Sunday, February 17, 2008

Dyfal Donc a Dyrr y Garreg

Dw i wedi dechrau unwaith eto gyda'r sgyrsiau dros y ffôn gyda fy ffrind, Brenda, sy'n dysgwraig hefyd a sy'n dod o Gastell-Nedd yn wreiddiol. Bron yn wythnosol, dyn ni'n dewis pwnc o flaen llaw, a mae un ohonon ni'n gofyn cwestiynau a'r llall yn ymateb. Mae'r pynciau yn eitha cyffredinol; er enghraifft, y pwnc ddydd Sadwrn diwetha oedd "ein taith ni nesaf." (Bydd hi'n teithio i Dde California yr wythnos nesaf.)

Ar wahân i hynny, dw i wedi bod yn canolbwyntio ar ein dosbarth Sbaeneg y dyddiau yma, â dweud y gwir. Mae'r dosbarth yn mynd ymlaen; perfformiais i'n dda ar y dau brofion cyntaf. Ond does dim digon o amser i astudio. Am ryw rheswm dyn ni'n arbennig o brysur ar hyn o bryd gyda pethau fel gwaith, wrth gwrs, a hefyd ail-gynllunio fy ngwefan bersonol.

Heddiw aethon ni i gael swper Calan Tsieniaidd gyda teulu Rob, mewn ty^ bwyta neis iawn. Roedd gormod o fwyd: cyw iâr wedi'i pobi, hwyaden Peking, psygod wedi'i stemio, cranc gyda sinsir ac "wniwns gwyrdd", corgymychiaid, llysiau gyda tofu a madarch... Fe fwyton ni tua 3 o'r gloch a dw i ddim eisiau bwyd eto, am 9 o'r gloch. Ond dw i'n yfed potel o gwrw...bob amser mae lle i gwrw!

2 comments:

Emma Reese said...

Dw i'n siarad Cymraeg â ffrindiau bob wythnos ar Skype hefyd. Weithiau mae 'na broblem efo Skype oherwydd y tywydd ayyb ond mae o'n gweithio'n dda'r rhan fwya o'r amser ac mae o'n rhad ac am ddim.

Sarah Stevenson said...

Mae hynny'n dda hefyd! Yn ffodus dw i a Brenda'n cael yr un gwasanaeth ffon felly dyn ni'n gallu siarad yn rhad ac am ddim hefyd. Ond dw i wedi clywed pethau da am Skype.