Wednesday, February 22, 2006

Ty Bach

Dw i'n aros am y plymer sy'n gwneud rhyw cyweiriadau i'n stafell 'molchi ni. Yn ffodus, y stafell 'molchi gwestai ydy'r un sydd angen y pibelli newydd. Mae popeth yn iawn gydag ein ty bach yn y stafell wely, diolch byth.

Mae llawer o bethau wedi bod yn cael eu trwsio yn ein ty ni y dyddiau yma. Mae 'da ni llawr newydd yn y gegin, gyda linoliwm neis iawn. (Bydd ffotos ar fy mlog arall yn Saesneg cyn bo hir.)

Tasg enfawr ydy bod yn llywydd grwp Cymraeg. A hefyd, yn trefnu cynhadledd.

A heddiw, dw i ddim yn teimlo'n dda iawn. Yr wythnos ddiwetha, roedd Rob yn sal tipyn bach. Gobeithio dw i ddim wedi dal y peth. Ro'n i'n tisian drwy'r bore. Mae'r tywydd wedi bod yn eitha ffres--yn y 40au a'r 50au--ond dw i'n teimlo'n oer er bod y twymydd yn dweud bod hi'n 70 yn y ty. Hefyd, dw i ddim yn gallu cofio geirfa Gymraeg o gwbl. Druan a fi.

3 comments:

chjajones said...

Edrych ar http://www.s4c.co.uk/bandllydan/c_index.shtml
pan ydy chi'n aros
Chris

Chris Cope said...

Roeddwn i eisiau mynd i'r cwrs eleni, ond chaf i ddim cyfle. Peth wella, efallai, i symud i Gaerdydd, ond dw i erioed eisiau mynd a ches i ddim cyfle. Efallai yn y dyfodol...

Sarah Stevenson said...

Diolch, Chris yn Wheaton!

Chris Cope - bydden ni'n hapus dy weld di ar y cwrs unrhyw bryd! Os nid eleni, efallai yn hwyrach.