Dw i wedi penderfynu ysgrifennu'r meme hwn yn Gymraeg, achos dw i angen yr ymarfer. Efallai bydd hi'n cymryd dyddiau i'w gorffen, ond dw i'n benderfynol beth bynnag. Felly, dyma 25 peth amdana i--a dw i ddim jyst yn cyfieithu o fy rhestr yn Saesneg ar Facebook, dw i'n addo.
- Cymerais i fy nghwrs Cymraeg cyntaf pan o'n i'n fyfyrwraig yn UC Berkeley yn 1996.
- Dw i wedi teithio i Gymru 4 gwaith: yn 1983 (pan o'n i'n blentyn), 1990, 1996, a 2000. Mae hi'n hen bryd i fi fynd eto! (Yn 2010 yn bendant byddwn ni'n mynd.)
- Dw i'n hoff iawn o deithio a dw i wedi ymweld â Tseina, Siapan, Ffrainc, yr Eidal, Yr Alban (wel, dim ond Caeredin), Cymru, Lloegr, yr Almaen, Luxembourg, Canada, Mexico, a nifer o daleithiau yn yr UDA.
- Hoffwn i ymweld â Awstralia achos mae 'da fi hanner-chwaer sy'n byw yn Brisbane. Dyn ni erioed wedi cwrdd â'n gilydd, ond dyn ni wedi bod yn e-bostio ers cwpwl o flynyddoedd yn ôl.
- Ces i 'ngeni ger Los Angeles, California.
- Ces i fy magu yn Riverside, hefyd yn Ne California, ond dw i wedi bod yn byw yng Ngogledd California am tua 16 blynedd.
- Digon am y ffeithiau bob-dydd diflas. Ym...mae print gen i yn yr Amgueddfa Celfyddydau Metropolitan yn Efrog Newydd--rhan o set o brintiau gan nifer o artistiaid. Yn wir, dw i'n credu ei fod e'n rhywle yn y seler, yn y Casgliad Papur.
- Mae hi'n anodd i fi gofio geirfa yn Gymraeg...ond hefyd, weithiau mae hi'n anodd i fi gofio geirfa yn Saesneg, a dw i'n siwr fy mod i'n colli brain cells, neu mae tiwmor 'da fi neu rhywbeth.
- Fues i eriod yn sgio.
- Dw i'n gallu gweu, ond dw i'n araf iawn, does dim llawer o amser rhydd i'w wneud, a dw i ddim wedi gorffen unrhywbeth eto.
- Mae rafft awyr 'da ni, a dyn ni'n lico mynd lawr yr afon ychydig o weithiau bob haf, yn ymlacio a yfed cwrw. Mae afonydd eitha tawel yn yr ardal, yn berffaith i gael taith fach neis. (Croeso i ddod gyda ni! Jyst plis peidiwch â fy slapio ar yn pen ôl heb caniatad...)
- Y llyfr olaf y gorffennais i oedd Writing Down the Bones gan Natalie Goldberg--llyfr wych am ysgrifennu.
- Fues i eriod yn Pakistan, er mod i'n cael nifer o perthnasau yno. Mae tipyn bach o ofn arna i am deithio yno.
- Dw i'n casau'r lliw pinc, a lliwiau pastel yn gyffredinol.
- Pan o'n i'n ifanc, ro'n i eisiau cael neidr fel anifail anwes, ond dw i erioed wedi cael un, er mod i'n dal i'w hoffi nhw. Dw i'n meddwl eu bod nhw'n ciwt. Yn wir. (Ystlumod hefyd, ond dyn nhw ddim yn anifeiliaid anwes da...)
- Roedd ci bach Pomeranian 'da fi pan o'n i'n ifanc, ac ar hyn o bryd mae dwy gath 'da fi. Dw i'n "berson cathod," ond dw i ddim yn "wraig gathod gwallgof."
- Dw i wedi mynd i ddwsinau o gyngherddau roc--i fod yn onest dw i ddim yn siwr faint yn union. Y cyngerdd olaf a welais i oedd Chris Cornell. Cake bydd y cyngerdd nesaf.
- Hoffwn i ddysgu mwy am fandiau Cymraeg/Cymreig, ond mae hi'n anodd gwybod sut i ddechrau ffeindio bandiau dw i debyg i'w lico nhw.
- Dw i'n hoffi coginio yn fawr iawn--dw i'n gallu ymlacio, yfed gwydraid (neu dau, neu tri) o win, ac ar y diwedd, mae pryd o fwyd blasus i'w fwynhau.
- Dw i ddim yn hoffu dysgu fel athro. Dw i ddim yn gallu dysgu fel athro--ar ôl jyst ychydig bach o ddarlith yn nosbarth fy ngwr, dw i wedi ymladd. Dw i mor nerfus o flaen y dosbarth, dw i'n chwysu a chrynu. Mae'n od, ond dw i ddim mor nerfus pan dw i'n rhoi araith neu rhywbeth.
- Dw i wedi bod yn canu'r piano ers 4 oed, ond dw i ddim wedi bod yn ymarfer yn gyson ers wedi bod yn y prifysgol, felly dw i ddim yn dda iawn ar hyn o bryd. Ond, dysgais i "Hey Jude" yn ddiweddar.
- Hoffwn i ddysgu chwarae'r drymiau rhywbryd. Dw i wedi chwarae drymiau tipyn bach iawn iawn jyst ar ôl y prifysgol, pan gawson ni roommate gyda set o drymiau, ond dw i ddim yn gallu eu chwarae nhw yn wir.
- Os dw i'n yfed ychydig gormod o goffi, dw i'n mynd yn nerfus, a mae fy nghalon i'n rasio. Os dw i'n yfed ychydig gormod o alcohol, dw i'n mynd yn ddigalon, a dw i'n crio.
- Mae talent mawr 'da fi mewn anwybyddu llanastr yn y tŷ, ar yr amod nid bod pethau yn rili frwnt.
- Dw i'n hoffi gohirio. (Fel dych chi'n gallu gweld...)