Wednesday, November 17, 2004

Pethau yn Saesneg - Dim Iaith y Nefoedd Yma

Dw i wedi cyhoeddi erthygl newydd ar fy ngwefan Suite101.com--mae'r erthygl ddiweddaraf yn sôn am flogiau Cymraeg.

Os dych chi'n tybed beth sy'n digwydd ar Gwrs Cymraeg Cymdeithas Madog bob haf, dyma erthygl i chi am y Cwrs Haf 2004 yn Ottawa, prifddinas Canada. Hefyd, mae 'na lluniau a copi'r Papur y Cwrs sy'n cael ei gynhyrchu bob tro.

Beth am ieithoedd eraill? Mae'r arwyddion i gyd yng ngorsaf trên Newcastle wedi cael eu cyfieithu i'r Lladin gan artist Michael Pinsky.

Mae'r iaith Inuktitut, yn cael ei siarad gan bobl Inuit yng Ngogledd Canada, wedi dod o hyd i gartre ar y we, yn ôl y BBC. Mae gwefan Attavik yn creu ffyrdd i bobl Inuit ddefnyddio eu hiaith nhw ar y cyfrifiadur. Hefyd dych chi'n gallu gweld gwyddor yr iaith Inuktitut ar y wefan hon.

4 comments:

Nwdls said...

Gret o erthygl, ella'r gyntaf i fi weld yn Saesneg am flogiau Cymraeg. Mae'n bosibl iawn y bydd y teclyn BBC Vocab yn helpu lot yn y dyfodol efo geirfa i ddysgwyr.

Ma hefyd yn braf gweld blog arall Cymraeg yn ymddangos, yn arbennig un o America. Ti wir yn byw yn California? Oes gen ti gyswllt Cymreig ta? Be sy'n gwneud ti mor benderfynol i ddysgu Cymraeg? Cwestiynau lu, sori!

Edrych mlaen i ddarllen mwy gen ti. Pob hwyl.

Nwdls

Rhys Wynne said...

Iei, blog Cymraeg arall :-) Gyda llaw, dyw'r ddolen (link) yn yr arthygl at restr Nic ddim yn gweithio, ti wedi cynnwys atalnod yn yr url.

Sarah Stevenson said...

Diolch, Nwdls a Rhys! Dw i'n falch iawn eich bod chi'n mwynhau fy mlog. Dw i erioed yn siwr os mae unrhyw un yn ei ddarllen...

Hefyd, Rhys, diolch am y nodyn; dwi wedi cywirio y cysylltiad yn fy erthygl arall. Wps.

Sarah Stevenson said...

O--hefyd, pan mae mwy o amser 'da fi, postiaf i gysylltiadau i'ch blogiau ar fy rhestr bach blogiau Cymraeg...ar ôl i fi wella ar ôl wedi bwyta gormod ddoe dros y Diolchgarwch.