Wednesday, June 30, 2004

'Nôl o Mexico

Ie, bues i ym Mexico am gyfnod, a dyma fi yn ôl heb salwch neu glefyd. A dweud y gwir, mae'n od iawn ond ers i ni ddod yn ôl, mae fy stumog wed bod yn teimlo'n ych-a-fi. Ond doedd dim byd yn bod arni dros y daith. Dyma beth da, dwi'n dyfalu.

Fe aethon ni i briodas ein ffrind David, a oedd yn priodi menyw o Celaya, Mexico--taith dair awr a hanner gyda'r bws o Mexico City. Ond cawson ni antur ar ôl i ni gyrraedd ym Mexico City achos bod David yn trefnu ein gwesty, ond mewn gwirionedd, dim gwesty oedd e, ond gwely-a-brecwast mewn fflats y brifysgol Mexico, a doedd dim stafell gadw gyda'n enwau ni. Hefyd, doedd neb gartre yno i adael ni i mewn, a wnaeth y ceidwaid ddim eisiau gadael ni i mewn heb fod rhywun yno. Doedd y ceidwaid ddim yn gwybod enw David, a do'n ni ddim yn gwybod enw y fenyw oedd biau'r gwely-a-brecwast. Addawodd David e-bostio ni gyda'r manylion i gyd, ond gwaetha'r modd, roedd e'n mynd yn ffôl gyda trefnu'r priodas, felly dim e-bost. A fi heb lawer o Sbaeneg. Yn ffodus, daeth perchennog y gwely-a-brecwast yn ôl ar ôl awr...ac aeth gweddill y daith yn dda iawn, gydag ymweliad i'r pyramids yn Teotihuacán. Roedd y priodas yn hyfryd a'r parti yn dymunol gyda llawer o tequila, wrth gwrs.

Gwaetha'r modd, dw i ddim yn hoff iawn o tequila.

No comments: