Yr wythnos yma, fe ges i neges oddi wrth yr LlGC--mae
Cymru ar y We wedi'i ail-gynllunio. Dw i wedi bod yn defnyddio CAYW o bryd i'w gilydd i ymchwilio erthyglau neu ffeindio rhyw wybodaeth hanesyddol/daearyddiaethol ar gyfer fy nofel i bobl ifanc. Mae CAYW'n wych--tsecwch hi allan! (Oedd hynny'n Americanism ofnadwy?)
Yn siarad am fy nofel, ym...dw i'n dal i'w ysgrifennu...jyst wedi gorffen Pennod 18 dydd Llun. Rhyw ddyrnaid o bennodau ar ôl! Hoffwn i ei gorffen cyn diwedd yr haf. Dw i wedi ymuno â grwp awduron sy'n sgrifennu nofelau i bobl ifanc er mwyn para i ysgrifennu dros dyddiau poeth yr haf.
Hei, oes côd nodau am w^?
No comments:
Post a Comment