Saturday, April 19, 2008

Prysur Dros Ben

Ydw, dw i yma o hyd, heh heh. Dw i'n siwr mod i wedi dweud yr hyn o'r blaen, ond dw i wedi bod yn anobeithiol o brysur. Am rhyw rheswm, mae rhyw saith prosiect bod angen i fi eu gwneud cyn dydd Mawrth. Sut yn y byd ddigwyddodd hynny?? Pam mae'r 22 o Ebrill yn "D-Day" i fi? Traethodau i'w marcio, rhaglen i'r ddrama nesaf i'w cynllunio, prawf terfynol yn nosbarth Sbaeneg...a'r wythnos 'ma dw i wedi bod yn sâl gyda annwyd, felly do'n i ddim yn gynhyrchiol iawn cyn hyn.

Mae'n flin 'da fi bod yr hyn ddim yn ddiddorol iawn--rhestr o pethau i'w wneud ydy e, 'tefe. Mwy o ddiddordeb yn y dyfodol agos, dw i'n addo.

2 comments:

asuka said...

pob llwyddiant yn dy brawf sbaeneg di. rhaid bod hi'n brofiad rhyfedd, ar ôl dod cyn belled yn y gymraeg, gorfod mynd 'nôl bron i'r dechrau mewn iaith arall!

Sarah Stevenson said...

Diolch, asuka! Ydy, mae'n rhyfedd tipyn bach. Bob tro mod i ddim yn gwybod gair yn Sbaeneg, dw i'n droi i'r Gymraeg neu i'r Ffrangeg! :)