Monday, March 20, 2006

Ymlacio

Roedd ein taith ni i Seattle yn bendigedig. Fe aethon ni yno y penwythnos diwetha i ymweld a ffrindiau. Beth wnaethon ni? Wel, gan amlaf, yfed cwrw, canu karaoke, bwyta, a chwarae yn y parc (dim ar yr un pryd, wrth gwrs). Noson Wener, fe aethon ni i dy bwyta pizza, ac wedyn fe sleifion ni alcohol i mewn i lle karaoke er mwyn gael parti bach yn ein stafell yno. Roedd chwech ohonon ni, a canon ni i gyd cwpwl o ganeuon yr un.

Ddydd Sadwrn, fe hwylion ni ar y fferi i Ynys Bainbridge i gyfarfod â ffrind arall yn nhref fach bert arfordirol o'r enw Port Townsend. Fe gawson ni ginio mewn tafarn; fe gerddon ni o gwmpas siopau a strydydd y dref, ac wedyn fe aethon ni i Fort Warden State Park i daflu pêl o gwmpas a mwynhau'r ffaith bod dim glaw.

Yn y noson, fe aethon ni i dafarn arall o'r enw McMurphy's, lle roedd karaoke yn rhad ac am ddim. Ond roedd hynny'n antur hefyd. Bore Sadwrn, fe aeth Rob a fi yn rhedeg yn Seward Park gyda Chloe, yn mwynhau'r tywydd braf (ond oer), ac wedyn fe gawson ni brunch gwych a tro ym mharc arall. Roedd hi'n daith yn hollol hyfryd.

2 comments:

James said...

Da iawn am y daith hyfryd, mae'n clên i mynd ar gerdded i newid. Mae fy ngwraig a fi yn mynd â
daith gwanwyn cyn bo hir a dw i'n edrych ymlaen ati.

Sarah Stevenson said...

Diolch! Gobeithio y gewch chi daith hyfryd, hefyd!