Monday, September 10, 2007

Cysylltiadau, a.y.y.b.

...a.y.y.b., ar y rhan fwyaf. Ond yn gyntaf, dyma'r cysylltiadau. Heno roedd rhaglen ar BBC Radio 4 "Word of Mouth" yngly^n â "language policy in the bilingual societies of Quebec, Wales and Northern Ireland." Mae'n bosib gwrando ar y rhaglen dros y wê, dw i'n credu. Dw i ddim wedi cael cyfle i wrando arni hi eto, ond mae'n swnio'n ddiddorol. (Diolch i'r rhestr WELSH-L.) Yn ail--a dw i'n siwr eich bod chi wedi clywed hynny'n barod achos dw i wedi methu postio hynny nes heddiw--mae tair prifysgol yn Nghymru wedi mynd yn annibynnol--Aberystwyth, Bangor, ac Abertawe. Dw i ddim yn siwr os ydy hynny'n golygu bod y prifysgolion yn preifat nawr hefyd, neu os ydyn nhw'n cael eu noddi gan y llywodraeth eto. Diolch i fy mam am anfon yr erthygl i fi.

Llongyfarchiadau i Chris, a ennillodd Gwobrau Blogiau am Blog Americanwr Cymreig Gorau a Blog Dysgwr Gorau hefyd--yn Saesneg ac yn y Gymraeg. Gwych! Rwyt ti'n un o'r "cool kids" nawr, Chris! :)

Nid llawer iawn o ddiddordeb yma. Mae'r adeiladwyr yn dal i weithio ar ein ychwanegiad, a dw i'n dal i methu tynnu lluniau o'r prosiect. Erbyn hyn mae waliau, byrddau ar y tô, a chwpwl o ffenestri. Mae'n bosib gweld pa mor fawr bydd y peth pan fydd e wedi gorffen. Dw i'n ail-cynllunio ein gwefan ni--dw i'n hoff iawn o'r botymau. Ond does dim llawer o amser rhydd 'da fi ar gyfer gwneud hynny, felly mae dim ond tudalen flaen newydd ar hyn o bryd. O! Dw i wedi anfon cynnig ar gyfer fy nofel ddiweddaraf at ddau asient. Gobeithio bydd diddordeb gyda un neu'r llall yn y llawysgrif llwyr...

4 comments:

Rhys Wynne said...

Dwi'n ceisio gwrando ar y rhaglen radio rwan, ond dwi'n meddwl mae'i rhaglen wythnos diwethaf sydd ar-lein ar hyn o bryd. Er tydi hi ddim yn 9:00 o'r gloch bore eto! Mae'n digwydd bod bod yn trafod ymdrech dau berson o wasanaeth sbaeneg y BBC i deithio ar draws UDA yn isarad Saesneg, fel postiodd Chris amdano sbel yn ôl:
http://www.chriscope.co.uk/2007/07/fcil.html

Dwi ddim yn meddwl bod llawer o wahaniaeth yn y ffaith bod Prifysgol Cymru'n chwalu, dim ond bydd yr enwau ar y ystysrifau gradd yn wahanol. yn fy marn i mae'n biti, gan fod 'Prifysgol Cymru' yn undeb mawr a hanesyddol.

'Estyniad' yw'r gair rydym yn ddefnyddio am extension i dŷ.

Hoffi edrychiad newydd y wefan gyda llaw.

Nic said...

Wnes i wrando ar y rhaglen ar y radio neithiwr, ond doedd dim sôn am ddwyieithrwydd yn y hanner cyntaf, naci yn y cyflwyniad....

Ac oedd Natural Born Killers ar Film 4...

Felly, sa i'n gwybod. Mae arno prynhawn 'ma am 4.00.

Sarah Stevenson said...

Diolch Rhys a Nic am y sylwadau. Dw i ddim yn siwr am y rhaglen ond gobeithio y bydd hi ar gael cyn hir.

"Estyniad" - diolch. Bydd hynny'n gair defnyddiol!

A diolch am y ganmoliaeth am edrychiad newydd fy ngwefan. Dw i'n hoffi chwarae gyda pethau fel 'na, ond dim ond "small-time" ydw i fel cynlluniwr wefannau...

Anonymous said...

Nofel ddiweddaraf? Pa nofelau ti wedi sgwennu, felly?

Efallai gelli di fwrw cipolwg ar fy mlogel (heb ei gorffen eto) a dweud wrtha be ti'n meddwl amdani?