Monday, March 10, 2008

Ochenaid...

Does dim byd yn ddiddorol yn digwydd fan' ma, yn anffodus. Dw i'n cwympo'n ôl gyda'r gwaith cartref Sbaeneg--er bod dim byd yn ddiddorol yn digwydd, mae llawer yn digwydd. Pethau bychain, blin, fel gwneud ein trethi (dyn ni'n cael arian yn ôl o'r llwyodraeth ffederal--hwre!--ond mae dyled 9 doler arnon ni i'r dalaith--bww!). Mae'r gwaith yn poeni Rob ar hyn o bryd. Â dweud y gwir, mae fy ngwaith i yn boenus hefyd: derbynais i "lythyr gwrthodiad" oddiwrth asient arall heddiw. Felly mae'n flin 'da fi; dydy hynny ddim yn bost siriol...ond mae angen ymarfer arnaf cyn y cwrs yn yr haf, rhag ofn i fi fynd i lefel is.

4 comments:

Emma Reese said...

Pa gwrs wyt ti'n feddwl? Madog?

Sarah Stevenson said...

Ie, y cwrs Cymdeithas Madog. Dw i wedi bod ar y Bwrdd, yn helpu cynllunio popeth, a dw i'n credu bydd eleni yn llawer o hwyl.

Emma Reese said...

Wyt ti'n mynd fel staff neu fel dysgwraig? Dw i'n mynd am y tro cynta. Mi edrycha i ymlaen at dy gyfarfod di!

Sarah Stevenson said...

Da iawn! Dw i'n edrych ymlaen at dy gyfarfod di hefyd. Bydda i'n mynd fel dysgwraig, ond hefyd, bydd y Bwrdd yn cyfarfod yn ystod cinio drwy'r wythnos.