Wednesday, February 06, 2008

Sbaeneg yn mynd ymlaen...

Dw i'n mwynhau'r dosbarth Sbaeneg. Ond dw i wedi sylwi ar rywbeth. Bob tro dw i ddim yn gwybod gair, dw i'n troi i'r Gymraeg (yn fy mhen, ta beth). Wel, Cymraeg neu'r Ffrangeg.

Erbyn hyn, dyn ni wedi dysgu geirfa ynglyn â'r dosbarth a'r prifysgol, ac hefyd rhifau. Wrth gwrs, dyw'r geirfa brifysgol ddim mor ddefnyddiol i fi ar hyn o bryd, gan mod i ddim yn fyfyrwraig bellach. (Yo estudio administracion de empresas!) Ond efallai bydd hynny yn ddefnyddiol i'r gwr, os caiff e fyfyrwyr sy'n siarad Sbaeneg.

Beth arall...ym, wedi ffeindio "oriel lluniau" perffaith ar gyfer fy ngwefan bersonol. Wel, mae'n gyffrous i fi ta beth. Dw i wedi bod yn chwilio am oriel da, a dyma oriel arbennig o dda a digon hawdd i fi.

3 comments:

Zoe said...

>>Bob tro dw i ddim yn gwybod gair, dw i'n troi i'r Gymraeg (yn fy mhen, ta beth). Wel, Cymraeg neu'r Ffrangeg.<<

Www, Sbaen-raeg-geg? Gwych!

Y wythnos diwetha o'n i yn fy dosbarth Cymraeg (efo Kevin Rottet) ac o'n i'n ceisio dweud "un ddeg un" ond o'n i'n meddwl "unardeg." Ond o'n i ddim yn gallu dweud unrhwybeth achos meddwlais i oedd y gair "unardeg" gair Sbaeneg...

Mae'n ddiddorol sut mae'r ymennydd yn gweithio, ond ydy?

Richard Morse said...

S'mae, newydd ddod ar ddraws dy flog ac yn synnu par mor dda yw eich Cymraeg, yn well na fi sy'n ei ddefnyddio yn y gwaith. :-) Dw i'di cael yr un problem wrth drio dysgu Almaeneg mewn dosbarth nos, yn chwilio am eiriau y fy meddwl ond gyda geiriau Cymraeg yn dod i fyny trwy'r amser. Rhyfedd ynte?

Pob lwc gyda'r dysgu.

Sarah Stevenson said...

Hei Zoe a Richard, diolch am y sylwadau caredig! Gobeithio fydda i ddim mewn gormod o benbleth erbyn diwedd y dosbarth Sbaeneg...