Tuesday, May 31, 2005

Hwre am Astudio!

Ie, dw i'n geek enfawr. Ond dw i'n hapus fy mod i'n gallu ffeindio amser i ddysgu Cymraeg. Dw i 'di bod mor brysur y dyddiau yma; doedd dim lot o gyfle i fi fwyta neu cysgu, heb son am astudio Cymraeg.

Yn y wythnosau diweddar, dw i wedi bod yn adolygu rhai o'r taflenni Get Fluent. Daliais i'n llwyr y geirfa am aelodau'r teulu a phethau eich bod chi'n gwneud ar eich gwyliau. Dw i ar fin adolygu'r geiriau am fwydydd--pwysig iawn, gan mod i'n hoff iawn o'r bwyd. A dw i wedi dechrau darllen llyfr bach o'r enw Hanesion Hyll: Y Celtiaid Cythryblus, a brynais i mewn pabell Cyngor Llyfrau Cymraeg yn ystod Eisteddfod Cenedlaethol 2000 yn Llanelli. Hwre! Dw i'n ei ddarllen e o'r diwedd! Ar ôl hynny, mae 'da fi lyfr i bobl ifanc gan Terry Pratchett, yn Gymraeg, a brynais i yn yr un lle. Ond hefyd, dw i'n chwennych mwy o lyfrau "Cam at y Cewri" (Gomer Press)--nofelau enwog wedi cael eu haddasu i ddysgwyr. Mae 'da fi O Law i Law gan T. Rowland Hughes ac roedd e'n wych.

2 comments:

Rhys Wynne said...

A'i 'Lleidr Amser' amser gan Terry Pratchett wyt ti wedi brynnu? Hyd y gwyddwn i hwn yw'r unig nofel ganddo sydd wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg. Darllenais y llyfr hwn ar ol hanner darllen yr un Saesneg. Rhaid i mi dy rybuddio y bydd yn weddol anodd, ond mae'n gyfieithiad da ar y cyfan. Does dim llyfrau gyda'r math yma o stori/hiwmor wedi ei ysgrifennu yn y Gymraeg i mi wybod am.

Sarah Stevenson said...

Heia Rhys! Teitl y nofel sy 'da fi yw "Dim Ond Ti All Achub y Ddynoliaeth." Gwasg Gwynedd yw'r cyhoeddwr. Dw i'n credu ei bod hi'n nofel i arddegau, felly gobeithio fydd hi ddim yn rhy anodd (ar wahan i'r Gymraeg anffurfiol). Efallai ar ol hynny--ac ar ol y Cwrs Cymraeg mis nesaf--chwiliaf i am "Lleidr Amser." Diolch am y syniad (a'r rhybudd hefyd).