweddar, mod i mo'r llywydd bellach? Diolch byth! Does dim digon o amser 'da fi. Mae talent 'da fi--llenwi pob bwlch o amser gyda rhyw fath o waith...

2 comments:

Zoe said...

Www, mae'n hwyl siarad Sbaeneg! Ac rwan wyt ti'n gallu siarad Sbaen-raeg (Sbaeneg a Chymraeg). Dw i'n siarad Sbaenraeg wrth fy nghath trwy'r dydd. Fy hoff frawddeg ydy "Dere 'ma, ya mismo!" (:

Dw i'n dysgu Portiwgaleg rwan hefyd. Sgen i ddim frawddeg "Sbaen-raeg-iwgaleg" ar hyn o bryd, ond yn fy dosbarth Cymraeg, roeddwn i'n ceisio dweud "Dw i'n siarad Cymraeg" ond yn lle dweddais i "Eu falo Gales".

Maen ieithoedd yn hwyl, ond ydyn?

Sarah Stevenson said...

Dw i'n hoff iawn o ieithoedd...ond mae ofn arna i 'mod i'n cymysgu popeth! (Fel Sbaenraeg, efallai!)

Pob lwc gyda'r Portiwgaleg. Dw i'n hoff iawn o gerddoriaeth ym Mhortiwgaleg, o Brazil.