Sunday, August 27, 2006

Siomedig

Dim postio ers lawer dydd. Dw i'n ceisio canolbwyntio ar fy ngwaith ysgrifenedig, sef fy nofel i bobl ifanc. Dw i'n ail-olygu'r peth cyn i fi ei anfon hi ma's unwaith eto. A dweud y gwir, dw i'n ail-ysgrifennu llawer o benodau. Mae hi'n waith caled iawn. Do'n i ddim yn hapus gydag un o'r prifgymeriadau--roedd hi tipyn bach yn ddiflas ac yn afrealistig. Felly mae rhaid i fi ei gwneud hi'n fwy "sassy" neu rhywbeth. Hefyd, roedd ei pherthynas gyda'i mam-gu braidd yn deimladwy. Do'n i ddim yn gallu sylwi ar bethau fel hynny yn gynt yn y broses golygu.

Newyddion drwg am y casgliad storiau fer y ges i stori ynddo fe--fe adawodd golygydd y prosiect ei swydd. Felly pasiwyd y prosiect i olygydd arall yn y cwmni cyhoeddi, sy'n dros ben llestri erbyn hyn. Does dim syniad 'da fi pryd caiff y llyfr ei gyhoeddi nawr. Argh!!

1 comment:

James said...

Ydy, mae e'n anodd iawn i feddwl o rywbeth i ysgrifennu am a dw i ddim ysgrifennwr. Dw i'n a bwrw fod mae'n gwaeth i ti.